Gweision a Morynion

Un llwybr y gallai ffoaduriaid ei ddilyn er mwyn cael mynediad i’r DU rhwng y ddau ryfel oedd gwneud cais am fisa fel gwas neu forwyn. Er bod llywodraeth Prydain yn gyndyn iawn i dderbyn nifer fawr o ffoaduriaid, gorfodwyd nhw i wneud eithriad yn sgil y dybiaeth fod prinder gweision a morynion. Llaciwyd y rheolau ar gyfer gweision a morynion mor gynnar â 1930 a chyrhaeddodd tua 20,000 o ferched o’r Almaen, Awstria a Tsiecoslofacia i Brydain ar fisâu domestig cyn dechrau’r rhyfel yn 1939.

Roedd disgwyl i rai weithio mewn cartrefi preifat fel howscipar, cymdeithion, morynion plant neu lywodraethesau ond cafodd y mwyafrif fynediad er mwyn cyflawni gwaith domestig elfennol. Cafodd nifer fechan o ddynion Iddewig fynediad fel bwtleriaid neu arddwyr. Doedd dim hawl gan y ffoaduriaid yma i newid swyddi heb geisio hawl gan y Swyddfa Gartref, er i’r mwyafrif adael eu swyddi gwasanaethu yn sydyn a dod o hyd i swyddi amgen.

Doedd llawer o’r ffoaduriaid ddim yn barod iawn am fywyd fel gweithwyr domestig; roedd ffoaduriaid Iddewig dosbarth canol yn fwy tebygol o gyflogi gweision a morynion o’r un cefndir â nhw yn hytrach na gweithio yn y fath swyddi yn eu gwledydd eu hunain. Defnyddiodd rhai mamau fisâu gwasanaeth domestig fel modd i ymuno â’u plant a oedd wedi dod i’r DU ar y Kindertransport. Gwelodd eraill eu rolau rhyw blaenorol yn cael eu gwyrdroi, wrth ddod yn enillwyr cyflog am nad oedd hawl gan eu gwŷr i weithio yn eu swyddi blaenorol fel meddygon neu gyfreithwyr. Byddai cyflogwyr yn aml yn trin y ffoaduriaid gyda dirmyg a gorfodwyd rhai menywod i weithio i feistresi â thueddiadau ffasgaidd a gwrth-semitig. Doedd dim rhyfedd felly fod llawer o ffoaduriaid yn casáu eu cyfnod fel gweision a morynion.

Merched yn derbyn hyfforddiant ar Gwrs Gwyddor Ddomestig yn Notting Hill Gate, Llundain, 1944 (© IWM D 23133)

Rhwystrwyd ffoaduriaid rhag ymuno â’r Undeb Gweithwyr Domestig Genedlaethol oedd newydd ei ffurfio, gan fod aelodau’n poeni y byddent yn gostwng cyflogau ac amodau. Mewn gwirionedd, y cyflogwyr oedd yn gyfrifol am gam-drin y ffoaduriaid. Cwynodd un ffoadur i’w meistres am orfod sgwrio’r lloriau a glanhau o 8 y bore tan 11 yr hwyr gyda dim ond hanner awr o egwyl. Ymatebodd gwraig y tŷ̂ drwy ddweud, “Os yw hynny’n ormod i ti, fe alla i dy anfon di ’nôl at Hitler.” Cyhoeddodd y Swyddfa Ganolog ar gyfer Ffoaduriaid bamffled o dan y teitl Mistress and May: General Information for the Use of Domestic Refugees and Their Employers yn 1940 er mwyn cynnig cyngor i ffoaduriaid a oedd yn anghyfarwydd ag arferion y system ddosbarth Brydeinig:

 

Yn y wlad hon mae’n arfer dda siarad a cherdded yn dawel, ar yr aelwyd ac ar y stryd ac mewn mannau cyhoeddus. Fe fyddwch yn sylwi bod y feistres fel arfer yn nodi ei hangen ar ffurf cais. Dylid gweithredu hyn yn union fel gorchymyn. Mae’n anghywir dadlau â meistres.

 

Pan ddechreuodd y rhyfel, terfynwyd y cyfyngiad yn ymwneud â gofyn am hawl y Swyddfa Gartref i newid swyddi ond roedd y bygythiad o gaethiwed yn bodoli o hyd. Byddai ffoaduriaid yn aml yn cael eu diswyddo os oedd eu gweithfan o fewn “ardal warchodedig” neu oherwydd bod eu cyflogwyr yn gwrthod cyflogi “gelynion estron” yn eu cartrefi eu hunain. Collodd bron i hanner y ffoaduriaid eu swyddi pan ddechreuodd y rhyfel. Wedi hynny, cymerodd Biwro Domestig y Swyddfa Ganolog ar gyfer Ffoaduriaid gyfrifoldeb dros gynnal gweision a morynion nad oedd yn gallu gweithio. Ym mis Gorffennaf 1940 golygai hyn cynifer â 2,650 o achosion, gyda materion iechyd meddwl amhenodol yn un o’r prif resymau a roddwyd.

