Caethiwed

Wedi dechrau’r rhyfel ym mis Medi 1939, cafodd pob Almaenwr ac Awstriad ym Mhrydain eu dosbarthu fel ‘gelynion estron’, waeth beth oedd eu hagwedd at y gyfundrefn Natsïaidd. Sefydlodd y Swyddfa Gartref 120 tribiwnlys i fynd i’r afael â’r mater rhwng mis Medi a mis Rhagfyr 1939, gyda phob ‘estronwr’ yn cael eu dosbarthu’n dri chategori, yn dibynnu ar y perygl tybiedig i’r ymdrech ryfel. Cafodd rhai eu rhwystro rhag defnyddio ceir a beiciau modur, neu berchen camera neu fapiau (hyd yn oed rhai mewn llyfrau taith). Cafodd y rhai a ystyriwyd y mwyaf ‘peryglus’ eu caethiwo mewn gwersylloedd amrywiol ledled y wlad, y mwyaf ohonynt oedd gwersyll Hutchinson ar Ynys Manaw.

Er mai dim ond ychydig gannoedd o bobl gafodd eu caethiwo ar y dechrau, cafodd y llywodraeth ei dychryn fwyfwy wrth i’r rhyfel fynd yn ei flaen. Gofynnodd yr AS Ceidwadol Tufton Beamish yn y senedd pam nad oedd mwy yn cael ei wneud i rwystro’r “llif o bobl hynod annymunol a ddylai fod yn brwydro yn eu gwlad eu hunain” ac awgrymodd eraill y dylai fod yn “well o lawer caethiwo bob tramorwr”. Roedd senoffobia’n wannach nag ydoedd ar ddechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf ar y dechrau ond dangosodd adroddiad Arsylwad Torfol ym mis Ebrill 1940 elyniaeth gynyddol tuag at ffoaduriaid gan y cyhoedd a’r wasg. Daeth i’r casgliad “ei bod hi’n dod yn gymdeithasol dderbyniol i fod yn wrth-ffoaduriaid”.

Yr Uwchgapten H. O. Daniel, ‘Ffotograff o’r rhai a gafodd eu caethiwo ar glos gwersyll Hutchinson’, c.1940-1941, © Stad Hubert Daniel, llun © Tate, Rhyddhawyd y llun dan Creative Commons CC-BY-NC-ND (3.0 Annidoledig)

Cynyddodd yr awdurdodau eu rhaglen gaethiwo’n gyflym. Y mis Mai 1940, sefydlwyd ‘ardaloedd gwarchodedig’ mewn ardaloedd arfordirol y tybiwyd y byddent yn agored i oresgyniad lle na chaniatawyd unrhyw estroniaid, a chafodd bob estron yn y categori ‘risg’ canolig eu caethiwo. Erbyn mis Mehefin 1940, estynnwyd hyn i gynnwys Almaenwyr, Awstriaid, ac erbyn hynny, Eidalwyr, dynion dros 16 mlwydd oed, yn ogystal â menywod yn y ddau gategori ‘risg’ uchaf. Canlyniad hynny oedd caethiwo tua 28,000 ‘gelyn estron’ (y mwyafrif ohonynt yn ffoaduriaid Iddewig).

Un o’r rhai a gafodd eu caethiwo oedd y ffoadur o’r Almaen Gerhard Oertel, a oedd wedi bod yn gweithio mewn coedwigoedd yn ardal Llangollen, Sir Ddinbych cyn hynny. Nododd yn ddiweddarach “Cyn belled ag yr oeddwn i ac eraill yn y cwestiwn, roedden ni eisoes yn gwybod beth oedd carchardai a gwersylloedd crynhoi ers byw yn yr Almaen.” Cofia ffoadur arall, Paul Hornig “bod cael eich gwrthod gan yr Awstriaid am fod yn Iddew, a chael eich carcharu gan y Saeson am fod yn Awstriaid yn hynod sarhaus”. Cafodd Paul ei dderbyn yn ddiweddarach gan Fyddin Prydain, gan hyfforddi yn Aberdyfi gyda’r X Troop.

Roedd amgylchiadau llawer o’r gwersylloedd yn wael. Prin oedd y cymorth meddygol, roedd glanweithdra’n ddiffygiol, a gorfodwyd rhai ffoaduriaid i fyw mewn pebyll. Tynnodd yr AS annibynnol Eleanor Rathbone (y cyfeiriwyd ati’n ddiweddarach fel ‘AS y Ffoaduriaid’) sylw at y sefyllfa yn Nhŷ’r Cyffredin ym mis Gorffennaf 1940. Beirniadodd y ffaith fod llawer o’r ffoaduriaid, er gwaethaf bod yn wrth-Natsïaidd,

 

yn cael eu trin fel pobl beryglus oedd yn cael eu caethiwo gyda’u gelynion oesol – Iddewon a ffoaduriaid gwleidyddol gyda Natsïaid – a’u trin fel pobl beryglus a’u rhwystro rhag derbyn papur newydd hyd yn oed, na gwrando ar y radio a’u bod yn cael eu cadw mewn lleoedd gydag amodau tebyg iawn i garchar troseddwyr.

