Ffurfiwyd y No. 3 Troop, a oedd yn rhan o’r No. 10 Commando (Rhyng-Gynghreiriol), ym mis Gorffennaf 1942. Syniad yr Arglwydd Louis Mountbatten oedd y corfflu hwn (pennaeth Gweithrediadau ar y Cyd ar y pryd), a oedd eisiau defnyddio sgiliau iaith ffoaduriaid Almaenig ac Awstriaidd fel rhan o gorfflu comando dirgel i weithredu y tu hwnt i linell flaen y gelyn. Dan arweiniad myfyriwr iaith graddedig o Gaergrawnt, sef y Capten Bryan Hilton-Jones a oedd yn wreiddiol o Gaernarfon, roedd y corfflu’n cynnwys 130 o ddynion (87 ohonynt yn ffoaduriaid Almaeneg eu hiaith) a gafodd eu hyfforddi yn Aberdyfi yng nghysgod mynyddoedd Eryri.
Iddewon oedd pawb bron ac roedd rhai wedi brwydro yn Rhyfel Cartref Sbaen flynyddoedd ynghynt. Roedd pump ohonynt wedi cael eu halltudio i Awstralia cyn hynny ar fwrdd yr enwog HMT Dunera a’u caethiwo yn Hay, De Cymru Newydd. Am naw mis, bu’r recriwtiaid yn hyfforddi ar dirwedd anodd, gan fabwysiadu enwau a oedd yn swnio’n Brydeinig er mwyn peidio codi amheuaeth a dileu unrhyw arlliw o’u bywydau blaenorol (gan gynnwys cael gwared ar wrthrychau gweddïo Iddewig megis y tefilin a’r talis). Oherwydd y fath gyfrinachedd fe gawsant eu llysenwi’n X Troop gan Winston Churchill.
Roedd Colin Edward Anson (ffoadur Iddewig o’r Almaen o’r enw Claus Leopold Octavio Ascher yn wreiddiol) yn aelod o’r X Troop ac roedd yn cofio bod yr hyfforddiant elfennol “yn eithaf heriol… yn fwriadol felly yn ôl bob tebyg er mwyn digalonni’r rhai nad oedd yn rhoi o’u gorau”.
Gwrandewch ar stori Colin yma (Allanol)
Roedd llawer o’r recriwtiaid wedi bod yn aelodau o’r corfflu di-ymladd, y Pioneer Corps, cyn hynny. Gogleisiwyd Tony Firth (a adnabuwyd ynghynt fel Hans Fürth) pan ddywedwyd wrtho yn ei gyfweliad ar gyfer yr X Troop y byddai’n derbyn uwch hyfforddiant ffrwydron ac arfau. Meddai yn ei gofiant: “Teimlai braidd yn rhyfedd nad oedd gen i’r hawl i ddefnyddio unrhyw beth mwy peryglus nag ysgubell un diwrnod a’r diwrnod nesaf roedden nhw’n dweud wrtha i ’mod i’n mynd i fod yn ysbïwr dros Brydain.”
Roedd hyfforddiant yn Aberdyfi yn cynnwys crefftau maes, cuddliwio, brwydro stryd, torri i mewn i dai ac agor cloeon hefyd. Ar un adeg, gorchmynnwyd recriwtiaid i dorri i mewn i Gastell Harlech (dan oruchwyliaeth y Gwarchodlu Cartref) i gasglu dogfennau (am fod gofyn i rai catrodau wneud hyn yn ystod ymgyrch Dieppe ym mis Awst 1942).
Roedd y mwyafrif o’r comandos yn ddysgedig iawn ac yn gwrtais i’w gwesteiwyr, ac roedd y gymuned leol yr un mor groesawgar, yn trefnu dawnsfeydd wythnosol a thrafodaethau a dadleuon achlysurol. Roedd un comando, Max Lewinsky (a adnabuwyd yn ddiweddarach fel Max Laddy), wedi bod yn ddawnsiwr proffesiynol yn ôl ym Mhrâg. Gwerthfawrogwyd ei ddawn fel dawnsiwr yn fawr iawn gan un o’r trigolion lleol: priododd Margaret Rees o Aberdyfi yn 1943. Roedd Lewinsky eisoes wedi treulio cyfnod byr yng Nghymru cyn ymuno â’r X Troop, yn gweithio fel gwas fferm ym Machen Isaf ger Casnewydd, cyn cael ei gaethiwo a’i alltudio i Awstralia yn 1940.
