Ymchwilio i lwybrau “diwydianwyr o ffoaduriaid”

Tiffany Beebe, Ymgeisydd PhD o Brifysgol Colorado Boulder

Fel ymchwilydd PhD sy’n gweithio ar “ddiwydianwyr o ffoaduriaid” a ymgartrefodd ym Mhrydain yn ystod yr Ail Ryfel Byd, rwyf wedi treulio oriau di-ri mewn dwsinau o archifdai yn pori drwy hen ffeiliau busnes llychlyd ac adroddiadau’r llywodraeth. Peidiwch â ’nghamgymryd, rwyf wrth fy modd â’r gwaith ond weithiau gall pethau fod braidd yn rhy dawel. Ar ddiwrnod braf, oer o Dachwedd yn 2019 deffrais heb awydd wynebu diwrnod arall mewn ystafelloedd darllen; roedd angen i mi fod y tu allan. Ar fympwy, dyma neidio ar y bws i Bontypridd a hen Ystâd Fasnachu Trefforest i grwydro o gwmpas lle bu cymaint o’r diwydianwyr o ffoaduriaid rwy’n eu hastudio yn ailadeiladu eu bywydau ar ôl ffoi rhag y Natsïaid. O fewn eiliadau o gerdded i mewn i amgueddfa hanes lleol Pontypridd a sgwrsio â’r staff, cefais fy arwain i lawr i’r llawr isaf lle dywedodd yr aelod staff wrthyf yn gyffro i gyd fod yn rhaid i mi weld yr holl luniau oedd ganddynt o’r hen ystâd. Dyma’r math o gyfarfyddiadau ar hap y mae haneswyr yn breuddwydio amdanynt!

Lluniau Ffotograffig Leonard Taylor

Casglwyd y lluniau hollbwysig gan Leonard Taylor, a gafodd ei gomisiynu i olrhain hanes Ystâd Fasnachu newydd Trefforest yn 1939. Mewn nodyn a adawyd gyda’r casgliad, dywed i’r ystâd gyffroi ei ddychymyg o’r eiliad gyntaf y camodd oddi ar y bws yn Nhrefforest. Rhaid dweud mai dyna sut y teimlais innau hefyd – mae’r ystâd ddiwydiannol heddiw yn cynnwys cyfuniad rhyfedd o’r hen a’r newydd, sy’n aml yn ymddangos yn anniben mewn cymhariaeth â’r cynlluniau destlus gwreiddiol. Synnwyd Taylor gan y newid yn ymddangosiad ac ymdeimlad y lle, mewn cymhariaeth â’i ymweliadau cynharach, diolch i’r prosiect diwydiannol modern newydd. Dengys ei ffotograffau y rhaglen ddiwydiannol arloesol, ffatrïoedd newydd oedd ar gael i entrepreneuriaid a’r cyfleoedd cyflogaeth newydd oedd ar gael i ddynion, menywod ac oedolion ifanc yng Nghwm Rhondda. Mae’r naill lun ar ôl y llall yn dangos menywod yn gwneud trefn o gydrannau trydanol, dynion yn troi casgenni trwm o gemegolion ar gyfer y tanerdy lledr, rhesi o weithwyr yn gosod cynnyrch mewn bocsys i’w danfon i siopau ym mhob rhan o’r byd. Yn achos llawer o’r bobl yma, dyna oedd eu swydd ddiwydiannol gyntaf. Cloddio glo oedd yr arfer yma, a golygai’r Dirwasgiad Mawr fod dros 80% o bobl Cwm Rhondda wedi wynebu diweithdra yn ystod y 1930au. Mae lluniau du a gwyn Taylor yn croniclo’r ymdeimlad newydd o obaith yr oedd Trefforest yn ei gynrychioli.

Menywod yn gweithio yn ffatri J. Engl a gâi ei rhedeg gan y ffoaduriaid Jacob a Lina Engl a Rudolf ac Irma Waldt (trwy garedigrwydd Amgueddfa Pontypridd © Leonard Taylor)

