Cyd-Guradu

Fel rhan o’n prosiect ni, rydyn ni’n cyd-guradu ffilm ac arddangosfa yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth o fis Tachwedd 2022 tan ddiwedd mis Ionawr 2023. Ystyr ‘cyd-guradu’ yw bod pobl gyffredin yn cyfrannu at rywbeth sy’n cael ei greu gan amgueddfa/sefydliad diwylliannol, boed yn ddehongliad o wrthrych, arddangosfa, sioe neu waith celf. Proses ddwy ffordd, ar y cyd ydyw, wedi’i chynllunio i hybu cyfranogiad ymysg ymwelwyr, cyrraedd cynulleidfaoedd newydd, helpu pobl i ddatblygu sgiliau ac adeiladu hyder, a chynnig lleoliad cymunedol ble gall pobl gymryd rhan.

Ar gyfer ein prosiect, rydym yn gweithio gyda ffoaduriaid a gwirfoddolwyr lleol yng nghanolbarth, gorllewin a gogledd Cymru. Ein nod yw pwysleisio profiadau ffoaduriaid a chodi ymwybyddiaeth o ffoaduriaid a’r heriau sy’n eu hwynebu yng Nghymru, yn hanesyddol ac yn y presennol. Byddwn yn cynnal nifer o ddigwyddiadau a gweithdai drwy gydol y prosiect er mwyn ymgysylltu â chymunedau ffoaduriaid lleol a chydweithio er mwyn creu arddangosfa a ffilm.

Darllenwch flog Morris Brodie ynghylch ein cyfarfod cyd-guradu cyntaf
Darllenwch flog Morris Brodie ynghylch ein hail gyfarfod cyd-guradu
Galeri 2 Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, lle cynhelir ein harddangosfa (© Morris Brodie)