Arddangosfa

Un o brif gynyrchiadau’r prosiect yw arddangosfa ar hanes ffoaduriaid yng Nghymru, sydd wedi’i churadu ar y cyd â ffoaduriaid cyfoes a gwirfoddolwyr. Cafodd yr arddangosfa ei dangos am y tro cyntaf yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth rhwng Tachwedd 2022 ac Ionawr 2023, cyn symud i’r Senedd ac Orielau Pierhead yng Nghaerdydd rhwng Chwefror ac Ebrill 2023.  Cafodd ei dangos wedyn yn y Neuadd Aros Uchaf ym Mhalas San Steffan ym mis Mai 2023, ac yng nghanolfan Pontio, Bangor ym mis Mehefin 2023.

Mae’r arddangosfa’n adrodd hanesion y rhai a ffodd rhag Sosialaeth Genedlaethol yng Nghanolbarth Ewrop i chwilio am noddfa, gan nodi cyffelybiaethau â ffoaduriaid cyfoes. Mae’n cynnwys gweithiau celf, gwrthrychau, ffotograffau, a llenyddiaeth a grëwyd gan ffoaduriaid a’r rhai a weithiodd ochr yn ochr â nhw, yn ogystal â ffilm benodol i’r arddangosfa a grëwyd gan y gwneuthurwr ffilmiau Amy Daniel, sy’n astudio bywydau ffoaduriaid ddoe a heddiw.

Croesawyd dros 60 o bobl i’n hachlysur lansio ar 10 Tachwedd 2022, a oedd yn cyd-daro â dyddiad Pogrom Tachwedd (Kristallnacht) ym 1938. Un fu’n bresennol oedd y Kindertransportee Renate Collins, a gyrhaeddodd y Deyrnas Unedig ar y trên olaf i adael Prague ym 1939. Arlwywyd y digwyddiad gan ddau o’n cyd-guraduron, sef Prosiect Cinio Syria a Blas Arabaidd

Touring Image cropped

Ar Ddydd Gŵyl Dewi 2023 roeddem yn falch iawn o fod yn rhan o ddathliadau’r Senedd wrth i Gymru anelu at ddod yn ‘genedl noddfa‘.  Clywsom siaradwyr o’r Wcráin, Syria a Kuwait, a mwynhau clywed caneuon mewn amrywiaeth o ieithoedd gan y soprano o’r Wcráin, Krystyna Makar.  Elin Jones AS, llefarydd y Senedd, oedd y Llywydd. 

Roedd yn anrhydedd i ni ddangos yr arddangosfa ym Mhalas San Steffan ar ôl cael ein noddi gan AS Ceredigion, Ben Lake.  Yn ystod ein digwyddiad lansio ym mis Mai 2023, siaradodd yr Arglwydd Alf Dubs yn deimladwy am y croeso a gafodd yng Nghymru. Yr oedd ef ei hun yn Kindertransportee a bu’n ddisgybl yn Ysgol Tsiecoslofacia yn Llanwrtyd.  Roedd Aelodau Seneddol a gwahoddedigion yn bresennol, gan gynnwys rhai o’r Amgueddfa Ryfel Ymerodrol (IWM) a Chymdeithas Ffoaduriaid Iddewig (AJR).

Cynhaliwyd ein harddangosfa yng nghanolfan Pontio ym Mangor ym mis Mehefin 2023.  Cafwyd digwyddiad lansio llwyddiannus iawn i groesawu ffoaduriaid o’r Wcráin, Syria ac Afghanistan, yn ogystal â siaradwyr o Grŵp Addysg Holocost y Gogledd (NHEG), Prifysgol Bangor a grŵp Croeso Menai.  Hoffem ddiolch i bawb sydd wedi helpu i gyflwyno’r arddangosfa, yn ogystal â’r rhai sydd wedi ymweld â hi ym mhob un o’i lleoliadau amrywiol.

Gwaith a wnaed gan Amy Daniel yn rhan o’r prosiect yw ffilm yr arddangosfa, a ddangosir isod. Mae’n cynnwys cyfweliadau, a gynhaliwyd gan Dr Andrea Hammel a Dr Morris Brodie, â ffoaduriaid hanesyddol a chyfoes.

I gael golwg agosach ar yr arddangosfa, neu os na allwch ddod yn bersonol, gallwch ei gweld yn rhyngweithiol isod. Gallwch hefyd gael mynediad i’n taith rithwir yn https://my.matterport.com/show/?m=bqriAKqPrjf

Darllen pellach

‘Nation of sanctuary: Wales hospitality to refugees fleeing the Nazis remembered’, Nation Cymru, 3 Tachwedd 2022 (https://nation.cymru/culture/nation-of-sanctuary-wales-hospitality-to-refugees-fleeing-the-nazis-remembered/)

Craig Duggan, ‘Hanes ffoaduriaid yng Nghymru mewn arddangosfa newydd’, BBC Cymru Fyw, 12 Tachwedd 2022 (https://www.bbc.com/cymrufyw/63603873)

‘Senedd exhibition tells the story of refugees who have sought sanctuary in Wales’, Nation Cymru, 3 Mawrth 2023 (https://nation.cymru/culture/senedd-exhibition-tells-the-story-of-refugees-who-have-sought-sanctuary-in-wales/)