Heinz Koppel

Ganwyd Heinz Koppel ym Merlin yn 1919. Iddewon oedd ei rieni, Joachim a Paula. Ar ôl ysgaru, ailbriododd Joachim. Wedi goresgyniad y Natsïaid, symudodd y teulu (gan gynnwys mam Heinz) i Brâg, lle hyfforddodd Heinz fel arlunydd. Yn 1938, ffodd Heinz i Brydain gyda’i dad, ei lysfrawd, ei frodyr a’i chwiorydd ond ni allai ei fam ymuno â nhw ar y daith am ei bod yn dioddef o grydcymalau difrifol. Fe’i caethiwyd yn Tsiecoslofacia dan gyfundrefn y Natsïaid a chafodd ei hanfon i Theresienstadt a’i llofruddio yn y pen draw yn Nhreblinka yng Ngwlad Pwyl.

Sefydlodd Joachim gwmni creu sipiau ar Ystâd Fasnachu Trefforest. Cafodd ei gymryd drosodd a’i droi’n gwmni creu cydrannau awyrennau ar gyfer y Weinyddiaeth Cynhyrchu Awyrennau yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Yn y cyfamser, aeth Heinz i fyw i Lundain, gan astudio celf gyda’r arlunydd émigré Martin Bloch a ddysgodd gefnder Heinz, Harry Weinberger hefyd. Yn 1944, symudodd Heinz i Ddowlais ger Merthyr Tudful.

Heinz Koppel (trwy garedigrwydd Grŵp 56 Cymru)
Heinz Koppel, ‘Merthyr Blues’, 1955 (© stad Heinz Koppel, Cydnabyddiaeth llun: Amgueddfa Cymru/National Museum Wales)

Yn Nowlais, cynhaliai Heinz wersi celf, yn ogystal ag arlunio cefn gwlad a’r ardaloedd diwydiannol gerllaw. Priododd gyd-arlunydd o’r Almaen, Renate Fischl yn 1949. Dan ddylanwad Mynegiadaeth Almaenig, tyfodd enwogrwydd Heinz a dangosodd ei waith yn yr Oriel Gelf Fodern yn Llundain ar y cyd â ffoaduriaid eraill o Ganolbarth a Dwyrain Ewrop.

Ef oedd un o sylfaenwyr gwreiddiol Grŵp 56 a ddymunai chwyldroi tirwedd ddiwylliannol y byd celf yng Nghymru a gâi ei dominyddu ar y pryd gan bwyllgorau dethol Llundeinig ar draul arlunwyr lleol. Trefnodd y grŵp ei arddangosfeydd ei hun yn Nulyn, Washington DC, Amsterdam a thu hwnt, a derbyn cryn glod. Gadawodd Heinz Gymru i addysgu yn Lloegr yn 1956 ond fe ddychwelodd i fyw yng Nghwmerfyn ger Aberystwyth yn 1974. Parhaodd i arlunio ac arbrofi gyda defnyddiau eraill tan ei farwolaeth yn 61 mlwydd oed yn 1980.

"Roedd gan Heinz fwy o ddiddordeb o lawer na fi mewn gwaith dadansoddiadol ac roedd gogwydd seicolegol i’w waith ef bob amser… roedd yn hynod fewnblyg a dadansoddol am bopeth (nid dim ond ei waith) ac roedd ganddo ddwylo cain iawn a bysedd cain – ac roedd yr un ceinder yn perthyn i’w waith, ac i mi roedd hynny’n unigryw"

"Oherwydd ein cefndir a phopeth oedd wedi digwydd, teimlai’r ddau ohonom mai allanolion oeddem ni ac na fyddem rywsut yn cael ein derbyn gan y sefydliad celf"

Harry Weinberger
Cefnder Heinz

Cynhaliwyd arddangosfa ôl-syllol o’i waith yn y Centrum Judaicum ym Merlin o 2009-10. Dywedodd Anna Canby Monk o’r ganolfan, “Yn union fel yr oedd gwaith Koppel yn fendith i’r byd celf Prydeinig ar ôl y rhyfel, yma ym Merlin mae’n rhaid cydnabod y golled fawr i fywyd artistig y wlad yn sgil ei ymadawiad ef ac artistiaid ifanc eraill.”

Darllen pellach

‘Berlin honours artist’s Welsh work’, BBC News, 9 September 2009 (http://news.bbc.co.uk/local/southeastwales/hi/people_and_places/arts_and_culture/newsid_8244000/8244625.stm)