Ffoaduriaid cynharach yng Nghymru

Nid pobl yn dianc rhag Sosialaeth Genedlaethol oedd y grŵp mawr cyntaf o ffoaduriaid i geisio lloches yng Nghymru. Gwyddelod oedd y boblogaeth fwyaf o ffoaduriaid yng Nghymru yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, llawer ohonynt wedi ffoi rhag Newyn Mawr y 1840au. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, daeth dros 4,500 o ffoaduriaid o Wlad Belg i Gymru i ddianc rhag byddinoedd y Kaiser. Yn y Rhyl yng ngogledd Cymru, er enghraifft, agorwyd tŷ lojin yn gartref i ffoaduriaid.

Cafwyd cofnod yn y Rhyl Journal ym mis Hydref 1914: “Yn hanes y Rhyl, rydym yn amau a welwyd y fath arddangosfa o ddiffuantrwydd a brwdfrydedd erioed … a allai ragori ar yr hyn a welwyd brynhawn dydd Mawrth pan gyrhaeddodd y ffoaduriaid o Wlad Belg.”

Fe adeiladodd ffoaduriaid Gwlad Belg bromenâd rhwng Ynys Tysilio a Charreg yr Halen, Môn er mwyn diolch am y croeso a gawsant yn nhref Porthaethwy. Ailadeiladwyd y promenâd yn 1963 ar ôl iddo gael ei ddifrodi mewn storm a rhoddwyd wyneb newydd arno yn 2000 fel rhan o brosiect mileniwm.

Y Promenâd Belgaidd islaw Pont Menai (© David Dixon, trwy garedigrwydd Wikimedia Commons)
Ffoaduriaid o Wlad y Basg a oedd yn byw yng Ngwersyll Caerllion, c.1938 (trwy garedigrwydd Archifau Richard Burton, Prifysgol Abertawe)

Yn niwedd y 1930au, croesawodd Cymru tua 230 o blant o Wlad y Basg a oedd yn ffoi rhag lluoedd y Cenedlaetholwyr yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen. Fe’u rhoddwyd mewn pedwar ‘gwersyll’ – yn Nhŷ Cambria, Nghaerllion; Parc Sgeti, Abertawe; Brechfa, Sir Gaerfyrddin; a Rooftree, Hen Golwyn. Roedden nhw ymhlith y 4,000 o blant a oedd yn ffoaduriaid o Wlad y Basg a ddaeth i’r DU ym mis Mai 1937, yn dilyn gwarchae llyngesol Bilbao a bomio Guernica.

Dangosodd Cymru gydymdeimlad neilltuol tuag at amgylchiadau Gweriniaeth Sbaen yn ystod y rhyfel ac yn ôl yr hanesydd Hywel Davies, cafodd y plant eu croesawu “gydag arwyddion dirifedi o haelioni, dyngarwch a hunanaberth”. Er hynny, roedd yn gyfnod trawmatig i lawer o ffoaduriaid, yn enwedig ar ôl cwymp Bilbao ar 19 Mehefin 1937. Dychwelodd y mwyafrif i Sbaen yn dilyn buddugoliaeth y Cenedlaetholwyr, er bod rhai wedi aros yng Nghymru.

Darllen pellach

Gwefan Belgian Refugees in Rhyl (https://refugeesinrhyl.wordpress.com/)

‘Belgian Refugees of WW1’, Welsh Centre for International Affairs (https://www.wcia.org.uk/belgian-refugees-ww1/)

Hywel Davies, Fleeing Franco: How Wales Gave Shelter to Refugee Children from the Basque Country During the Spanish Civil War (Cardiff: University of Wales Press, 2011)

Paul O’Leary (ed.), Irish Migrants in Modern Wales (Liverpool: Liverpool University Press, 2004)