Prosiect Adnoddau Addysgol yr Holocost

Yn sgil grant gan Gymdeithas y Ffoaduriaid Iddewig (AJR), mae’r prosiect hefyd yn cydweithio â Jewish History Association of South Wales/Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru (JHASW/CHIDC) er mwyn datblygu adnoddau dwyieithog, lleol, perthnasol yn ymwneud ag addysg yr Holocost i’w defnyddio mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru. Bydd y rhain ar gael drwy Hwb o semester 2022/3 ymlaen. Drwy hybu deunydd addysgol dwyieithog am yr Holocost a hanes ffoaduriaid yng Nghymru, byddwn yn cefnogi athrawon i ddatblygu gwybodaeth am yr Holocost ymysg pobl ifanc, cynyddu’r nifer o bobl sy’n ymwneud â threftadaeth Iddewig a brwydro yn erbyn gwrth-semitiaeth a hiliaeth.

Yma gallwch gael mynediad i adnoddau Cymraeg a Saesneg a grëwyd fel rhan o’r prosiect. Mae’r pedair gwers gyntaf yn canolbwyntio ar y Kindertransport:

“Ar ôl ffoi ar draws Ewrop er mwyn dianc rhag y Natsïaid, cyrhaeddodd tua 10,000 o blant i Brydain rhwng mis Rhagfyr 1938 a mis Mai 1940 ar y Kindertransport (Cludiant Plant). Bu’n rhaid i’r mwyafrif ohonynt deithio heb eu rhieni nac aelodau eraill o’r teulu. Yn y casgliad hwn o adnoddau am yr Holocost, rydym yn archwilio rhai o hanesion y ffoaduriaid ifanc a ddaeth i Gymru ar y Kindertransport. Mae’r adnoddau yma’n addas ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 3.”

Adnoddau pellach

Mae Canolfan Addysg yr Holocost yng Ngholeg Prifysgol Llundain wedi llunio crynodebau ar sail gwaith ymchwil ar gyfer dosbarthiadau athrawon i gynyddu eu heffeithiolrwydd wrth ddysgu am yr Holocost.

Mae gan Ymddiriedolaeth Diwrnod Coffa’r Holocost nifer o adnoddau dwyieithog Cymraeg/Saesneg er mwyn gallu dysgu mwy am yr Holocost a hil-laddiadau eraill.