Proffiliau Ffoaduriaid

Yma ceir proffiliau rhai o’r ffoaduriaid a ddihangodd i Gymru rhag Sosialaeth Genedlaethol. Fel y gwelwch, maent yn perthyn i gefndiroedd amrywiol ac wedi wynebu profiadau hynod wahanol i’w gilydd yn ystod eu hamser yng Nghymru. Dim ond am gyfnod byr yr arhosodd rhai ohonynt, ond ymgartrefodd eraill yma’n barhaol. Cliciwch ar eu ffotograffau/enwau am wybodaeth bellach.

Renate Collins

Unig blentyn banciwr a nyrs Iddewig o Brâg yw Renate Collins. Dihangodd ar y trên Kindertransport olaf i adael Tsiecoslofacia cyn dechrau’r Ail Ryfel Byd ac aeth at rieni maeth yn y Porth, de Cymru. Collodd 64 aelod o’i theulu yn ystod yr Holocost (llun © Amy Daniel)

Edith Tudor-Hart

Ganwyd Edith Tudor-Hart yn Fienna yn 1908. Yn gomiwnydd Iddewig, ffodd o Awstria rhag yr erledigaeth yn 1933 gyda’i gŵr Alex. Gweithiodd Edith fel meddyg yng Nghwm Rhondda a thynnodd lawer o ffotograffau o dde Cymru ac ardaloedd diwydiannol eraill ym Mhrydain. Daeth yn flaenllaw wedyn wrth recriwtio aelodau o Gylch Ysbïo Caergrawnt (llun © stad W. Suschitzky).

William Dieneman

Plentyn o ffoadur o Ferlin oedd William Dieneman. Aeth i fyw i Rydychen a Bryste i ddechrau, cyn symud i Aberystwyth. Yn ddiweddarach daeth yn llyfrgellydd yn Llyfrgell Prifysgol Aberystwyth, gan aros yno am 25 mlynedd nes iddo ymddeol yn 1995 (llun © Rachel Dieneman)

Kate Bosse-Griffiths

Daeth Kate Bosse-Griffiths i Brydain yn 1937 o’i chartref yn Wittenberg, yr Almaen. Cafodd ei diswyddo o Amgueddfa Eifftaidd Berlin am fod ei mam yn Iddewes. Symudodd i Gymru yn 1939 i briodi John Gwyn Griffiths, gan ddysgu Cymraeg a dod yn ffigwr llenyddol pwysig yng Nghymru. Roedd hi hefyd yn flaenllaw wrth sefydlu Amgueddfa Eifftaidd Abertawe yn y 1970au (llun © Heini Gruffudd)

Heinz Koppel

Ganwyd Heinz Koppel ym Merlin i rieni Iddewig. Ffodd i Brydain gyda’i dad Joachim yn 1938 ond roedd ei fam yn rhy sâl i deithio. Symudodd Heinz i Ddowlais yn 1944 cyn mynd i fyw yn ddiweddarach i Aberystwyth. Daeth yn artist amryddawn, gan gyd-sefydlu Grŵp 56 a oedd â’r bwriad o drawsffurfio tirwedd ddiwylliannol Cymru (llun trwy garedigrwydd Grŵp 56 Cymru)