Tu ôl i’r Gwydr: Dirgelion yr Amgueddfa Ryfel Ymerodrol

Morris Brodie, Swyddog Preswyl Digidol ym Mhrifysgol Aberystwyth

Ddechrau Gorffennaf 2021, yn fy rôl fel Swyddog Preswyl Digidol ym Mhrifysgol Aberystwyth ar gyfer Rhaglen Partneriaeth yr Ail Ryfel Byd a’r Holocost (SWWHPP), roeddwn i’n ddigon ffodus i gael gweld y tu ôl i lenni’r Amgueddfeydd Rhyfel Ymerodrol (IWM) yn Llundain. Ar y cyd â thri swyddog preswyl arall o sefydliadau partner yn Newcastle, Huddersfield a Bodmin Keep (Cernyw), cefais fy arwain i fyd dirgel curadu amgueddfeydd, rheoli casgliadau a chadwraeth.

(© Morris Brodie) Yr Atriwm yn yr Amgueddfeydd Rhyfel Ymerodrol yn Llundain

Teitl prosiect Rhaglen Partneriaeth yr Ail Ryfel Byd a’r Holocost (SWWHPP) ym Mhrifysgol Aberystwyth, dan arweiniad Dr Andrea Hammel, yw ‘Ffoaduriaid yng Nghymru a ddihangodd rhag Sosialaeth Genedlaethol – Dysgu oddi wrth y Gorffennol i lywio’r Dyfodol’. Mae’n taflu goleuni ar ffoaduriaid a ddaeth i Gymru er mwyn dianc rhag erchyllterau ffasgiaeth yng Nghanolbarth Ewrop, yn ogystal â ffoaduriaid cyfoes. Fel rhan o’r prosiect, rydym yn cyd-guradu ffilm ac arddangosfa gyda ffoaduriaid cyfoes a gwirfoddolwyr o ganolbarth, gogledd a gorllewin Cymru, sydd i’w chynnal yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn ystod hydref 2022.

Roedd y cwrs cyflwyno yn yr Amgueddfa Ryfel Ymerodrol (IWM) yn Llundain yn rhan o gwrs preswyl a drefnwyd gan yr amgueddfa ac yn ychwanegol at y sesiwn a barodd dridiau ar-lein yng nghyfnod pandemig Covid-19 ym mis Mai 2021. Mewn cwrs preswyl cynharach, daeth swyddogion o sefydliadau partner eraill yn Helston (Cernyw) a Gogledd Iwerddon i ymuno â ni. Roedd y sesiynau hyn yn cyflwyno’r hyn sy’n digwydd y tu fewn i amgueddfa mor fawr ac enwog â’r Amgueddfa Ryfel Ymerodrol (IWM), rhywbeth yr adeiladwyd arno yn ystod y cwrs preswyl wyneb yn wyneb.

Yn ystod ein cyfnod yn Llundain, cawsom gyfle i grwydro’r amgueddfa, sydd ond newydd ailagor ar ôl bod ar gau drwy’r rhan fwyaf o’r pandemig. Yr hyn a wnaeth ein hamser yn fwy arbennig o lawer oedd gallu cael mynediad i ardaloedd sydd ar gau i’r cyhoedd, dan arweiniad ein tywyswyr arbenigol: staff a gwirfoddolwyr yr Amgueddfeydd Rhyfel Ymerodrol (IWM). Cawsom ein tywys o amgylch yr ardaloedd cadwraeth a dysgu am yr heriau wrth baratoi eitemau i’w harddangos, yn ogystal â’u hamddiffyn rhag pryfed megis chwilod a llau llyfrau a allai ddifrodi casgliadau’r amgueddfa. Cawsom fewnwelediad hefyd i sut y mae’r casgliadau’n cael eu storio, a sut i gynnal a symud stôr o 33.5 miliwn o eitemau!

(© Morris Brodie) Ein taith o gwmpas stiwdio gadwraeth yr Amgueddfa Ryfel Ymerodrol yn Llundain

Un o’r teithiau ymweld mwyaf cofiadwy oedd cipolwg ar Orielau’r Ail Ryfel Byd a Holocost newydd a fydd yn agor yn Hydref 2021. Yno fe welsom orielau oedd wrthi’n cael eu creu ac roedd hi’n anrhydedd o’r mwyaf i weld y gofod yn cael ei drawsnewid o fod yn safle adeiladu i ystafelloedd arddangos deniadol y mae’r Amgueddfeydd Rhyfel Ymerodrol (IWM) mor enwog amdanynt. Yn dilyn taith rithiol y cwrs preswyl ar-lein cynharach, roedd y profiad o allu cerdded o gwmpas yr orielau yn ein hetiau caled, esgidiau trwm a siacedi diogelwch yn brofiad gwerth chweil.

(© Morris Brodie) Ein cipolwg gyntaf ar yr Orielau newydd

Un agwedd ar y gwaith curadu a’m trawodd i yn ystod y daith dywys oedd y defnydd o ofod, rhywbeth sydd mor bwysig o safbwynt ein prosiect ni ein hunain. Er bod gan y ddwy oriel lawr cyfan yr un (sy’n gwneud i’r gofod arddangos sydd gennym ni yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn fach iawn), rhannwyd pob un o’r orielau yn nifer o ystafelloedd thematig. Roedd arddull unigryw i bob un o’r ystafelloedd hyn o safbwynt golau, cypyrddau arddangos, seinweddau a nifer y gwrthrychau a fydd yn cael eu harddangos. Canlyniad hynny yw naws wahanol ar gyfer archwilio’r cyfnodau a’r pynciau gwahanol.

(© Orielau’r Ail Ryfel Byd IWM) Mae’r gwaith ar Orielau’r Ail Ryfel Byd yn parhau; agorir ar 20 Hydref 2021

Mae’r defnydd dyfeisgar o ofod yn golygu y gallwch (yn fras) arwain pobl drwy’r orielau, gan weu naratif ac adrodd straeon niferus ar hyd y ffordd. Mae gofodau, felly, yn dylanwadu ar sut rydyn ni’n mwynhau arddangosfa, a sut rydyn ni’n prosesu’r wybodaeth a roddir, boed hynny’n destunol, yn weledol, yn glywedol neu’n ddigidol. Nid mater o wasgu cymaint o wrthrychau â phosibl i mewn i ystafell a llenwi’r waliau â thestun yn unig ydyw. Er mwyn cael arddangosfa effeithiol, mae’n rhaid i chi ddarparu ar gyfer amrywiaeth o arddulliau dysgu; fel sy’n digwydd mor aml, mae amrywiaeth yn allweddol i lwyddiant. Edrychaf ymlaen at weld y cynnyrch gorffenedig pan fydd yr Orielau’n agor a gobeithio y gallwn ddal rhywfaint o’r hanfod hwnnw yn ein harddangosfa ein hunain yr hydref nesaf.

D.S.: Ymddangosodd y postiad hwn gyntaf ar flog yr Amgueddfeydd Rhyfel Ymerodrol a Rhaglen Partneriaeth yr Ail Ryfel Byd a’r Holocost (SWWHPP) ar 21 Gorffennaf 2021.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *