Artistiaid

Oriel yr Artistiaid

Roedd erlid artistiaid ac awduron yn nodwedd o’r gyfundrefn Sosialaidd Genedlaethol. Roedd pobl yn cael eu herlid ar sail eu crefydd (Iddewon), eu credoau gwleidyddol (comiwnyddion, sosialwyr ac anarchwyr) a/neu am arddull eu gwaith. Labelwyd celf fodern, yn enwedig, gan y Natsïaid yn ‘ddirywiedig’, gan hyd yn oed gynnal arddangosfa o 650 ‘gwaith celf dirywiedig’ a deithiodd o gwmpas y wlad yn 1937. Cafodd llawer o artistiaid eu diswyddo a chafodd eu gweithiau celf eu sensora neu cawsant eu gwahardd gan yr awdurdodau rhag creu gweithiau celf. O ganlyniad, ffodd dros 10,000 o artistiaid (gan gynnwys arlunwyr, cerflunwyr, awduron, ffotograffwyr, actorion a dawnswyr) rhag y Drydedd Reich rhwng 1933 ac 1945.

Ym mis Ebrill 1938, cyhoeddodd y Swyddfa Dramor ganllawiau yn datgan yn glir y dylid gwrthod fisâu i artistiaid masnachol heblaw eu bod yn “bersonau nodedig” o “safon ryngwladol”. Er gwaethaf hynny, daeth dros 300 o arlunwyr, cerflunwyr ac arlunwyr graffig i Brydain. Helpwyd llawer ohonynt gan Bwyllgor y Ffoaduriaid Artistig, ymdrech ar y cyd Cymdeithas Ryngwladol yr Artistiaid (AIA), y Clwb Celfyddydau Seisnig Newydd a’r Academi Frenhinol. Ymysg aelodau’r pwyllgor roedd Steven Bone, Roland Penrose a Diana a Fred Uhlman (a oedd yn ffoadur artistig ei hun a brynodd gartref yng Nghwm Croesor, Gwynedd).

Wedi cyrraedd Prydain, ffurfiodd llawer o ffoaduriaid sefydliadau i’w cynrychioli eu hunain, megis y Gynghrair Ddiwylliannol Almaenig Rydd (FGLC), y Ganolfan Awstriaidd, y Clwb Anglo-Swdetaidd a’r Sefydliad Tsiecaidd. Roedd gan yr FGLC 1,500 o aelodau yn ei hanterth yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Fel y noda’r hanesydd Marion Deshmukh, roedd y “rhwydweithiau diwylliannol yma’n gweithredu er mwyn cynnal émigrés seicolegol ac ariannol yn ystod cyfnod economaidd hynod fregus”. Roedd artistiaid heb fynediad i bobl a allai arddangos neu brynu eu gweithiau yn ei chael hi’n anodd ennill bywoliaeth.

Gwelodd Cymru fewnlifiad o ffoaduriaid artistig hefyd, llawer ohonynt bellach wedi bwrw gwreiddiau’n gadarn o fewn y tirlun diwylliannol Cymreig. Roedd Josef Herman, yn wreiddiol o Wlad Pwyl, yn byw yn Ystradgynlais rhwng 1944 ac 1955 ac fe enillodd fedal am ei ‘Wasanaeth i Fyd Celf yng Nghymru’ yn Eisteddfod Genedlaethol 1962 yn Llanelli. Mae’n cofio’i benderfyniad i symud i Gymru fel un cymharol ddigymell: “un diwrnod yn 1944 dyma ni’n penderfynu mynd ar wyliau i rywle, a daeth ffrind ’nôl o Gymru, gan sôn yn frwdfrydig am y pentrefi glofaol Cymreig. Ac a dweud y gwir, roedd hynny fel derbyn darn o newyddion da. Felly iawn, dyma fynd yno am ychydig wythnosau o wyliau. Mynd am dair wythnos wnaethon ni ond fe arhoson ni am un mlynedd ar ddeg!”