Yng nghasgliad Taylor nid oes lluniau o’r entrepreneuriaid a gymerodd risg ar y fenter ddiwydiannol newydd hon, a’r rhai a ddaeth i Drefforest am fod y lle yn hafan ddiogel. Erbyn canol yr Ail Ryfel Byd, roedd 57 ffatri yn cael eu rhedeg gan ffoaduriaid yn ne Cymru, yn bennaf yn Nhrefforest. Dynion busnes Iddewig o’r Almaen, Awstria a Tsiecoslofacia oedd y ffoaduriaid hyn yn bennaf, a oedd wedi derbyn fisâu Prydeinig yn gyfnewid am ymgymryd â’r prosiect diwydiannol newydd hwn i greu swyddi. Pan oedd y rhyfel yn ei anterth, roedd ffatri Aero Zipp Joachim Koppel o Ferlin yn cyflogi bron i 350 o bobl, yn creu darnau metel ac offer ar gyfer y lluoedd arfog. Roedd Julius a Moritz Mendle yn cyflogi dwsinau o fenywod yn eu ffatri hwy, Mendle Bros., yn gwneud gogls plastig ar gyfer y Llu Awyr Brenhinol yn ystod y rhyfel, a nwyddau ymolchi wedi hynny. Mae cwmni Oskar Peschek a Hugo Kurzman, O. P. Chocolates, sydd bellach ym Merthyr Tudful, yn dal i werthu eu siocledi Awstriaidd enwog (ymysg danteithion eraill). Er mai dim ond rhai o’r busnesau hyn sy’n dal i fodoli heddiw (mewn amryfal ffurfiau), roeddent yn gyflogwyr pwysig yn ne Cymru am ddegawdau. Ymgartrefodd llawer o’r diwydianwyr o ffoaduriaid hyn yn ne Cymru, gan ddod yn arweinwyr cymdeithasol a diwylliannol pwysig o fewn eu cymunedau ac mae teuluoedd llawer ohonynt yn dal i fyw yn yr ardal heddiw.

Cerdded o gwmpas hen Ystâd Fasnachu Trefforest

Gyda fy nghopïau fy hun o waith Taylor yn fy llaw, dyma ddechrau mynd am dro o gwmpas yr hen ystâd fasnachu er mwyn gweld beth oedd yn dal ar ôl. Wrth gwrs, mae’r lle wedi newid yn sylweddol yn ystod yr 80 mlynedd diwethaf ond mae olion yr adeiladau art deco modernaidd i’w gweld o hyd. Er enghraifft, hen adeilad y swyddfa bost:

Ffotograff Taylor o adeilad y swyddfa bost yn D.7 yn 1939 (trwy garedigrwydd Amgueddfa Pontypridd © Leonard Taylor)
Fy llun i o adeilad y swyddfa bost yn 2019 (© Tiffany Beebe)

Gallwch weld sut mae’r adeilad wedi cadw’i strwythur sylfaenol, ond ei fod wedi cael ei addasu ar gyfer defnydd cyfoes. Mae’r uned ar y pen ar y chwith wedi bod yn swyddfa bost ers i’r lle agor yn 1938. Mae unedau banc Barclays a Lloyds a fu’n gweithredu o’r ddwy uned arall wedi hen gau ac mae llu o siopau eraill wedi bod yn y lleoliadau yma – yn union fel yr adeiladau gwreiddiol eraill ar yr ystâd.

Dechreuadau syml mewn ffatrïoedd safonedig

Tynnodd Taylor ffotograffau o sawl ffatri safonedig hefyd a oedd yn un o brif gymhellion arloesol lle fel Trefforest. Gellid addasu’r unedau ar gyfer pob math o weithgynhyrchu ac roedd modd eu rhentu ar brydlesi byr, a oedd yn gynnig delfrydol i entrepreneuriaid na allent fuddsoddi’n helaeth mewn prynu ffatrïoedd neu nad oedd angen addasu lleoliadau yn arbennig ar eu cyfer. Yn achos ffoaduriaid oedd yn dianc o’r Cyfandir, roedd cael gofod ffatri ar rent yn hanfodol. Fel arfer byddent yn dianc heb fawr ddim asedau ac roedd y ffatrïoedd yma’n rhoi cyfle iddynt sefydlu busnes yn hynod sydyn.

Ffotograff o res o ffatrïoedd safonedig ar y Stryd Fawr gan Taylor. Yn fuan iawn byddai ffatri Lion Leather yn dod i’r uned ar y pen, dan reolaeth y ffoaduriaid F. Adler a W. Loewenthal (trwy garedigrwydd Amgueddfa Pontypridd © Leonard Taylor)
Phoenix Straps, a leolwyd yn ffatrïoedd clwstwr B.5. Roedd Phoenix Straps yn eiddo i’r brodyr Kurt a Max Grunberger a ffodd o Awstria (trwy garedigrwydd Amgueddfa Pontypridd © Leonard Taylor)
Llun o’r ffatrïoedd safonedig sydd ar ôl o hyd yn A.4 ar Heol Hafren. Gallwch weld bod y rhain wedi’u newid nawr yn gyfres o siopau bychain a chaffis ar gyfer gweithwyr ar yr ystâd o ffatrïoedd cyfagos megis Greggs (llun gan Google street view)

