Cefndir y prosiect

Fel rhan o Raglen Partneriaeth yr Ail Ryfel Byd a’r Holocost a arweinir gan yr Amgueddfa Ryfel Ymerodrol, mae’r prosiect ‘Ffoaduriaid yng Nghymru a ddihangodd rhag Sosialaeth Genedlaethol yng Nghymru: Dysgu oddi wrth y Gorffennol i lywio’r Dyfodol’ yn adrodd hanesion cudd y rhai a ffodd o Ganol Ewrop yn sgil unbennaeth y Sosialaeth Genedlaethol a chael lloches yng Nghymru yn y 1930au a’r 1940au.

Dan arweiniad Dr Andrea Hammel, Cyfarwyddwr Canolfan Astudio Symudedd Pobl, a Dr Morris Brodie o Brifysgol Aberystwyth, mae’r prosiect wedi arwain at sawl canlyniad sydd wedi eu curadu ar y cyd, gan gynnwys ffilm ac arddangosfa, a ddangoswyd yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth ddiwedd 2022. Cyfrannodd y prosiect hefyd at Osodwaith Digidol sydd i’w leoli’n barhaol yn yr Amgueddfa Ryfel Ymerodrol yn Llundain.

Mae’r broblem o fudo dan orfod yn un o heriau mwyaf yr 21ain ganrif ac mae’r prosiect hwn yn annog dysgu o’r gorffennol i lywio’r dyfodol. Mae Dr Hammel, Dr Brodie a’r gwneuthurwr ffilmiau Amy Daniel wedi gweithio gyda grwpiau gwahanol, megis ffoaduriaid cyfoes a hanesyddol a’r rhai sy’n cynorthwyo ffoaduriaid heddiw, i ddatblygu ymateb creadigol sy’n cysylltu straeon gwahanol ffoaduriaid yng Nghymru. Mae’r prosiect yn mynd i’r afael â chwestiynau am amrywiaeth cymdeithas Cymru, gwahaniaethau crefyddol ac ieithyddol, a heriau cymdeithasol, addysgol ac economaidd.

Cafodd yr arddangosfa ei dangos am y tro cyntaf yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth rhwng Tachwedd 2022 ac Ionawr 2023, cyn symud i’r Senedd ac Orielau Pierhead yng Nghaerdydd rhwng Chwefror ac Ebrill 2023. Cafodd ei dangos wedyn yn y Neuadd Aros Uchaf ym Mhalas San Steffan ym mis Mai 2023, ac yng nghanolfan Pontio, Bangor ym mis Mehefin 2023. Mae ffilm y prosiect ar gael ar-lein, ac roedd gweithdai hefyd yn cyd-fynd â’r arddangosfa.  Yn ogystal, mae Gwasg Honno wedi cyhoeddi llyfr gan Dr Hammel, Finding Refuge:  Stories of the men, women and children who fled to Wales to escape the Nazis. Y llyfr hwn oedd dewis Cyngor Llyfrau Cymru fel Llyfr y Mis ym mis Rhagfyr 2022.