O “Ffoaduriaid” i “Estron-elynion”: Almaenwyr ac Awstriaid yn Aberystwyth yn ystod yr Ail Ryfel Byd

Morris Brodie, Cynorthwy-ydd Arddangosfeydd ym Mhrifysgol Aberystwyth

Yn Archifdy Ceredigion yn Aberystwyth, mae llyfr a luniwyd gan Heddlu Sir Aberteifi yn 1939 yn cynnwys lluniau o ffoaduriaid Iddewig a ffodd rhag gormes y Natsïaid cyn yr Ail Ryfel Byd. Nid cofnodion o letygarwch Cymreig yw’r rhain, ond cofnodion arestio, a gadwyd o ganlyniad i ailddosbarthu’r holl Almaenwyr ac Awstriaid oedd yn byw ym Mhrydain ar ddechrau’r rhyfel – beth bynnag oedd eu cydymdeimlad gwleidyddol a’u cefndir – fel “estron-elynion”. 

Roedd llawer ohonynt wedi colli eu dinasyddiaeth dan reolaeth y Natsïaid; er gwaethaf hyn, roedd yn ofynnol iddynt ddod at yr heddlu ac ymddangos gerbron tribiwnlysoedd arbennig i benderfynu a oeddent yn “gyfeillgar” – ac felly’n cael eu hystyried yn “risg isel” – neu’n “anghyfeillgar”. Gallai’r gwahaniaeth olygu cael eu caethiwo mewn gwersyll ar Ynys Manaw, neu hyd yn oed gael eu halltudio i Ganada neu Awstralia. Llwyddodd y rhan fwyaf o’r Almaenwyr a’r Awstriaid i osgoi’r dynged hon ar y dechrau, er bod rhai cannoedd wedi’u caethiwo.

Dau ffoadur a restrir yn Llyfr Memo Heddlu Sir Aberteifi yw Werner ac Elspeth Rüdenberg, yn wreiddiol o’r Almaen ond ym Medi 1939 yn byw yn Rheidol Terrace yn Aberystwyth. Mae profiad y fam a’r mab yn unigryw ond nid yn annodweddiadol o brofiad y ffoaduriaid a gyrhaeddodd i Gymru ar ddechrau’r Ail Ryfel Byd.

Ffigwr 1. Mae Llyfr Memo’r Heddlu yn cynnwys tudalennau gyda gwybodaeth am Werner Rüdenberg a’i fam Elspeth (Elizabeth), a oedd yn byw yn Rheidol Terrace yn Aberystwyth (O gasgliadau Archifau Ceredigion, rhif cyf. MUS/204)

Mae hanes y Rüdenbergs yn Aberystwyth yn dechrau ym Merlin yn 1936. Yn dilyn Deddfau Nuremberg ym 1935, oedd yn golygu bod Iddewon yr Almaen wedi eu hamddifadu o’u hawliau, mae brawd Werner, Reinhold, yn paratoi i ffoi o’r wlad gyda’i wraig, Lily, ei fab Hermann a’i ferch Angela. Gyda chymorth Thomas Jones, gwas sifil, addysgwr a llywydd Prifysgol Aberystwyth yn ddiweddarach, mae’r teulu ifanc yn dianc i Brydain ac yn ymuno â’u mab arall, Günther, sydd eisoes yn astudio yn Lloegr. Cyn dechrau swydd ym 1938 fel athro peirianneg drydanol ym Mhrifysgol Harvard yn yr Unol Daleithiau, fodd bynnag, mae Reinhold yn erfyn ar Jones i gynorthwyo i sicrhau cyflogaeth i’w frawd hŷn Werner, dyn busnes ac ysgolhaig o fri yn Tsieina.

Hyd at ddiwedd 1937, roedd Werner a’i wraig Anni wedi bod yn byw yn Shanghai, lle bu Werner yn gweithio i gwmni allforio o’r Almaen. Yn dilyn ei ddiswyddiad ar sail ei darddiad Iddewig, teithiodd Werner ac Anni i Brydain, gan gyrraedd mewn cwch ym mis Chwefror 1938. Gyda chymorth Jones, mae Werner yn sicrhau cytundeb i ysgrifennu geiriadur tafodieithol Saesneg-Shanghai (roedd eisoes wedi cyhoeddi’r geiriadur Almaeneg-Tsieineaidd cyntaf yn 1924). Penderfyna Werner weithio ar y llyfr yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a daw hyn â’r cwpl i Aberystwyth ym mis Ebrill 1939. Ymuna matriarch teulu Rüdenberg, Elspeth, oedd wedi bod yn byw gyda’i merch yn Freiburg ac a oroesodd Gyflafan mis Tachwedd (Kristallnacht), â’i mab hynaf yn Aberystwyth, ond pan ddaw’r rhyfel i ben ym Medi 1939, mae Werner yn cael ei arestio fel “estron-elyn”.

