Raglen Partneriaeth yr Ail Ryfel Byd a'r Holocost

Ochr yn ochr ag agor Orielau’r Ail Ryfel Byd a’r Holocost newydd yn 2021, bydd rhaglen yr Amgueddfeydd Rhyfel Ymerodrol (IWM) – sef Rhaglen Partneriaeth yr Ail Ryfel Byd a’r Holocost (SWWHPP) – yn cefnogi wyth o bartneriaid treftadaeth ddiwylliannol ledled y DU gyda’r nod o ddenu sylw cynulleidfaoedd newydd a rhannu straeon lleol cudd neu fwy anadnabyddus sy’n gysylltiedig â’r hanes hwn. Yn ystod y tair blynedd nesaf, bydd yr SWWHPP yn sefydlu Swydd Breswyl Ddigidol, yn cefnogi datblygu sgiliau o fewn sefydliadau Partner, yn ogystal â hwyluso benthyg casgliadau cyfoethog yr IMW ledled y DU er mwyn cynorthwyo digwyddiadau digidol a chymunedol ar y cyd â phobl leol ac artistiaid creadigol. Noddir yr SWWHPP yn hael gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Darllenwch ragor am waith cyd-guradur ein prosiect
Darllenwch flog Morris Brodie sy’n ymwneud â Swydd Breswyl Ddigidol yr IWM
Gwefan Rhaglen Partneriaeth yr Ail Ryfel Byd a’r Holocost (Allanol)

‘Un Stori, Llu o Leisiau’ yn IWM Llundain (© Morris Brodie)

Fel rhan o’r prosiect, rydym wedi cyfrannu at Osodiad Digidol dan y teitl ‘Un Stori, Llu o Leisiau’ a fydd yn teithio o gwmpas amryw leoliadau partner cyn cael ei osod yn barhaol yn yr IWM yn Llundain. Cydgynhyrchiad yw’r gosodiad hwn rhwng yr SWWHPP, cymunedau lleol, y StoryFutures Academy a chriw o awduron dawnus: Amina Atiq, Nicola Baldwin, Mercedes Kemp, Glenn Patterson a Michael Rosen.

Mae ‘Our story’, a ysgrifennwyd gan Michael Rosen, yn archwilio hanes teulu Michael ei hun wrth iddo ddarganfod fod ei berthnasau wedi eu llofruddio yn yr Holocost. Cyfeiria hefyd at Ghofran Hamza, un o’n cydguradwyr, sy’n disgrifio ei phrofiad o gyrraedd Aberystwyth o ganol y rhyfel yn Syria.

“Roedd gen i ddau ewythr o Ffrainc. Roedden nhw’n byw yn Ffrainc cyn y rhyfel. Doedden nhw ddim yno ar y diwedd.”
Michael Rosen
'What Can You Do?'
“Mae pobl Cymru wir yn hyfryd a phan fydda i’n cerdded, dim ond cerdded, hyd yn oed os na fydda i’n cyfarfod â neb, dim ond teimlo fod yr arogleuon, natur o’n cwmpas, y blodau rwy’n eu gweld yn y tai. Mae’r holl bethau bach yma’n fy ngwneud i’n hapus ar y tu mewn.”
Ghofran Hamza
'What Can You Do?'

Bydd y Gosodiad Digidol yng Nghanolfan y Celfyddydau ar gyfer agoriad yr arddangosfa ar 9 Tachwedd 2022 tan ddiwedd y flwyddyn, pan fydd yn symud draw at ein partneriaid yn Amgueddfa Iddewig Manceinion.

Gwrandewch ar y straeon hyn i gyd a dysgwch fwy am y gosodiad (Allanol)