Storïau sy’n sail i’r enwau

Yn anffodus, mae llawer o’r ystâd wreiddiol wedi’i dymchwel neu adnewyddu, neu mae’r adeiladau wedi’u trawsnewid yn adeiladau newydd sy’n wahanol iawn i’r rhai gwreiddiol (fel y ffatrïoedd clwstwr yn A.4 uchod). Serch hynny, gan ddefnyddio ffotograffau Taylor fel canllaw, llwyddais i adnabod sawl ffatri oedd yn arfer cael eu rhedeg gan ddiwydianwyr o ffoaduriaid. Hyd yn oed pan fo’r hen ffatrïoedd wedi diflannu (bron), mae modd ymchwilio o hyd i hanes y ffoaduriaid, diolch i’r enwau a adawyd ar eu hôl. Isod gwelir Rizla House, lleoliad ffatri A.2 General Paper & Box. Sefydlwyd General Paper & Box gan Paul Schoenmann, Herman Toffler a Rudolph Wilhelm yn 1939 i gynhyrchu papurau ar gyfer sigaréts a bocsys cardfwrdd. Er mai ffoaduriaid Iddewig oeddent i gyd, doedd yr un o’r dynion yn adnabod ei gilydd cyn mentro i fyd busnes ond roedd cysylltiad rhyngddynt drwy swyddfeydd Cyngor Diwydiannol Cenedlaethol Cymru yn Sir Fynwy. Datblygodd y cwmni papurau sigaréts i fod yn un o’u cwsmeriaid pennaf a phrynwyd y cwmni ganddynt yn 1948. Nid yw’n ymddangos fod yr adeilad modern hwn yn un gwreiddiol ond mae’n dal i gario’r enw Rizla.

Darllenwch fwy am deulu’r Schoenmann a gwrando ar eu stori gan George, mab Paul (Allanol)

Rizla House (trwy garedigrwydd Google street view)

Dim ond ychydig o ddrysau i lawr oddi wrth Rizla House mae’r adeilad gwreiddiol hwn o’r 1930au sy’n arddangos yr enw P. B. Leiner. Ffatri Treforest Chrome Leather oedd hon yn A.6 yn wreiddiol, dan berchnogaeth y ffoadur o’r Almaen, Hans Oestreicher. Ar draws y stryd yn A.12 roedd Treforest Chemical, dan berchnogaeth y teulu Leiner o’r Almaen. Gwnaeth y ddau gwmni yma’n dda iawn yn ystod y rhyfel gan ehangu’n ddiweddarach a thyfu’n rhy fawr i’w hen adeiladau. Prynodd cwmni P. B. Leiner, y cwmni cyfredol a ddeilliodd o Treforest Chemical, hen adeilad Treforest Chrome Leather ac mae’n dal i’w ddefnyddio heddiw.

Cyn-adeilad Treforest Chrome Leather, sydd bellach yn rhan o P. B. Leiner (a adnabuwyd yn wreiddiol ym Mhrydain fel Treforest Chemical)(trwy garedigrwydd Google street view)

Mae Ystâd Fasnachu Trefforest wedi newid yn sylweddol yn ystod 80 mlynedd gyntaf ei bodolaeth ond eto, mae’n dangos sut mae’r gorffennol a’r presennol wedi plethu yn ei gilydd yno. Wrth gerdded o gwmpas y lle heddiw, anodd deall fod y lle wedi bod yn hafan i ddwsinau o ffoaduriaid Iddewig yn y 1930au a’r 1940au gan dyfu, ar yr un pryd, i fod yn rhan hanfodol o hanes diwydiannol Cymru a dangos gwytnwch a gallu pobl leol i addasu yn wyneb heriau economaidd anodd y rhyfel byd. Mae hanesion plethedig Ystâd Fasnachu Trefforest yn ein hatgoffa y gallwn oresgyn caledi drwy gydweithio.


Cefndir yr Awdur

Mae Tiffany Beebe yn Ymgeisydd PhD ym Mhrifysgol Boulder. Mae ei gwaith ymchwil “Rebuilding Communities: Refugee Industrialists in the ‘Special Areas’ of Britain, 1934-1945” yn archwilio profiadau ehangach diwydianwyr o ffoaduriaid ledled de Cymru, gorllewin Cumberland, swydd Lanark ac arfordir y gogledd-ddwyrain. Er mwyn dysgu rhagor am y gwaith ymchwil hwn, ewch i’w gwefan.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *