Hanes

Nod y prosiect hwn yw pwysleisio hanes ffoaduriaid yng Nghymru, yn enwedig y rhai a ddaeth o Ganolbarth Ewrop er mwyn ffoi rhag Sosialaeth Genedlaethol rhwng y ddau Ryfel Byd. Mae’n bosibl fod cannoedd, os nad miloedd o ffoaduriaid wedi dod i Gymru rhwng 1933 ac 1945. Derbyniwyd rhai fel diwydianwyr yn y gobaith y gallent ddiwallu anghenion diweithdra difrifol y diwydiannau newydd; daeth eraill i fod yn weision a morynion mewn cartrefi a ffermydd mewn ymgais i gyflenwi’r angen tybiedig yn y diwydiant hwnnw. Roedd y mwyafrif, er nad pawb, yn dod o gefndiroedd Iddewig ac wedi ffoi mewn da bryd i achub eu bywydau eu hunain rhag yr hil-laddiad yn sgil polisïau’r Natsïaid. Yn rhy aml o lawer, ni lwyddodd eu ffrindiau a’u teuluoedd i ymuno â nhw a chawsant eu llofruddio yn ystod yr Holocost.

Roedd yr ymateb a wynebai’r ffoaduriaid a lwyddodd i gyrraedd Cymru yn amrywio; rhai yn gadarnhaol, eraill yn negyddol. Cafodd pawb eu heffeithio’n ddwys gan brofiadau fföedigaeth a’r ymdrechion i ailadeiladu bywyd ym Mhrydain wedi hynny. Ar y tudalennau canlynol, gallwch ddarllen profiadau’r ffoaduriaid yma a sut y cawsant eu trin. Plant oedd rhai ohonynt, eraill yn oedolion; arhosodd rhai am gyfnod byr, a threuliodd eraill weddill eu hoes yng Nghymru. Buont yn aros ym mhob cwr o’r wlad, o Sir Fôn a Llandudno yn y gogledd ac Aberystwyth ac Aberdyfi yng nghanolbarth Cymru, i Gaerdydd ac Abertawe yn y de a Llanfair-ym-muallt yn y dwyrain. Gobeithio y gall eu storïau nhw ddylanwadu ar agweddau cyfoes tuag at y rhai a orfodir i ffoi o’u cartrefi yn wyneb erledigaeth.

Evelyn a Marion Porak, dwy ferch a ffodd o’u mamwlad, ar y Promenâd yn Aberystwyth, 1939 (© Brian Pinsent)

Tudalennau