Er na wnaeth yr X Troop fyth frwydro fel uned, cafodd yr aelodau eu secondio i gatrodau comando eraill a’u hanfon i’r Eidal, Groeg, Iwgoslafia, Albania, yr Iseldiroedd, Gwlad Belg, Ffrainc a’r Almaen. Roedd eu harbenigedd, a seiliwyd ar drefn hyfforddi heriol, yn werthfawr iawn yng ngolwg eu cadlywyddion. Anafwyd Colin Edward Anson yn ddrwg yn Sisili a gorfu iddo gael llawdriniaeth ar ei ymennydd, ond ailymunodd â’r rhyfel ar ynys Vis yn Iwgoslafia rai misoedd yn ddiweddarach. Ar ôl y rhyfel, llwyddodd i ddod o hyd i’w fam yn yr Almaen a’i helpu i symud i Brydain.
Cymerodd pedwar deg pump o aelodau’r X Troop ran yn y glaniadau D-Day yn Normandi ar 6 Mehefin 1944, a lladdwyd, anafwyd neu collwyd 27 ohonynt. Lladdwyd Max Lewinsky ar gwch glanio ochr yn ochr â’i gyd-aelod Ernest Weinberger. Roedd gwraig ifanc Lewinsky, yn Aberdyfi, yn feichiog pan fu farw ei gŵr. Roedd George Lane (a gafodd ei eni’n György Lányi yn Hwngari Uchaf, sydd erbyn hyn yn rhan o Slofacia fwy neu lai) yn aelod o gangen y Special Operations Executive (SOE) a chafodd ei gipio gan yr Almaenwyr yn Ffrainc. Anodd credu efallai ond llwyddodd i beidio â datgelu ei fod yn ffoadur Iddewig drwy ddefnyddio’i acen Gymraeg orau (a ddatblygodd wrth gael ei hyfforddi yn Aberdyfi) pan gâi ei holi gan y Cadlywydd Almaenig Erwin Rommel.
Cafodd deunaw o gomandos yr X Troop eu comisiynu yn ystod y rhyfel a phedwar ohonynt yn derbyn comisiynau maes y gad. Llwyddodd un ohonynt, Manfred Gans, i weld ei rieni hefyd ar ôl dod ar eu traws yn Theresienstadt. Fodd bynnag, yn achos y mwyafrif o aelodau’r X Troop, nhw oedd yr unig aelod o’u teulu i oresgyn y rhyfel. Cofiodd arweinydd yr X Troop, Hilton-Jones, yn ddiweddarach, “Er gwaethaf anawsterau niferus a difrifol, llwyddodd y criw gwirfoddol yma o ‘elynion estron’ i ennill enw da cwbl haeddiannol iddynt eu hunain, a hynny’n bennaf yn sgil diffuantrwydd ac ymroddiad pob aelod o’r criw i’r gwasanaeth. Yn eu hachos nhw yn fwy na neb arall efallai, roedd yn fater o hunan-barch a hunan-gyfiawnhad.”
Cafodd y gatrawd ei dileu’n ffurfiol ym mis Medi 1945 ond fe arhosodd nifer o’r comandos yn yr Almaen er mwyn defnyddio’u sgiliau unigryw yn ystod y broses o ddadnatsieiddio. Er gwaethaf ychydig o oedi, cafodd aelodau’r X Troop eu derbyn maes o law yn ddinasyddion Prydeinig, er mai fel ‘gelynion estron’ y cawsant eu hadnabod er 1939. Dychwelodd rhai aelodau i Gymru yn y pen draw; bu Konstantin Goldstern (a adnabuwyd fel Robert Kenneth Garvin) yn byw yma weddill ei oes tan ei farwolaeth yng Ngheredigion yn 1981. Yn 1999, codwyd cofeb yn Aberdyfi i gofio’u haberth, ochr yn ochr â Gwely Rhosod Comando. Llwyddodd dros ugain o gyn-filwyr i fynychu’r seremoni.
Darllen pellach
‘3 Troop (‘X’ Troop)’, Commando Veterans Archive (http://www.commandoveterans.org/book/export/html/986)
Leah Garrett, X Troop: The Secret Jewish Commandos of World War II (London: HMH Books, 2021)
Steven Kern, ‘Jewish Refugees from Germany and Austria in the British Army, 1939-45’ (PhD Thesis, University of Nottingham, 2014)
Cai Parry-Jones, The Jews of Wales: A History (Cardiff: University of Wales Press, 2017)
Martin Sugarman, ‘World War II: No. 3 (Jewish) Troop of the No. 10 Commando’, Jewish Virtual Library (https://www.jewishvirtuallibrary.org/no-3-jewish-troop-of-the-no-10-commando). Martin yw archifydd a hanesydd Cymdeithas y Cyn-filwyr Iddewig; diolch iddo am yr wybodaeth am yr X-Troop