Gwrandewch ar stori Josef yma (Allanol)

Cefndryd o’r Almaen oedd Heinz Koppel a Harry Weinberger a oedd wedi llwyddo i ddianc a symud i Gymru ddiwedd y 1930au a’r 1940au. Roedd Harry’n byw gydag ewythr iddo a oedd yn berchen ffatri ar Ystâd Fasnachu Trefforest, a symudodd Heinz i Ddowlais. Cafodd amser rhydd o’r ffatri i ddilyn gradd mewn peirianneg yn Ysgol Fwyngloddio Trefforest ac ar ôl blwyddyn dechreuodd Harry ddilyn cwrs yn Ysgol Gelf Caerdydd heb ddweud wrth neb. Yno cyfarfu â’r arlunydd Cymreig Ceri Richards a’i cymerodd dan ei adain a chytuno bod yn diwtor iddo. Ar un adeg, cyfarfu’r cefndryd a chafwyd rhyw anghydfod ar sail eu cefndir Almaenaidd. Yn ôl Harry:

 

Roedden ni’n siarad Almaeneg a daeth rhingyll o’r Gwarchodlu Cartref atom gan ddweud ei fod eisiau ein harestio ni, ac fe ddywedom ninnau nad oedden ni eisiau cael ein harestio felly dyma ni’n mynd i’r siop sglodion, a daeth yntau’n ôl gydag ambell un arall a phlismyn, a chafwyd achos llys – cafodd fy landlord ei ddirwyo am gynnig llety i elynion estron, a dywedwyd ein bod yn gymeriadau amheus am ein bod ni wedi cael ein gweld yn tynnu lluniau [tirwedd], a chafodd y lluniau eu hatafaelu, a hyd y gwn i maen nhw’n dal yn archifau heddlu Cymru.

 

Cafodd Harry gyfle’n ddiweddarach i ymuno â’r fyddin, gan fynd i ymladd yn yr Eidal a pheintio ar yr un pryd. Aeth swyddog cefnogol â rhai o’i luniau i’w dangos mewn arddangosfa ond ar ôl rhoi eu benthyg iddo, “welais i mo’r lluniau fyth wedyn”.

Bryd hynny, roedd yna rwydwaith fechan o ffoaduriaid artistig a chanddynt gysylltiad â Chymru. Ar ôl i Harry ddychwelyd o’r fyddin (dan anogaeth Ceri Richards), aeth yn fyfyriwr i Ysgol Gelf Chelsea yn Llundain. Yno, drwy Heinz ei gefnder, cyfarfu Harry â’r lliwiwr ac athro Almaenig Martin Bloch a’r peintiwr Mynegiannol Awstriaidd Oskar Kokoschka a fu’n diwtoriaid arno yn ystod eu cyfnod yn Lloegr. Roedd Kokoschka wedi cymryd stiwdio Josef Herman y cyfeiriwyd ato eisoes wedi iddo symud i Gymru.

Ffoadur artistig arall a oedd yn byw yn Llanfairfechan yng ngogledd Cymru yn ystod y rhyfel oedd Meta Dachinger (née Gutmann). Wedi’i geni yn Nuremberg yn 1916, ffodd i Brydain yn 1939, gan astudio celf ym Mhrifysgol Bangor rhwng 1939 ac 1942. Arbenigai mewn dyfrluniau, gan arddangos ei gweithiau ochr yn ochr â’i gŵr Hugo yn yr ‘Autumn Exhibition of Paintings, Sculpture and Drawings by Contemporary Jewish Artists’ a gynhaliwyd yn Llundain yn 1945. Cyrhaeddodd Karel Lek, ffoadur Iddewig o Antwerp, i ogledd Cymru yn fachgen yn 1940 a threuliodd weddill ei fywyd yno’n peintio pobl leol a thirweddau. Nid dim ond arlunwyr oedd yr artistiaid; ffotograffydd oedd Edith Tudor-Hart, yn wreiddiol o Fienna, a oedd yn tynnu lluniau glowyr ac agweddau eraill ar fywyd yn ne Cymru. Ffoadur Awstriaidd-Iddewig oedd Peter Masters (Peter Arany oedd ei enw cyn hynny) a hyfforddodd yn Aberdyfi gyda’r X Troop. Ar ôl y rhyfel aeth yn fyfyriwr i’r London Central School of Art and Design, gan dderbyn ysgoloriaeth Fulbright yn ddiweddarach i astudio celf yn yr Unol Daleithiau a dod yn gynllunydd graffig ar gyfer rhaglenni teledu Americanaidd.

