Bywyd Ffoaduriaid yng Nghymru

Roedd bywyd ffoaduriaid yng Nghymru yn amrywiol. Llwyddodd rhai i ymdopi’n dda ond dioddefodd eraill drawma parhaus yn sgil eu profiadau.

Cofia Evelyn Ruth Kaye, plentyn o ffoadur o Fienna, ei chyfnod mewn ysgol breswyl yn Llanfair-ym-muallt, canolbarth Cymru, gydag anwyldeb hynod: “roedd yn hollol fendigedig”. Roedd yr ysgol, a oedd yn cael ei rhedeg gan grŵp o Gatholigion Anglicanaidd, wedi’i sefydlu’n wreiddiol ar gyfer plant anabl ond cynigiwyd lle i nifer o ffoaduriaid hefyd. Ond prin y gwyddai’r plant am hynny: “dim ond wedyn y sylweddolwyd hynny, roedd nifer o ffoaduriaid yno ond doedden ni ddim yn trafod hynny am ein bod ni’n awyddus i fod yn rhan o’r papur wal.”

Wynebodd Bea Green, Iddewes a ddaeth ar y trên Kindertransport o Funich, wrth-semitiaeth yn y brifysgol yn Aberystwyth. Daeth i’r amlwg fod cyd-fyfyriwr wedi gweithio yn yr Almaen yn y gorffennol yn sgil ei edmygaeth o Sosialaeth Genedlaethol. Ymunodd yn ddiweddarach â Byddin Prydain ond cafodd ei ryddhau oherwydd ei iechyd ac mewn sgwrs â Bea, lleisiodd ei gefnogaeth i syniadaeth Hitler. Brawychwyd Bea:

“Pan sylweddolodd ei fod wedi fy nghynhyrfu i, oherwydd cyn hynny roedden ni wedi bod yn gydweithwyr ac yn ffrindiau… dywedodd, wel, ti’n gweld, ti’n iawn… yr Iddewon eraill i gyd sydd ar fai… ac rwy’n cofio hyn am y ffordd yr oedd yn siarad, doeddwn i ddim wir yn gallu dadlau’n ôl am nad oedd unrhyw beth diriaethol y gallwn i ddadlau yn ei gylch; agwedd oedd hi a oedd mor ddi-syfl, wedi’i seilio ar syniadaeth ofnadwy nad oedd unrhyw beth ar y pryd – roeddwn i’n teimlo, nad oedd unrhyw beth y gallwn i ei wneud… Felly rwy’n cofio cerdded i lawr i’r traeth… ac eistedd ar y traeth… ac eistedd ar y cerrig ac wylo i’r môr. Roeddwn i mor rhwystredig ac mor siomedig o feddwl ’mod i wedi symud i ffwrdd oddi wrth rywbeth a dyma fi nawr yn dod wyneb yn wyneb ag ef unwaith eto.”

Gwrandewch ar stori Evelyn yma (Allanol)
Gwrandewch ar stori Bea yma (Allanol)
Traeth Aberystwyth (© Morris Brodie)
“Felly rwy’n cofio cerdded i lawr i’r traeth [yn Aberystwyth]… ac eistedd ar y cerrig ac wylo i’r môr. Roeddwn i mor rhwystredig ac mor siomedig o feddwl ’mod i wedi symud i ffwrdd oddi wrth rywbeth a dyma fi nawr yn dod wyneb yn wyneb ag ef unwaith eto.”
Bea Green
Un o ffoaduriaid y Kindertransport
Cyfeiriwyd at wersyll ffoaduriaid Tyn-y-Cae yn y cylchgrawn Illustrated ar 4 Mai 1939. Mae Leopold Krumböck yn arllwys diodydd yn y canol, ac ar ben uchaf y llaw chwith mae eu hen gartref yn Awstria (trwy garedigrwydd Amgueddfa Sir Frycheiniog)

Derbyniodd rhai ffoaduriaid gymorth gan grwpiau crefyddol megis Cymdeithas Grefyddol y Cyfeillion (Y Crynwyr). Sefydlodd y Crynwyr wersyll hyfforddi amaethyddol i ffoaduriaid yn Nhyn-y-Cae ger Aberhonddu cyn dechrau’r rhyfel. Nod y gwersyll oedd dysgu ffoaduriaid i fod yn hunangynhaliol, gan gynnwys ffermio, coedwigaeth, gwaith coed, gwneud caws a gwersi Saesneg.

Un teulu o ffoaduriaid a fu’n gweithio yn y gwersyll oedd Leopold a Friedericke Krumböck, yn wreiddiol o Fienna, a ffodd gyda’u tri phlentyn. Roedd Leopold wedi rhedeg ei gwmni coesau a breichiau artiffisial yn Awstria ond, fel Iddew, meddiannwyd y cwmni gan y Natsïaid wedi iddynt feddiannu ei famwlad. Llwyddodd i gyrraedd Llundain ond roedd ei deulu’n dal yn Awstria. Dychwelodd yno a llwyddo i’w smyglo allan drwy’r Swistir, cyn cyrraedd Cymru. Gan ddefnyddio’r sgiliau a ddysgodd yn Nhyn-y-Cae, symudodd y teulu’n ddiweddarach i ffermio yn Swydd Dorset.

Treuliodd Johann a Deborah Eisenwagen gyfnod yn y gwersyll hefyd. Dysgodd Johann (a gâi ei adnabod hefyd fel Hans) waith coed i’w gyd ffoaduriaid ac roedd ei wraig Deborah yn gogydd. Arhosodd y ddau yn Sir Frycheiniog nes iddynt farw rhai blynyddoedd yn ddiweddarach.

Gwelodd de Cymru fewnlifiad o ffoaduriaid Swdetaidd Almaenig ar ôl i Tsiecoslofacia gael ei meddiannu gan Natsïaid yr Almaen. Teithiodd Ness Edwards, a etholwyd yn AS Llafur yn 1939, i Brâg i drefnu achub dros 60 o lowyr Sudetaidd a’u teuluoedd ar ran Ffederasiwn Glowyr De Cymru (SWMF). Arhosodd pawb yng Ngwesty’r Ship ym Mhenarth am sawl mis, gan fynychu dathliadau Gŵyl Fai Caerffili. Mynegodd llywydd y glowyr Swdetaidd, Joseph Zinna, ei ddiolchgarwch yng nghynhadledd flynyddol y SWMF ym mis Ebrill 1939. Aethant ati hefyd i gynorthwyo i godi lloches cyrch awyr ym Mhenarth ar y cyd â ffoaduriaid eraill o Sbaen a lwyddodd i ddianc i Gymru ar fwrdd llong.

Arhosodd criw arall o Swdetiaid yng Nglan-y-môr ar Ynys y Barri. Cafodd tua 100 o ffoaduriaid, a rhyw ddeg y cant ohonynt yn Iddewon, lety yno dan ofal Cymdeithas Gristnogol y Gwŷr Ifanc (YMCA) leol. Roeddent wedi cael eu herlid fel sosialwyr ar ôl goresgyniad y Natsïaid. Trefnodd y trigolion lleol nifer o ddigwyddiadau i godi arian ar gyfer y ffoaduriaid a chawsant gyfle i fynychu’r Eisteddfod hefyd, a dysgu am hanes Cymru a Dewi Sant. Ymfudodd y mwyafrif o ffoaduriaid Swdetaidd o Benarth a’r Barri i Ganada ac Awstralia cyn dechrau’r Ail Ryfel Byd.

Gwesty’r Ship, Penarth, cartref y glowyr Swdetaidd yn 1939. Cafodd ei fomio yn ystod yr Ail Ryfel Byd (trwy garedigrwydd Casgliad y Werin Cymru)
Ffoaduriaid y Barri’n ymweld â’r Deml Heddwch ym Mharc Cathays, Caerdydd (Western Mail & South Wales News, 26 Ionawr 1939)

Sefydlodd nifer o ffoaduriaid gartrefi parhaol yng Nghymru, gan gynnwys y rhai o Ystâd Fasnachu Trefforest ger Pontypridd. Cafodd ffoaduriaid Iddewig eu croesawu gan y gymuned Iddewig leol, gan ymhyfrydu yn eu hunaniaeth Gymreig newydd. Roedd Werner K. E. Bernfeld, meddyg o Leipzig yn yr Almaen a ffodd i Brydain yn ystod y 1930au, yn awyddus iawn i “osod gwreiddiau newydd a dod yn rhan o’i wlad fabwysiedig”, gan ddysgu Cymraeg a chystadlu mewn eisteddfodau. Daeth yn wenerolwr yn Ysbyty Dinas Caerdydd yn 1955. Dim ond am gyfnod byr yr arhosodd eraill, megis Edith Tudor-Hart, gan symud i rannau eraill o’r DU.

Yn ystod y rhyfel, byddai ffoaduriaid yn cael eu symud yn aml o rannau eraill o Brydain i Gymru, a ystyriwyd yn hafan ddiogel rhag bomio’r Almaenwyr. Ffodd Kurt Hahn o’r Almaen ym mis Gorffennaf 1933 ar ôl cael ei garcharu am bum diwrnod am ymwrthod â’r gyfundrefn Natsïaidd. Sefydlodd y Gordonstoun School ym Moray yn yr Alban yn 1934. Denodd yr ysgol fyfyrwyr disglair yn fuan iawn (gan gynnwys y darpar Ddug Caeredin) ond fe’u gorfodwyd i symud o’r safle ym mis Mehefin 1940 wedi i’r gerddi gael eu troi’n wersyll milwrol. Symudodd Hahn yr ysgol i Landinam, Powys ac yno yr arhosodd drwy gydol y rhyfel. Symudwyd Ysgol Wladol Tsiecoslofacia i Lanwrtyd o Loegr hefyd ac arhosodd yno o 1943 tan 1945.

Symudwyd y Gordonstoun School i Blas Dinam yn Llandinam yn ystod y rhyfel. Cafodd tua deg ar hugain o fechgyn lety yn Aberdyfi, cyn symud yn nes at yr ysgol ar ôl dau dymor (trwy garedigrwydd Plas Dinam)
Robert Borger (© Julian Borger)

Gallai addasu i’w hamgylchfyd newydd fod yn sioc i ffoaduriaid. Cyrhaeddodd Ellen Davis y DU heb allu siarad dim ond Almaeneg, iaith anghyfarwydd i’w theulu maeth newydd. Pan gasglwyd hi gan ei thad maeth er mwyn mynd â hi i Abertawe, treuliwyd chwe awr ar y trên heb i’r un o’r ddau yngan gair. “Doeddwn i ddim yn gwybod a oeddwn i’n teimlo mwy o drueni drosof i fy hun neu dros y dyn hwn, a oedd yn gwneud ei orau i ’nghysuro i.” Bu’n rhaid iddi ymdopi wedyn â mam faeth ddiserch a oedd yn mynnu ei rheoli, dinistrio’r cartref yn ystod y Blits yn Abertawe, a marwolaeth sydyn ei thad maeth cyn diwedd y rhyfel.

Cafodd rhai ffoaduriaid anhawster ymdopi â’u profiadau dirdynnol. Roedd Robert Borger a ffodd ar y Kindertransport wedi’i effeithio’n ddrwg iawn ar ôl bod yn dyst i erledigaeth a chamdriniaeth y boblogaeth Iddewig yn Fienna. Daeth i Brydain ar ôl i’w rieni osod hysbyseb ym mhapur newydd y Manchester Guardian yn gofyn am “rywun caredig” i gynnig lloches. Dioddefodd Robert o orbryder llethol wrth gyrraedd Caernarfon am y tro cyntaf a pharhaodd y problemau hynny drwy gydol ei fywyd. Cyflawnodd hunanladdiad yn 1983.

Darllen pellach

Julian Borger, “I seek a kind person’: the Guardian ad that saved my Jewish father from the Nazis’, The Guardian, 6 May 2021 (https://www.theguardian.com/media/2021/may/06/guardian-200-ad-that-saved-jewish-father-from-nazis

‘Brecknock Museum unearths article about refugee camp near Brecon’, Brecon & Radnor Express, 13 April 2018 

Ellen Davis, Kerry’s Children: A Jewish Childhood in Nazi Germany and Growing Up in South Wales (Bridgend: Seren, 2004)

Cai Parry-Jones, The Jews of Wales: A History (Cardiff: University of Wales Press, 2017)

Nick Veevers and Pete Allison, Kurt Hahn: Inspirational, Visionary, Outdoor and Experiential Educator (Sense: Rotterdam, 2011)