Roedd Fanny Höchstetter yn hanu o dref fach Biberach ger Laupheim yn ne’r Almaen. Yn aelod o deulu Iddewig (roedd hi’n gyfnither bell i Albert Einstein), roedd Fanny’n uwch was sifil yn y brifddinas daleithiol, Stuttgart, erbyn ei bod yn 30 oed. Serch hynny, pan gipiodd y Natsïaid rym yn 1933, collodd Fanny a’i chwaer Bertl (a oedd hefyd yn was sifil) eu swyddi.

Brwydrodd Fanny’n galed i sicrhau dogfennau swyddogol yn ymwneud â’i “hymddeoliad”, gan hyd yn oed deithio i Ferlin i herio’r Gweinidog Reich Paul Freiherr von Eltz-Rübenach. Llwyddodd yn y pen draw ond ffodd o’r wlad ym mis Awst 1939 yn sgil yr awyrgylch cynyddol elyniaethus. Methodd llawer o’i pherthnasau ddianc a chawsant eu llofruddio gan y Natsïaid yn Riga, Latvia, yn ystod yr Holocost.

Roedd Bertl wedi cyrraedd Prydain rai blynyddoedd cyn hynny, gan weithio fel morwyn yn ardal Cilgwri. Llwyddodd i sicrhau swydd i Fanny fel morwyn fach yng Ngwesty’r Hand yn Llangollen. Doedd gan Fanny ddim profiad o waith domestig, er bod ei hewythr wedi ysgrifennu geirda arbennig iddi a oedd yn pwysleisio (yn anwir) ei sgiliau glanhau a gwneud gwaith tŷ.

Wnaeth hi ddim mwynhau ei chyfnod fel morwyn ond daliodd ati. Roedd tirwedd bryniog, coediog Dyffryn Dyfrdwy yn atgoffa Fanny o’i chyn gartref yn ardal Laupheim. Yn ôl ei mab, Ernie, roedd “yn sioc ond roedd yn rhaid iddi fyw gyda’r sefyllfa a gwnaeth i hynny weithio”.

Yng Nghymru, cyfarfu â chyd ffoadur o’r enw Anton Hundsdorfer a phriododd y ddau yn fuan iawn. Ganwyd eu mab cyntaf, Peter, yn 1942 a dilynodd Ernie wedyn yn 1946. Gadawodd y teulu Gymru am Fanceinion yn 1945 a sefydlodd Fanny fusnes nwyddau adeiladu yn ddiweddarach, gydag Anton yn sefydlu ei gwmni gwaith saer ei hun.

Mae gwybodaeth bellach ar gael drwy’r Northern Holocost Education Group a sefydlwyd gan fab Fanny, Ernie Hunter (Allanol)
Fanny a Bertl yn yr Almaen ychydig wedi iddynt gael eu diswyddo o’r gwasanaeth sifil. Mae eu hosgo’n dangos yr hyn y maent yn ei feddwl o Hitler (© Ernie Hunter)
Iddewon o Wlad Pwyl yn cael eu gyrru allan o Nuremberg fel rhan o’r Polenaktion, 1938 (trwy garedigrwydd Das Bundesarchiv CC-BY-SA 3.0)

Dwy chwaer Iddewig oedd Pepi a Fanni Firestein a ffodd i Brydain gyda chymorth y Gronfa Ffoaduriaid Iddewig Pwylaidd (PJRF). Ffurfiwyd y sefydliad hwnnw gan Iddewon yn Lloegr mewn ymateb i’r Polenaktion (Gweithredu Pwylaidd) a gyflawnwyd gan y Natsïaid yn 1938. Alltudio Iddewon oedd yn byw yn yr Almaen oedd â’u dinasyddiaeth Bwylaidd wedi’i diddymu gan lywodraeth Gwlad Pwyl yn orfodol oedd hyn. Symudwyd tua 17,000 o Iddewon i amrywiol drefi ar hyd ffin Gwlad Pwyl a’r Almaen; y fwyaf oedd Zbąszyń yng Ngwlad Pwyl.

Cafodd y chwiorydd Firestein eu maethu’n wreiddiol gan deulu Iddewig yn Llundain ond wedi dechrau’r rhyfel, cawsant eu halltudio i Aberystwyth. Yno cawsant waith fel morynion mewn cartrefi an-Iddewig, gan deimlo’n hynod anhapus yn eu gwaith ac yn y dref am mai prin oedd y trigolion Iddewig oedd yn byw yno. Gofynnodd y PJRF i’r Weinyddiaeth Lafur symud y merched yn ôl i Lundain ond gwrthodwyd y cais, gan honni “y dylid gadael llonydd iddynt yn eu swyddi presennol” am eu bod yn “gwneud gwaith gwerthfawr yn y gymuned ac yn derbyn hyfforddiant pwysig fel morynion domestig”. Aeth sawl mis heibio cyn i’r weinyddiaeth ildio a chaniatáu i’r chwiorydd ddychwelyd i Lundain ond yn fuan wedi hynny, dioddefodd Pepi, y chwaer ieuengaf bymtheg oed, chwalfa feddyliol ac aethpwyd â hi i’r ysbyty.

Cafodd ei rhyddhau yn y pen draw a’i hanfon i fyw gyda “theulu o Iddewon Uniongred hyfryd iawn” i gyflawni gwaith ysgafn iawn o gwmpas y cartref a mynd am dro bob dydd gyda’u dau blentyn ifanc. Er i Pepi wella a llwyddo i fynd yn ôl i weithio, ddwy flynedd yn ddiweddarach, bu’n rhaid ei hanfon i’r ysbyty eto, gyda’r PJRF yn gyfrifol am dalu costau’r gofal. Yn amlwg iawn, roedd yr holl brofiad wedi bod yn hynod drawmatig i’r ffoadur ifanc a chafodd gweithio fel morwyn yn Aberystwyth ynysig effaith ddybryd arni.

Daeth mam Evelyn Ruth Kaye i’r DU ar fisa ddomestig, gan weithio fel morwyn i ddwy wraig yn Warwick Gardens, Llundain. Daeth modryb a mam-gu Evelyn drosodd hefyd gan weithio fel cogyddesau ym Mirmingham. Daethant â llyfr dan y teitl How to Cook for the English gyda nhw er mwyn cael arweiniad am y gwahaniaethau rhwng y bwyd yno â’r hyn oedd yn gyfarwydd iddynt hwy yn eu mamwlad yn Awstria. Symudwyd Evelyn i Ynys Wyth yn 1940 ond gwaethygodd ei sefyllfa’n ddramatig iawn pan dorrodd ei theulu gwarant, y teulu Lyons (a oedd yn enwog ym myd bwytai a chynhyrchu bwyd), bob cysylltiad â hi, fel y noda yn y cyfweliad hwn â’r Amgueddfa Ryfel Ymerodrol yn 2007:

 
Ffoniodd Joe Lyons fy mam a dweud, “Gwrandewch, mae’r llongau rhwng Ynys Wyth a Lloegr yn dod i ben, felly os ydych chi eisiau gweld eich merch gallwch chi ei chael hi, wyddoch chi, fe wnawn ni anfon amdani, ond dydyn ni ddim eisiau ymwneud â hi o gwbwl eto.” Ac roedd mam yn cael hanner diwrnod i ffwrdd o’r gwaith, a dywedodd y bobl roedd hi’n gweithio iddyn nhw: “Ie, gwell i chi anfon Evelyn draw.” Felly pan ddaeth fy mam yn ôl o’i hanner diwrnod, dyna lle’r oeddwn i, a dyma’r bobl yn dweud nad oedden nhw’n edrych am gogyddes â phlentyn ganddi, felly roedd hi’n bryd chwilio am swydd arall. Felly roedden ni’n ddigartref.

 

Cawsant lety gan Grynwr a oedd yn siarad Almaeneg ac a oedd wedi cyfarfod â mam Evelyn pan oedd hi’n crio mewn arosfan bysiau ac yn ennill arian drwy wnïo botymau a throi cyrlyrs. Pan aeth ei mam yn sâl a mynd i’r ysbyty, trefnodd y Grynwraig i Evelyn symud i Lanfair-ym-muallt yng Nghymru. Daeth tro ar fyd iddi yno a mynychodd ysgol ar gyfer plant anabl, gan ddychwelyd i fyw gyda’i rhieni (roedd ei thad wedi llwyddo i ffoi i Brydain ond wedi’i gaethiwo ar Ynys Manaw) ar ôl iddi gwblhau ei hastudiaethau yn 1946.

Gwrandewch ar stori Evelyn yn llawn yma (Allanol)
Darllen pellach

Jana Buresova, ‘Refugees in Domestic Service in Britain’, AJR Refugee Voices, 8 October 2020 (https://www.ajrrefugeevoices.org.uk/post/refugees-in-domestic-service-in-britain)

Mario Cacciottolo, ‘Nazi persecution saw Jews flee abroad as servants’, BBC News, 8 March 2012 (https://www.bbc.co.uk/news/uk-16942741)

Domestic Bureau, Mistress and Maid. General Information for the Use of Domestic Refugees and Their Employees (London: Central Office for Refugees, 1940)

Jennifer Craig-Norton, The Kindertransport: Contesting memory (Bloomington, IN: Indiana University Press, 2019)

Jennifer Craig-Norton, ‘The untold stories of the Jewish women who became domestic servants in Britain to escape the Nazis’, The British Academy Blog, 19 July 2019 (https://www.thebritishacademy.ac.uk/blog/untold-stories-jewish-women-domestic-servants-britain-escape-nazis/)

Rose Holmes, ‘A Moral Business: British Quaker work with Refugees from Fascism, 1933-39’ (PhD thesis, University of Sussex, 2013)

Tony Kushner, ‘Politics and Race, Gender and Class: Refugees, Fascists and Domestic Service in Britain, 1933–1940’, Immigrants & Minorities, 8:1-2 (1989), pp 49-58

Louise London, Whitehall and the Jews, 1933-1948: British Immigration Policy, Jewish Refugees and the Holocaust (Cambridge, Cambridge University Press, 2000)