Mae Werner yn cael ei ddal ar ôl bod am dro un nos Sadwrn ac fe’i gwaherddir rhag mynd ag unrhyw fwyd, bagiau na chôt hyd yn oed gydag ef. Trwy gyd-ddigwyddiad anffodus, mae Dr Julius Sonnenfeld a’i wraig Elizabeth (cyfnither Werner) yn aros gyda’r Rüdenbergs ar y pryd, hwythau hefyd wedi llwyddo i ddianc o’r Almaen. Er mai dim ond am gyfnod byr y maen nhw yn Aberystwyth ar eu ffordd i ymfudo i’r Unol Daleithiau, nid yw’r Sonnenfelds ychwaith yn llwyddo i osgoi’r cyfnod hwn o ddal estroniaid. Mae Julius a Werner yn cael eu trosglwyddo i Garchar Abertawe a’u cadw yno am rai dyddiau. Mewn cyflwr o banig ac yn methu gadael y tŷ ar ei phen ei hun, mae Anni yn ysgrifennu at eu gwarantwr, Thomas Jones i ofyn cymorth. Anfona Jones delegram i’r Swyddfa Gartref yn cwyno am frwdfrydedd eithafol yr heddlu lleol ac mae’n llwyddo i sicrhau eu rhyddhad.

Er ei fod wedi ei ysgwyd gan y profiad, cysurir Werner gan ymateb trigolion lleol Aberystwyth. Mae’n ysgrifennu at Jones ei fod wedi cael ei stopio ar y stryd “gan nifer o bobl heddiw oedd yn dymuno mynegi eu llawenydd o fy ngweld yn ôl”. Ym mis Hydref 1939, mae’r Sonnenfelds ac Elspeth Rüdenberg yn gadael yr ardal am byth, gan hwylio i’r Amerig i ymuno â Reinhold, Lily a’u tri phlentyn.

I Werner ac Anni, fodd bynnag, nid dyna ddiwedd yr helbul. Maent yn gadael Aberystwyth ym mis Ionawr 1940 ac yn symud i Gaergrawnt, lle mae ysgolhaig Tsieineaidd wedi cynnig helpu Werner i orffen ei eiriadur. Yn y cyfamser, mae brawd Anni, Fritz Pincus a’i wraig Lily hefyd yn dianc o’r Almaen a (gyda chymorth Thomas Jones) yn ymgartrefu yn Harlech, Gwynedd. Ym mis Mai 1940, mae digwyddiadau allanol unwaith eto yn drech na chynlluniau’r Rüdenbergs. Mae symudiad y Wehrmacht drwy’r Iseldiroedd, Gwlad Belg a Ffrainc yn pryderu llywodraeth Prydain, a gwneir y penderfyniad i garcharu pob “estron-elyn” gwrywaidd (a oedd, erbyn Mehefin 1940, yn cynnwys gwladolion Eidalaidd). Caiff tua 28,000 o bobl, y mwyafrif helaeth ohonynt yn ffoaduriaid Iddewig, eu caethiwo a’u dal mewn gwersylloedd ledled Prydain. Caiff Werner a Fritz eu harestio, ac mae Werner yn cael ei roi ar long i Ynys Manaw, lle cafodd mwyafrif y carcharorion eu dal yn y pen draw.

Ffigwr 2. Tystysgrif Eithrio Caethiwedigaeth Werner Rüdenberg. Er iddo gael ei eithrio i ddechrau, caiff ei ail-arestio ar ôl digwyddiadau mis Mai 1940 (Yr Archifau Gwladol, HO 396/193)

Ysgrifenna Anni unwaith eto at Jones am gymorth, ond ar yr un pryd, mae’n ymddangos ei bod wedi derbyn yr angen am gaethiwed ei gŵr:

Yr hyn sy’n cyfrif i bob un ohonom yw’r achos da a’r fuddugoliaeth derfynol. Rydym wedi clymu ein tynged â thynged Prydain Fawr yn wirfoddol. Eich gobeithion chi yw ein gobeithion ni, eich buddugoliaeth chi yw ein buddugoliaeth ni, a’n dymuniad dwysaf yw cael rhannu ychydig flynyddoedd o fywyd heddychlon gyda phob un ohonoch chi pan ddeuir â’r rhyfel ofnadwy hwn i ben yn dda.