Gwrandewch ar stori Harry yma (Allanol)

Yn ystod y rhyfel, cafodd llawer o ffoaduriaid artistig eu caethiwo yng Ngwersyll Hutchinson ar Ynys Manaw, a gafodd y llysenw “gwersyll yr artistiaid”. Er iddo lwyddo i osgoi cael ei gaethiwo ei hun, treuliodd brawd hŷn Harry Weinberger, a gafodd ei alltudio maes o law i Ganada, yn ogystal â’r awdur Arthur Koestler a’r deuawdwyr piano Marjan Rawicz a Walter Landauer amser yn y gwersyll. Cafodd Martin Bloch a Hugo Dachinger ill dau eu caethiwo yn Huyton ger Lerpwl (llwyddodd Oscar Kokoschka i osgoi’r fath dynged ar ôl sicrhau dinasyddiaeth Tsiecoslofacia yn 1935).

Ceisiodd y mwyafrif o artistiaid wneud y gorau o’u hamser yng Ngwersyll Hutchinson, gan berfformio cerddoriaeth a sioeau theatr, cynnal arddangosfeydd celf ac argraffu papur newydd ar gyfer y gwersyll. Ymysg y dramâu a berfformiwyd roedd The Man Who Was Thursday, Of Mice and Men, a Thunder Rock, a llwyfannwyd Faust, A Midsummer Night’s Dream, a Julius Caesar gan y rhai a oedd yn gaeth yng Ngwersyll Onchan. Lluniodd rhai cerflunwyr waith o uwd, gan na oedd unrhyw ddeunyddiau eraill ar gael.

Ar ôl y rhyfel, arhosodd y mwyafrif o ffoaduriaid artistig ym Mhrydain. Cyfrannodd ambell un, megis y ffoadur Almaenig-Iddewig Hans Feibusch, weithiau i sefydliadau Cymreig. Peintiodd Feibusch ddeuddeg murlun sy’n addurno gwaelod twr y cloc yng Nghanolfan Ddinesig Casnewydd, yn ogystal â murluniau ym mhentref rhyfeddol Portmeirion yng Ngwynedd.

‘Photograph of internees at the second art exhibition at Hutchinson Internment Camp’, 1940 (© stad Hubert Daniel. Rhyddhawyd y ddelwedd yn unol â Creative Commons CC-BY-NC-ND (3.0 Annidoledig))

Bu’n rhaid i’r rhai a ddychwelodd i’r Almaen ddewis rhwng y Dwyrain a’r Gorllewin; canlyniad hynny fel arfer oedd dadrithiad, yn enwedig yn achos y rhai a oedd yn cydymdeimlo â’r comiwnyddion, a’u gwaith yn cael ei wrthod gan Ddwyrain yr Almaen newydd ar sail ei ‘ffurfioldeb Gorllewinol’. Roedd Harry Weinberger yn hynod feirniadol o’r mudiad celf Almaenig ar ôl y rhyfel; wedi gweld arddangosfa o waith celf Almaenig yn yr Academi Frenhinol, dywedodd ei fod “yn profi bod [y Natsïaid] naill ai wedi ymlid yr artistiaid dawnus allan neu wedi eu lladd, [ac] roedd yr hyn a oedd ar ôl braidd yn greulon”.

Darllen pellach

Stephanie Barron and Sabine Eckmann (eds), exiles and emigrés: The Flight of European Artists from Hitler (Los Angeles: Los Angeles County Museum of Art, 1997)

Connery Chappell, Island of Barbed Wire: Internment on the Isle of Man in World War II (London: Robert Hale, 1984)

Marion F. Deshmukh, ‘The Visual Arts and Cultural Migration in the 1930s and 1940s: A Literature Review’, Central European History, 41:4 (December 2008), pp 569-604

Rachel Dickson, Fred Uhlman in Wales: The Making of an Anglo-German Welshman (London: Ben Uri, 2018)

Leah Garrett, X Troop: The Secret Jewish Commandos of World War II (London: HMH Books, 2021)

Gerhard Hirschfeld (ed.), Exile in Great Britain: Refugees from Hitler’s Germany (Leamington Spa: Berg, 1984)

Herbert A. Strauss and Werner Röder (eds), International Biographical Dictionary of Central European Emigrés 1933-1945, vol. 2, part 1: A-K. The Arts, Sciences, and Literature (Munich: KG Saur, 1983)

Jutta Vinzent, Identity and Image: Refugee Artists from Nazi Germany in Britain, 1933-1945 (Weimar: Verlag und Datenbank für Geisteswissenschaften, 2006)

Peter Wakelin, Refuge and Renewal: Migration and British Art (Bristol: Sansom & Company, 2019)