 

Byddai’r caethion a oedd yn gefnogol i’r Natsïaid yn herio’r Iddewon drwy ganu caneuon Natsïaidd ac ymfalchïo o glywed am fuddugoliaethau’r Almaenwyr yn Ewrop. Yn y pen draw, trosglwyddwyd y ffasgwyr i wersyll arall yn Swanwick, Swydd Derby ond cafwyd cwynion am densiynau mor ddiweddar ag 1941.

Ychydig iawn a gafodd eu heithrio rhag caethiwed, megis rhai diwydianwyr o Ystâd Fasnachu Trefforest gyda busnesau’n hanfodol i ymdrechion y rhyfel. Hyd yn oed wedyn, cafodd pedwar ar bymtheg o’r ffoaduriaid hynny eu caethiwo a gorfodwyd 75 o bobl eraill a oedd yn gysylltiedig â’r Ystâd i symud, oherwydd eu bod mor agos at Gaerdydd, a oedd yn y categori ‘ardal warchodedig’ lle nad oedd hawl i elynion estron fynd iddi. Dan y gyfraith, roedd menyw Brydeinig a oedd yn briod â dyn ‘estron’ yn mabwysiadu cenedligrwydd ei gŵr ac felly’n cael eu cynnwys dan y rheolau hynny adeg y rhyfel. Cafodd rhai eu caethiwo hefyd. Roedd yn rhaid i Gladys Pelican, gwraig o’r Cymoedd, gael trwydded i ymweld â’i gŵr, Fred Pelican, pan oedd yntau’n gwasanaethu gyda’r Pioneer Corps yn Weymouth. Yn ei gofiant, noda Fred: “Am wallgofrwydd. Rwy’n estron yn y lluoedd arfog, yn cael hawl i deithio i unrhyw le ac eto roedd hi’n wynebu cyfyngiadau. Pa mor ffôl allwch chi fod.”

Cofnod ‘Alien Entry’ Claire Gutmann, Heddlu Sir Aberteifi (O gasgliadau Archif Ceredigion, rhif. cyf. MUS/204)

Roedd yn rhaid i luoedd yr heddlu lunio rhestr o estroniaid o fewn eu rhanbarth (boed yn drigolion neu’n ymwelwyr). Cadwodd Heddlu Sir Aberteifi lyfr gyda chofnod o hanner cant o estroniaid yn y sir ar ddechrau’r rhyfel, tua 29 ohonynt yn y categori ffoaduriaid.

Iddewon o Fienna oedd Claire a Herbert Gutmann a oedd wedi ffoi i Gymru cyn dechrau’r rhyfel. Gweithgynhyrchwr oedd Herbert yn Awstria, ond arlwyo oedd ei waith yng Ngheredigion. Roedd y ddau yn byw gyda nifer o ffoaduriaid eraill yn Llangoedmor, ar gyrion Aberteifi.

Arestiwyd Herbert a’i anfon i Garchar Abertawe ym mis Medi 1939 ond cafodd ei ryddhau yn fuan wedyn. Cafodd Claire ac yntau eu categoreiddio fel estroniaid categori ‘C’ – y categori ‘risg’ lleiaf ond ym mis Mehefin 1940 cafodd Herbert ei ail-gategoreiddio, ei ail-arestio a’i gaethiwo. Cafodd bron yr holl estroniaid yng nghofnodion Heddlu Sir Aberteifi eu heithrio rhag cael eu caethiwo ond cafodd deunaw ohonynt (dynion yn bennaf) eu caethiwo maes o law a chafodd chwech arall eu halltudio naill ai i Ganada neu Awstralia.

Cofnod ‘Alien Entry’ Herbert Gutmann, Heddlu Sir Aberteifi (O gasgliadau Archifau Ceredigion, rhif. cyf. MUS/204)

Cafodd tad Dorothy Fleming, Erich Oppenheimer, ei gaethiwo ar Ynys Manaw. Yn y recordiad hwn, disgrifia’r diwrnod y cafodd ei arestio yn ei gartref yn Llundain:

Rhyddhawyd Erich gyda chymorth ei frawd-yng-nghyfraith ac aeth i weithio i Ystâd Fasnachu Trefforest.