Anni Rüdenberg i Thomas Jones, 19 Mai 1940

Ar ôl pum mis, caiff Werner ei ryddhau ac mae’n dychwelyd i Gaergrawnt, lle mae’n cael swydd yn dysgu Almaeneg i swyddogion sy’n hyfforddi gyda’r Fyddin Brydeinig (dim ond ym mis Mawrth 1941 y rhyddheir Fritz Pincus). Mae Anni yn gweithio fel teipyddes yn y brifysgol, ac yn teipio i’r athronydd adnabyddus Ludwig Wittgenstein hyd yn oed. Ar ôl y rhyfel, mae’r cwpwl yn dychwelyd i “hen Aber annwyl” ar wyliau “i weld yr hen lefydd ac wynebau eto”, ac yn dal i gadw mewn cysylltiad â’r teulu Owen, eu landlordiaid “am naw mis hapus yn 1939, – hapus, hynny yw, ac eithrio’r pedwar diwrnod o garchariad yng Ngharchar Ei Mawrhydi yn Abertawe”. Yn y pen draw, mae Werner yn dod yn ddinesydd Prydeinig, ac yn cael swydd yn dysgu ym Mhrifysgol Queen Mary yn Llundain. Mae’n marw yn 1961, ac mae Anni’n byw i fod yn 103 ac yn marw yn 1989.

Mae hanes y Rüdenbergs yn dangos mor fregus oedd bywyd ffoaduriaid yng Nghymru ar ôl dianc rhag gormes y Natsïaid. Mae’n pwysleisio hefyd bwysigrwydd gweithredoedd unigolion fel Thomas Jones i sicrhau statws i ffoaduriaid, er gwaethaf polisi swyddogol y llywodraeth ar geiswyr lloches. Roedd pobl gyffredin yn aml yn groesawgar, fel y gwelir o atgofion melys Werner o Aberystwyth yn ystod ei gyfnod byr yno. Serch hynny, bu’r rhan fwyaf o Iddewon Ewropeaidd oedd eisiau ddianc rhag y Drydedd Reich yn ystod y 1930au yn aflwyddiannus, ac fe’u llofruddiwyd yn yr Holocost. Y rhai a gofnodwyd yn Llyfr Memo Heddlu Sir Aberteifi oedd rhai o’r rhai ffodus, hyd yn oed os oedd y driniaeth a gawsant gan yr awdurdodau ar brydiau yn ddiffygiol.

ON. Ysgrifennwyd y blog hwn fel rhan o brosiect Aberystwyth mewn Rhyfel, gyda chymorth Conor Brockbank. Mae’r blog gwreiddiol i’w weld ar wefan y prosiect.

Ffynonellau

Ellis, E.L., T.J.: A Life of Dr Thomas Jones, CH (Cardiff: University of Wales Press, 1992)

‘First Chinese-German Dictionary’, EVS Global Translations & Business Services, 24 January 2017 (https://evs-translations.com/blog/chinese-german/) (Accessed 13 April 2022)

Fritz Pincus Release Confirmation, 1941 (The National Archives; HO 396/271)

‘Obituary: H. Gunther Rudenberg’, Portland Press Herald, 18 January 2009 (https://www.legacy.com/us/obituaries/mainetoday-pressherald/name/h-rudenberg-obituary?id=24519648) (Accessed 13 April 2022)

Pistol, Rachel, Internment during the Second World War: A Comparative Study of Great Britain and the USA (Bloomsbury, 2017)

Police Memo Book ‘Aliens’ Photographs’ (Ceredigion Archives, MUS/204)

Thomas Jones CH Papers (National Library of Wales; WW25; General Correspondence R; 68-77)

Thomas Jones CH Papers (National Library of Wales; M2; Refugees, von Metzradt-Sonnenfeld; 25-276)

Werner Rüdenberg Internment Exemption Certificate, 1940 (The National Archives; HO 396/193)

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *