Ysgol Wladol Tsiecoslofacia, Llanwrtyd

Rhwng 1943 ac 1945, sefydlodd llywodraeth alltud Tsiecoslofacia ysgol uwchradd ar gyfer ffoaduriaid yn yr Abernant Lake Hotel yn Llanwrtyd. Lleolwyd yr ysgol cyn hynny yn Swydd Surrey a Swydd Amwythig, cyn cael ei symud i Gymru. Roedd tua 140 o ddisgyblion yn derbyn eu haddysg yn Ysgol Wladol Tsiecoslofacia, y mwyafrif ohonynt o gefndir Iddewig ond eraill o gefndiroedd Catholig, Protestannaidd, heb ymrwymiad crefyddol.

Roedd y gwersi yn yr ysgol drwy gyfrwng yr iaith Tsiec ac roedd llywodraeth alltud Tsiecoslofacia’n gyfrifol am yr holl gostau (gan gynnwys cyflog yr athrawon a llety’r plant). Yn ôl Marilyn Yalom, cyn-ddisgybl, “Roedd hi’n amlwg fod angen i ni siarad yr iaith Tsiec a theimlo fel Tsieciaid, gan mai nod yr ysgol oedd ein paratoi ac ailsefydlu’r weriniaeth a ddifethwyd gan y Natsïaid.”

Roedd Ruth Hálová yn ddisgybl arall yn yr ysgol ac fe gofia ei hamser yno fel cyfnod “yn llawn cyfeillgarwch”:

“Roedden ni’n grŵp amrywiol: roedd y mwyafrif o’r disgyblion wedi eu cludo yno ar y trenau fel plant, a’u bywydau, fel fy mywyd i, wedi cael eu hachub gan Nicholas Winton. Roedd rhai ohonom yn blant i filwyr ac awyrenwyr hefyd a oedd yn gwasanaethu yn lluoedd arfog Prydain, neu’n blant gweision sifil ac uwch swyddogion llywodraeth alltud Tsiecoslofacia. Wedi dwy flynedd fendigedig, graddiais oddi yno. Mis Mai 1945 oedd hynny, diwedd y rhyfel.”

Darllenwch stori Ruth yma (Allanol)
Llun pensil o’r Abernant Lake Hotel, 1940. Yn ogystal ag Ysgol Tsiecoslofacia, roedd y gwesty hefyd yn gartref i Ysgol Bromsgrove a gafodd ei symud yno o Swydd Gaerwrangon ar ddechrau’r rhyfel (© Archif Ysgol Bromsgrove. Atgynhyrchwyd trwy garedigrwydd Archif Ysgol Bromsgrove)

Yn y cyngerdd a gynhaliwyd yn yr ysgol, canodd y plant ‘Hen Wlad Fy Nhadau’, er mawr foddhad i’r gymuned leol. Daeth Vera Gissing ar y Kindertransport o Brâg i Brydain ym mis Mai 1939. Roedd hi’n fyfyrwraig yn yr ysgol ac mae’n cofio, yn y cyngerdd, nad oedd “yr un llygad sych yn y gynulleidfa”. Ysgrifennodd lyfr yn ddiweddarach am ei phrofiadau o dan y teitl Pearls of Childhood.

Cofia’r cyn-fyfyriwr Frank Schwelb hefyd “yn annwyl iawn am garedigrwydd y Cymry a’i croesawodd ef” a’i gyd ddisgyblion “mor gynnes yn ystod cyfnod mor anodd”. Ers hynny mae tref Llanwrtyd wedi gefeillio â thref Tsiecaidd Český Krumlov, gan gryfhau’r cyswllt rhwng y ddwy gymuned.

Gwrandewch ar stori Vera yma (Allanol)
Darllen pellach

Vera Gissing, Pearls of Childhood (London: Robson, 1988)

Cai Parry-Jones, The Jews of Wales: A History (Cardiff: University of Wales Press, 2017)

Jane Marchese Robinson, Seeking Sanctuary: A History of Refugees in Britain (Barnsley: Pen & Sword, 2020)

Marilyn Yalom, Innocent Witnesses: Childhood Memories of World War II (Stanford, CA: Redwood Press, 2021)