Ganwyd Käthe (Kate) Bosse-Griffiths yn Wittenberg, yr Almaen yn 1910. Roedd ei thad, Paul Bosse, yn brif lawfeddyg yn yr ysbyty lleol a’i mam, Käthe hefyd, yn dod o deulu Iddewig. Er mai Iddewon oedd rhieni Käthe hefyd, cafodd hi (fel Kate ei merch) ei magu’n Gristion. Serch hynny, yn dilyn pasio Deddfau Nuremberg yn 1935, cafodd hi a’i phlant eu categoreiddio’n Iddewon.
Enillodd Kate radd doethur mewn cerfluniaeth Eifftaidd ym Mhrifysgol Munich ac aeth ar sawl taith astudio i Rufain, Groeg a’r Aifft. Sicrhaodd swydd yn yr Amgueddfa Eifftaidd ym Merlin ond cafodd ei diswyddo ddiwedd 1936 ar ôl i gydweithiwr ddatgelu ei threftadaeth Iddewig. Penderfynodd adael yr Almaen, gan ddewis mynd i Brydain a chyrraedd yno ym mis Ionawr 1937.
Gweithiodd i ddechrau fel ysgrifenyddes i Syr D’Arcy Wentworth Thompson, biolegydd mathemategol blaenllaw a chlasurwr ym Mhrifysgol St Andrews yn yr Alban, cyn symud i Lundain. Ymgymerodd wedyn â swydd fel cynorthwyydd Almaeneg mewn ysgol i ferched ym Mrighton, cyn cael swydd yng Ngholeg Prifysgol Llundain, a oedd yn cynnwys darlithio yn yr Adran Eiffteg. Trefnwyd y swydd honno iddi gyda chymorth y Gymdeithas Amddiffyn Gwyddoniaeth a Dysg a helpodd nifer o academyddion ar ffo i ganfod gwaith (megis yr Athro Werner Friedrich Bruck, economegydd Almaenig-Iddewig a weithiodd yng Ngholeg Prifysgol De Cymru a Sir Fynwy rhwng 1934 ac 1938).
Cafodd Kate gynnig grant ymchwil i Goleg Somerville, Rhydychen wedyn er mwyn gweithio yn Amgueddfa Ashmolean, lle’r oedd casgliad Eifftaidd newydd agor. Symudodd yno yn 1939 a chyfarfod â’i darpar ŵr, yr ymgyrchydd iaith Gymraeg a’r academydd John Gwyn Griffiths. Priododd y ddau’n fuan ym mis Medi 1939, yn rhannol oherwydd yr ofn y gallai Kate gael ei chategoreiddio fel gelyn estron a’i chaethiwo.
Yn ôl yn yr Almaen, roedd teulu Kate yn wynebu pwysau cynyddol o du’r Natsïaid. Diswyddwyd ei thad o’r ysbyty ar ôl iddo wrthod ysgaru ei wraig Käthe, er gwaethaf ei wasanaeth milwrol yn y Rhyfel Byd Cyntaf a’i waith fel meddyg gyda thîm sbrintio’r Almaen yng Ngemau Olympaidd Berlin yn 1936. Rhwystrwyd sawl aelod arall o deulu Kate rhag parhau â’u gwaith meddygol dan gyfundrefn y Natsïaidd. Cyflawnodd modryb Eva Kate, a oedd wedi priodi swyddog o fyddin yr Almaen, hunanladdiad yn 1938 yn y gobaith y byddai ei phlant yn cael eu derbyn fel Ariaid.
Pan ddechreuodd y rhyfel, galwyd brodyr Kate, Günther a Fritz, i wasanaethu yn y fyddin ond cawsant eu diswyddo cyn gynted ag y datgelwyd eu treftadaeth Iddewig. Cawsant hwy, yn ogystal â’r mwyafrif o aelodau eraill y teulu, eu harestio yn 1944 fel rhan o’r ymateb i’r ymdrech i ddienyddio Hitler (y cynllun 20 Gorffennaf). Anfonwyd Günther a Fritz i wersyll llafur Zöschen ond llwyddasant i ddianc rhag yr orymdaith marwolaeth a gynhaliwyd cyn i’r fyddin Americanaidd feddiannu a rhyddhau’r gwersyll. Dienyddiwyd Kurt Ledien, ail gefnder mam Kate, fel aelod o grŵp gwrthsafiad y Rhosyn Gwyn ym mis Ebrill 1945 yng Ngwersyll Crynhoi Neuengamme. Cafodd ei mam, Käthe, ei harestio hefyd a’i hanfon i wersyll crynhoi’r menywod yn Ravensbrück. Bu farw yno ym mis Rhagfyr 1944.
Ar ôl iddynt briodi yn 1939, symudodd Kate a Gwyn i Pentre, Rhondda. Roedd tad Gwyn yn weinidog gyda’r Bedyddwyr yno a llwyddodd y pâr priod newydd i sicrhau cartref gerllaw aelwyd y teulu Griffiths. Yno, ymserchodd Kate yn yr iaith Gymraeg a’r diwylliant Cymreig, gan ysgrifennu barddoniaeth a straeon byrion a’u cynnig (yn llwyddiannus) mewn cystadlaethau. Ar y dechrau, helpai Gwyni hi i gyfieithu ei gwaith i’r Gymraeg ond daeth hithau’n rhugl yn fuan iawn. Roedd tirwedd Cymru’n ei hatgoffa o’r fforestydd du yn ei mamwlad yn yr Almaen, “natur wirioneddol ddiamcan, yr hyn roeddwn i wedi gweld cymaint o’i eisiau yn nhaclusrwydd cefn gwlad hyfryd Lloegr”.
Yn ystod ei chyfnod yn Llundain, roedd gan Kate gydymdeimlad â chomiwnyddiaeth ac roedd hi wedi ymuno â’r Left Book Club ond pan dorrodd y rhyfel, roedd hi a Gwyn yn gwrthwynebu fel heddychwyr. Daeth Gwyn yn wrthwynebydd cydwybodol a chafodd ei rhyddhau o wasanaeth milwrol ar sail ei ddaliadau crefyddol (a gwleidyddol). Aeth Kate ati i gyhoeddi pamffled am heddychiaeth Almaenig hyd yn oed ar ran y gymdeithas heddwch Gymraeg, Heddychwyr Cymru, yn 1943.
Cyn y storm
Mae’r cyfoethogion tewion yn gorfoleddu draw,
Yn lledu’n braf eu hwyliau i gipio’r gwynt a ddaw.
Cyn y storm.
Ar warrau’r trefwyr syber fe bwysa’r syrthni’n hir,
Lled-gofiant am hen ddyddiau, llefant am awel ir.
Cyn y storm.
Mewn ofn y gwaedda’r tlodion: “Dwg rhyfel angen in!
Ragluniaeth, Arglwydd, Führer! Rhowch gysgod rhag yr hin!
Cyn y storm!”
Fe ddaeth y storm a derfydd. Ti, fab y werin, clyw!
O cadw ac ymgeledda yr hyn a ddylai fyw
Wedi’r storm!
Before the storm
The fat rich are rejoicing yonder,
Spreading their sails finely to capture the wind on its way.
Before the storm.
On the shoulders of the sober townfolk the long drowsiness weighs,
They faintly remember the old days, the cry for a fresh breeze
Before the storm.
In fear the poor shout: “Bring us war!
Providence, Lord, Führer! Give us shelter from the elements!
Before the storm!”
The storm came and will finish. You, son of the common people, hear!
Oh keep and treasure what should live
After the storm!
Kate Bosse-Griffiths, ‘Cyn y storm’ (‘Before the storm’), Heddiw [Today] , July 1940
Roedd Kate a Gwyn yn aelodau blaenllaw o Gylch Cadwgan, grŵp llenyddol Cymraeg a enwyd ar ôl mynydd cyfagos. Ymysg yr aelodau eraill roedd Pennar Davies, Elizabeth Jones (chwaer hynaf Gwyn a’r ferch gyntaf i ennill gradd dosbarth cyntaf mewn Cymraeg o Goleg Prifysgol Cymru, Caerdydd) a’r heddychwr Cristnogol ac AS annibynnol, George Maitland Lloyd Davies.
Cyhoeddodd Kate ei nofel gyntaf, Anesmwyth Hoen yn 1941, ac yn 1942 enillodd gystadleuaeth y stori fer yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Aberteifi am ‘Y Bennod Olaf’. Roedd elfen hunangofiannol i lawer o’i gweithiau, gan gynnwys themâu Almaenig ac Ewropeaidd.
Yn 1944 symudodd y ddau i’r Bala, cyn ymgartrefu yn Abertawe ar ddiwedd y rhyfel. Yn y Bala, ysgrifennai Kate lythyron at garcharorion rhyfel Almaenig oedd yn cael eu dal yn y cyffiniau, gan anfon parseli bwyd atynt hefyd. Er i’w thad oroesi’r rhyfel, ni welodd Kate ef eto; bu farw o drawiad ar y galon yn 1947.
Daliodd Kate i ysgrifennu yn y wasg Gymraeg, gan gefnogi ffurfio Cymdeithas yr Iaith yn 1962. Cafodd ei dirwyo hyd yn oed am wrthod â thalu am docyn parcio uniaith Saesneg. Dywedodd: “Dysgais Gymraeg nid yn unig i wybod am gyfoeth llenyddiaeth Gymraeg… ond er mwyn dod yn nes at enaid y Gymraeg.”
Yn Abertawe cafodd gyfle i ddilyn trywydd ei chariad mawr arall hefyd: yr hen Aifft. Yn 1971, trefnodd Gwyn i Goleg Prifysgol Cymru, Abertawe, gymryd meddiant o gannoedd o eitemau o’r hen Aifft nad oedd wedi cael eu dadbacio ers y 1930au. Gweithiodd Kate yn ddiflino ar y dehongli, trefnu a chatalogio ac ar sail ei gwaith hi y sefydlwyd Amgueddfa’r Aifft ar gampws y brifysgol. Hi oedd curadur y casgliad (a drefnir bellach yn y Ganolfan Eifftaidd) tan 1993. Bu farw yn 1998. Ysgrifennodd ei mab, Heini Gruffudd, gofiant iddi hi a’i theulu dan y teitl Yr Erlid a gyhoeddwyd yn ddiweddarach yn Saesneg fel A Haven from Hitler.
Yn y recordiad byr hwn sy’n rhan o gyfweliad a gynhaliwyd ar gyfer y prosiect yn 2021, mae mab Kate, Heini Gruffudd, yn trafod gyrfa lenyddol ei fam yng Nghymru:
Darllen pellach
Ken Griffin, ‘Remembering Dr Käthe (Kate) Bosse-Griffiths (1910–1998)’, Egypt Centre Collection Blog, 8 March 2021 (https://egyptcentrecollectionblog.blogspot.com/2021/03/remembering-dr-kathe-kate-bosse.html)
Heini Gruffudd, Yr Elrid (Talybont: Y Lolfa, 2012), cyhoedd yn Saesneg fel A Haven from Hitler. (Talybont: Y Lolfa, 2014)
‘Kate Bosse-Griffiths’, 100 Menywod Cymreig (https://www.100welshwomen.wales/100-women/kate_bosse-griffiths/)
Marion Löffler, ‘Bosse-Griffiths, Kate (1910-1998), Egyptologist and author’, Dictionary of Welsh Biography (https://biography.wales/article/s10-GRIF-KAT-1910)
Marion Löffler, ‘Forced to flee the Nazis, ‘Dr Kate’ built an incredible career and family life in Wales’, Wales Online, 1 March 2017 (https://www.walesonline.co.uk/lifestyle/nostalgia/forced-flee-nazis-dr-kate-12577775)
Cai Parry-Jones, The Jews of Wales: A History (Cardiff: University of Wales Press, 2017)