William Dieneman

Ganwyd William Dieneman (g. Wolfgang Dienemann) yn 1929 yn Cottbus, yr Almaen. Dechreuodd yn y Jüdische Volksschule (Ysgol Iddewig) yn Schöneberg, Berlin yn 1936. Llosgwyd yr ysgol i’r llawr yn ystod cyrch Kristallnacht ac arestiwyd ei dad a’i anfon i wersyll crynhoi Sachsenhausen. Cofiodd William yn ddiweddarach: “Roedd yr holl newid o fod yn ddinasyddion cyffredin i fod yn alltudion yn rhyfedd iawn; roedd ein cymdogion ym Merlin, y teulu Von Klodt, yn Natsïaid. Pan arestiwyd fy nhad, galwodd Von Klodt â thusw o flodau i ddangos ei gydymdeimlad.”

Ffodd William o Ferlin gyda’i chwaer fel rhan o’r Kindertransport, gan gyrraedd Southampton ym mis Ionawr 1939. Yn wahanol i’r mwyafrif o blant a oedd yn ffoaduriaid, llwyddodd ei rieni hefyd i ddianc i Brydain cyn dechrau’r rhyfel, er i’w dad gael ei ddal fel gelyn estron yn 1940.

Rhoddwyd William gyda theulu maeth ar y dechrau, cyn iddo gael ei dderbyn i Ysgol Breswyl Baratoadol Avondale ym Mryste. Defnyddiwyd yr ysgol fel lloches cyrch awyr a chafodd ei symud i Rydychen. Cofia fod “Cymuned fawr o ffoaduriaid yn Rhydychen; roedd gyda nhw Reformgemeinde [Eglwys Ddiwygiadol]. Rwy’n cofio’r Rabi Rosenberg. Cefais fy bar mitzvah yno ond dyna’r tro olaf i mi gael ymdeimlad o berthyn go iawn i’r byd Iddewig weddill fy mywyd.”

Cafodd swydd wedyn yn Llyfrgell Eglwys Crist, Rhydychen a phenderfynu mynd i astudio Ffrangeg ac Almaeneg yn y coleg, cyn graddio yn 1951. Cymhwysodd fel llyfrgellydd a gweithio yn Sefydliad Coedwigaeth y Gymanwlad cyn symud i Nigeria i weithio ym Mhrifysgol Ibadan. Gweithiodd hefyd yn yr Unol Daleithiau ac yng Ngholeg y Drindod, Dulyn, lle cyfarfu â’i wraig Marisa, a phriododd y ddau yn 1964.

Yn 1970, symudodd y teulu (a oedd yn cynnwys merch hefyd erbyn hynny) i Aberystwyth er mwyn i William allu derbyn swydd Llyfrgellydd, Llyfrgell Prifysgol Aberystwyth. Parhaodd yn y swydd honno nes iddo ymddeol yn 1995. Bu farw yn Aberystwyth yn 2018, yn 89 mlwydd oed.

Darllenwch gyfweliad William ag Andrea Hammel (Allanol)
Llun Ysgol Avondale, 1941. Mae William yn yr ail res o’r gwaelod, yr ail o’r chwith (© Rachel Dieneman)
William (dde) yn cyfarfod y Tywysog Siarl yn ystod agoriad swyddogol Llyfrgell Hugh Owen, Aberystwyth, 1976 (© Aberystwyth University)