Ni chafodd Dorothy ei chaethiwo ond ar ei phen-blwydd yn un ar bymtheg oed, cafodd ei chategoreiddio’n swyddogol fel gelyn estron. Cofia effaith hyn arni yn ystod y cyfnod pan oedd hi a’i theulu’n byw yng Nghaerdydd:

“Tan hynny, plentyn oeddwn i ond pan oeddech chi’n un ar bymtheg oed roeddech chi’n elyn estron ac roedd yn rhaid i mi fynd i gofrestru gyda’r heddlu. Rhyw chwerthin ar fy mhen wnaeth fy nghyd ddisgyblion a dweud ‘paid â phoeni, ry’n ni’n gwybod nad wyt ti’n elyn estron’… yr enw oedd yn peri’r gofid mwyaf i fi mewn gwirionedd”
Dorothy Fleming
Un o blant y Kindertransport
Cofeb i ddioddefwyr trychineb yr Arandora Star, Eglwys Gadeiriol Dewi Sant, Caerdydd (trwy garedigrwydd Archddiacon Caerdydd)

Alltudiwyd rhai ffoaduriaid i wledydd eraill. Daeth Eli Dror i Brydain ar y Kindertransport ym mis Ionawr 1939 gan ymuno’n ddiweddarach â’r hachshara yng Nghastell Gwrych ger Abergele. Cafodd ei gaethiwo yn Huyton ger Lerpwl ac ym mis Gorffennaf 1940 roedd yn un o dros 2,500 o ‘elynion estron’ a yrrwyd i Awstralia ar fwrdd yr HMT Dunera. Daeth y llong hon yn enwog am fod y milwyr Prydeinig ar ei bwrdd yn dwyn eiddo’r teithwyr eraill, yn cynnwys watsys aur a modrwyon priodas. Gorfodai’r gwarchodlu ar ei bwrdd y ffoaduriaid Iddewig i redeg yn droednoeth dros wydr wedi torri, tra bo carcharorion rhyfel Natsïaidd yn chwerthin am eu pennau.

Roedd y daith yn un beryglus adeg y rhyfel. Ddechrau mis Gorffennaf 1940 suddodd y llong SS Arndora Star a oedd yn cludo ‘gelynion estron’ i Ganada wedi iddi gael ei tharo gan dorpedo Almaenig, gan ladd dros 700 o bobl. Plentyn o ffoadur o Fienna oedd Evelyn Ruth Kaye a ffodd i Brydain gan setlo maes o law mewn ysgol breswyl i blant anabl yn Llanfair-ym-muallt. Cafodd ei thad ei gaethiwo ar Ynys Manaw ac aeth ar y llong. Cofia i’r “BBC gyhoeddi’r enwau ac roedd enw fy nhad yn eu mysg, ac wedi aros am ryw bythefnos… aeth ar y llong ond fel rhywun anghofus, doedd ei basbort ddim ganddo a chafodd ei daflu oddi arni”.

Yn dilyn y drychineb, a sbardunodd newid agwedd at gaethiwed ymysg y cyhoedd, dechreuodd y llywodraeth ryddhau rhai oedd yn y ddalfa. Erbyn mis Hydref 1940, roedd 5,000 o Almaenwyr, Awstriaid ac Eidalwyr wedi cael eu rhyddhau, ac erbyn 1942 roedd llai na 5,000 yn dal yn gaeth.

Gwrandewch ar stori Evelyn yma (Allanol)
Darllen pellach

Leah Garrett, X Troop: The Secret Jewish Commandos of World War II (London: HMH Books, 2021)

Gerhard Hirschfeld (ed.), Exile in Great Britain: Refugees from Hitler’s Germany (Leamington Spa: Berg, 1984)

Colin Holmes, John Bull’s Island: Immigration and British Society, 1871-1971 (Basingstoke: Macmillan, 1988)

Roger Kershaw, ‘Collar the lot! Britain’s policy of internment during the Second World War, The National Archives, 2 July 2015 (https://blog.nationalarchives.gov.uk/collar-lot-britains-policy-internment-second-world-war/)

Gerhard Oertel, ‘Trade union activity of German refugees during the Second World War in the Forestry of North Wales: recollections of personal experiences’, Immigrants & Minorities, 14: 3 (1995), pp 257-64

Cai Parry-Jones, The Jews of Wales: A History (Cardiff: University of Wales Press, 2017)

Fred Pelican, From Dachau to Dunkirk (London: Vallentine Mitchell, 1993)

Rachel Pistol, ‘Enemy Alien and Refugee: Conflicting Identities in Great Britain during the Second World War’, University of Sussex Journal of Contemporary History, 16 (2015), pp 37–52