Gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog

Roedd rhai ffoaduriaid yn benderfynol o ymladd yn ôl yn erbyn y rhai a oedd wedi eu gorfodi i ffoi ac ymunodd nifer â Lluoedd Arfog Prydain yn y frwydr yn erbyn pwerau’r Axis.

Ar y dechrau, doedd dim hawl gan ffoaduriaid o Awstria a’r Almaen i ymuno â Lluoedd Arfog Prydain. Llaciwyd y rheol honno ym mis Tachwedd 1939, pan gafodd rai hawl arbennig gan Gangen Cudd-wybodaeth Filwrol Swyddfa’r Fyddin. Cawsant eu cyfyngu, serch hynny, i Gorfflu Milwrol Cynorthwyol yr Arloeswyr (yr Auxiliary Military Pioneer Corps a ailenwyd yn Pioneer Corps yn 1940), uned heb arfau a oedd yn cyflenwi gweithwyr i unedau Prydeinig. Lleolwyd canolfan hyfforddi ar gyfer y corfflu hwn ym Mhwllheli ym mhenrhyn Llŷn yn 1940.

Er y golygai hyn na allai ffoaduriaid frwydro’n uniongyrchol yn erbyn y Natsïaid, gallent gael eu rhyddhau’n gynnar o’r ddalfa a chofrestrodd tua 4,000 o ffoaduriaid Iddewig gyda’r Pioneer Corps yn ystod y rhyfel. Cofia Herbert Patrick Anderson, ffoadur o Awstria a ddaeth i Gymru gyda’r Pioneer Corps yn ystod y rhyfel, ymarfer yng Nghaint gyda 200 o aelodau eraill o’r “fyddin fach yma o ffoaduriaid”. Roedd ei uned yn 60% o Almaenwyr, 25% o Awstriaid a 15% o genhedloedd eraill, a thua 70% ohonynt yn Iddewon. Am nad oedd unrhyw gyfyngiad oedran, roedd tua 20 o’r dynion wedi gwasanaethu ym myddinoedd yr Almaen ac Awstria-Hwngari yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Gwrandewch ar stori Herbert yma (Allanol)
Baracs Defensible yn Noc Penfro (trwy garedigrwydd Gordon Hatton/Wikimedia Commons)

Roedd y tasgau’n cynnwys tyrchu ffosydd, adeiladu pontydd a chlirio ffyrdd. Gallai gwasanaethu yn y Pioneer Corps fod yn beryglus, serch hynny. Yn ystod ymarfer dadactifadu bomiau ym Maracs Doc Penfro ym mis Ebrill 1942, ffrwydrodd un o’r bomiau gan ladd pedwar ar bymtheg o’r corfflu, yn cynnwys y ffoaduriaid Iddewig o’r Almaen Heinz Abraham, Ludwig Rosenthal a Heinz Schwartze. Bu farw wyth o uned Herbert Patrick Anderson, yr 87th Pioneer Corps: “Bu angladd mawr; gorchuddiwyd pob arch â baner Jac yr Undeb ond alla i ddim dychmygu bod fawr ddim y tu mewn i bob arch. Roedd hyn yn ergyd fawr i’r uned.” Trosglwyddwyd yr uned o Ddoc Penfro yn fuan wedyn.

Serch hynny, cafodd llawer o ffoaduriaid eu siomi gan y Pioneer Corps. Credai Manfred Gans, er enghraifft, mai ei gyfnod yno “heb os, oedd un o’r cyfnodau mwyaf rhwystredig yn fy mywyd; doeddwn i ddim yn teimlo ’mod i’n cyfrannu fawr ddim i’r ymdrech ryfel”. Doedd Herbert Patrick Anderson ddim yn hapus iawn chwaith pan ofynnwyd i’w uned balu tyllau cadnoid o gwmpas Sir Gaerfyrddin wrth ddisgwyl ymosodiad gan yr Almaenwyr ar Brydain drwy dde Cymru: “gorchwyl hollol ddwl”. Gwrthododd Harry Weinberger ymuno â’r corfflu ar sail egwyddor: dywedodd ei fod “yn uned chwerthinllyd, yn debyg iawn i Dad’s Army a doeddwn i ddim yn mynd i fod yn rhan o hynny”.

O 1942 ymlaen, caniatawyd i ffoaduriaid o Awstria a’r Almaen ymuno’n uniongyrchol ag unedau technegol y Lluoedd Arbennig ac yn y pen draw, codwyd yr holl gyfyngiadau’n ymwneud â gwasanaethu. Un o’r unedau enwocaf oedd y No. 3 Troop a oedd yn rhan o’r No. 10 Commandos (Rhyng-Gynghreiriol) gyda’r llysenw X Troop a leolwyd yn Aberdyfi.

Ymunodd Herman Rothman, a fynychodd yr hachshara yng Nghastell Gwrych, â’r lluoedd arfog yn ddiweddarach yn y rhyfel hefyd. Roedd yn hanu o deulu Iddewig Pwylaidd ym Merlin ac fe gyrhaeddodd Herman ar y Kindertransport yn 1939. Ymunodd yn wreiddiol â chorfflu’r General Service Corps, cyn cael ei drosglwyddo i gatrawd brenhinol y Royal West Kent Regiment ac yna’r King’s Own Scottish Borderers. Cofia’r ddisgyblaeth oedd yn rhan o’r hyfforddiant:

 

I mi, fy mwriad oedd cydymffurfio a chael bywyd rhwydd, ac rydych chi hefyd yn dysgu sut i osgoi pethau os yn bosibl. Serch hynny, roeddwn i’n credu bod pwrpas i’r hyn roeddwn i’n ei wneud, ac rwy’n credu y gallai hyn fod yn rhywbeth greddfol mewn pobl fel fi. Roeddech chi’n gwybod eich bod yn brwydro dros achos ac felly fod popeth roeddech chi’n ei wneud er budd – roedden ni’n ddelfrydgar mewn ffordd, roedd gen i ddelfryd yn fy meddwl – fod popeth roeddwn i’n ei gyflawni a phopeth oeddwn i’n ei wneud er lles cymdeithas – gan fy nghynnwys i fy hun wrth gwrs. Os oeddech chi eisiau curo Hitler, roedd yn rhaid i chi wneud hynny, a dyna beth oedd yn fy ngyrru i, yn fy ysbrydoli.

 

Gofynnodd am gael ymuno â’r Frigâd Iddewig dan arweiniad swyddogion Eingl-Iddewig, gan ymladd yn yr Eidal, ond am amrywiol resymau ni wnaeth drosglwyddo i’r uned. Yn ystod ei gyfnod yn y fyddin wynebodd wrth-semitiaeth Brydeinig am y tro cyntaf, a oedd yn rhywbeth “rhyfedd a braidd yn bryderus” iddo. Serch hynny, cadwai at ei ddefodau crefyddol, gan wisgo’r tefilin a’r talis traddodiadol a dilyn gwersi Talmudaidd gyda hen ffrind. Câi fwyd kosher hefyd, wedi’i anfon ato gan grŵp yn Llundain, er na lwyddodd i gynnal hynny drwy gydol ei gyfnod gwasanaeth.

Yn ddiweddarach ymunodd â’r Corfflu Cudd-wybodaeth ac roedd ymysg y bobl gyntaf i gyfieithu ewyllys gyntaf Hitler pan gafodd dogfennau eu canfod wedi’u gwnïo i ysgwyddau siaced a berthynai i Heinz Lorenz, ysgrifennydd y wasg Joseph Goebbel. Ysgrifennodd lyfr maes o law, Hitler’s Will, yn disgrifio’i brofiadau.

Gwrandewch ar stori Herman yn llawn yma (Allanol)
Y Frigâd Iddewig yn derbyn baner wrth wasanaethu yn yr Eidal, 1945 (© IWM NA 23668)

Plentyn o ffoadur a anwyd ym Merlin oedd Harry Weinberger. Daeth i’r DU gyda’i chwaer yn 1939. Ceisiodd ymuno â’r Llynges Fasnachol ar ôl gorffen yn yr ysgol ond cafodd ei wrthod ar y pryd am ei fod yn Almaenwr. Yn lle hynny, aeth i weithio mewn ffatri ar Ystâd Fasnachu Trefforest dan berchnogaeth ewythr iddo o 1941 tan 1944. Maes o law, ymunodd â chatrawd y West Kent Regiment a ddaeth yn rhan o’r Wythfed Fyddin yn yr Eidal. Roedd yn aelod o’r Frigâd Iddewig hefyd, gan hyfforddi gyda’r Corfflu Cudd-wybodaeth yn yr Almaen. Cofia am ei gyfnod gyda’r Frigâd Iddewig fel “y tro cyntaf i mi ddod ar draws yr agwedd Israelaidd o chwilio am drwbl yn hytrach na rhedeg oddi wrth drwbl”.

Diwedd anffodus a fu i’w gyfnod yn y rhyfel, wedi iddo gael ei anfon i garchar milwrol am ateb swyddog yn ôl wedi i hwnnw wneud sylw gwrth-semitaidd. Er gwaetha’r bygythiad o gwrt martial, yn y diwedd fe gafodd ei ryddhau.

Ar ôl dychwelyd i Brydain, aeth yn arlunydd, gan symud i Lundain i astudio yng Ngholeg Celf Chelsea dan wahoddiad Cerys Richards a fu’n diwtor arno yng Nghymru. Daeth yn athro wedyn, gan weithio yng ngholeg polytechnig Lancaster fel Pennaeth Peintio am bron i ugain mlynedd. Roedd ei gefnder, Heinz Koppel, hefyd yn ffoadur ac arlunydd a fu’n byw yng Nghymru am gyfnod.

Gwrandewch ar stori Harry yma (Allanol)
Darllenwch fwy am fywyd Harry (Allanol)
Darllen pellach

Leah Garrett, X Troop: The Secret Jewish Commandos of World War II (London: HMH Books, 2021)

Herman Rothman, Hitler’s Will (Stroud: The History Press, 2011)

‘History and background of the Royal Pioneer Corps’, The Pioneer (http://www.royalpioneercorps.co.uk/rpc/history_main1.htm)

Peter Leighton-Langer, The King’s Own Loyal Enemy Aliens: German and Austrian Refugees in Britain’s Armed Forces, 1939-45 (Elstree:
Vallentine Mitchell, 2006)

Cai Parry-Jones, The Jews of Wales: A History (Cardiff: University of Wales Press, 2017)

‘Royal Pioneer Corps’, National Army Museum (https://www.nam.ac.uk/explore/royal-pioneer-corps)

Nicholas Watkins, ‘Harry Weinberger obituary’, The Guardian, 25 September 2009 (https://www.theguardian.com/artanddesign/2009/sep/25/harry-weinberger-obituary)