Roedd Ystâd Fasnachu Trefforest, a enwyd yn Ystâd Ddiwydiannol Trefforest yn ddiweddarach, yn Ardal Arbennig a sefydlwyd fel rhan o Ddeddf Ardaloedd Arbennig 1934. Roedd y ddeddf yn targedu ardaloedd â lefelau uchel o ddiweithdra, megis de Cymru, Glannau’r Tyne a’r Alban, gan gynnig symbyliad i fusnesau ymsefydlu yno. Prin oedd diddordeb dynion busnes o Brydain yn yr ardaloedd yma ond pan ddechreuodd y Natsïaid gipio busnesau Iddewig yn 1938, manteisiodd sawl ffoadur Iddewig ar y trwyddedau preswylio hawdd eu caffael a’r rhent sylweddol is er mwyn sefydlu ffatrïoedd. Rhwng mis Ebrill 1935 a mis Gorffennaf 1938, sefydlwyd 187 o fusnesau gan ffoaduriaid ym Mhrydain ond erbyn mis Awst 1939, roedd y nifer wedi cynyddu i bron 500, gyda thros 300 ohonynt wedi eu lleoli yn yr Ardaloedd Arbennig.
Erbyn mis Mai 1940, roedd 55 cwmni a sefydlwyd gan ffoaduriaid Iddewig yn gweithredu allan o Drefforest ger Pontypridd, gan gyflogi tua 1,800 o bobl. Arweiniodd y fath gwmnïau at leihau’r ddibyniaeth ar fewnforion, yn ogystal â sefydlu technoleg newydd ym Mhrydain mewn rhai achosion. Cafodd rhai ffatrïoedd, megis Aero Zipp Fasteners, cwmni cynhyrchu sipiau a sefydlwyd gan y dyn busnes o Ferlin, Joachim Koppel, eu cymryd drosodd i helpu’r ymdrech ryfel. Datblygwyd y ffatri hon i greu cydrannau ar gyfer awyrennau i’r Weinyddiaeth Adeiladu Awyrennau, a dechreuodd cwmni’r Iddew o Awstria Otto Brill, sef Livia Leather Goods Ltd, gynhyrchu gorchuddion seddi lledr ar gyfer awyrennau’r Llu Awyr Brenhinol.
Symudodd teulu Desider (Des) Golten i Gymru o Tsiecoslofacia (roedden nhw’n dod o Žilina yn wreiddiol) yn 1939. Roedd gan ei dad fusnes gweithgynhyrchu ym Mhrâg a llwyddodd i symud y rhan fwyaf o’i deulu agos gydag ef wrth ailsefydlu ei ffatri yn Nhrefforest. Roedd chwech ohonynt yn byw yn yr un tŷ yn yr Eglwys Newydd, Caerdydd, gan rannu un gwely rhyngddynt.
Cofia ar y dechrau, “roedd pethau’n ofnadwy, oherwydd pan ddaethon ni draw, roedden ni’n dod i wlad wahanol, doedden ni ddim yn siarad yr iaith, doedd gyda ni ddim syniad sut roedden ni’n mynd i ymdopi… ac roedd Mam yn enwedig yn… anhapus am ryw flwyddyn nes iddi ddechrau cyfarwyddo… roedd yn sioc ddiwylliannol enfawr”
Yn dilyn y rhyfel, gweithiodd Des yn y ffatri yn ymyl pedwar o’i berthnasau. Yn drasig iawn, cafodd ei fam-gu, ei fodryb, ei ewythr a’i gefnder eu gadael ar ôl, eu cludo i Auschwitz a’u llofruddio gan y Natsïaid.
Darllenwch fwy am stori Des (Allanol)
Yn y cyfweliad hwn a recordiwyd gan aelod o’i deulu ym mis Hydref 2010, mae Des yn cofio’i daith o Brâg i Brydain yn 1939.
Gweithiodd un o blant y Kindertransport, Harry Weinberger, yn ffatri ei ewythr yn Nhrefforest o 1941 hyd 1944. Gweithiai 10 awr y dydd, gyda dim ond hanner awr o egwyl i ginio, gan fynd i’r sinema neu am dro hir i’r bryniau pan fyddai ganddo amser rhydd. Byddai’n helpu mab ei landlord â’i waith cartref – amod ei lety, er ei fod yn gweithio yn y dafarn leol hefyd. Roedd y ffatri’n creu morterau ar gyfer y fyddin, rhywbeth a ddaeth yn ddefnyddiol iawn i Harri yn ystod ei gyfnod diweddarach o hyfforddiant gyda’r fyddin: “pan ofynnwyd i ni ddatgymalu ac ailosod morterau, roeddwn i’n gallu gwneud hynny. Wnes i ddim dweud pam, am ’mod i wedi bod yn gwneud y pethau hyn, ac roedden nhw’n meddwl ’mod i’n athrylith yn gallu gwneud y pethau hyn heb unrhyw arweiniad.”
Symudodd teulu Billi Holden o Fafaria i Drefforest ym mis Mai 1939, ar ôl i’w thad gael caniatâd i sefydlu ffatri blastig. Mae’n cofio penderfyniad gweddol fympwyol ei rhieni i ddod i Gymru: “Dyma nhw’n edrych ar fap a dyma nhw’n rhyw fath o ddweud… dyna Belfast, Lerpwl am wn i, Swydd Durham, Glasgow [yr Ardaloedd Arbennig eraill]… Wel, beth bynnag, dyma nhw’n mesur y pellter ac edrychai fel petai ar linell syth o Lundain felly dyna beth ddigwyddodd.”
Aeth Billi a’i chwaer i’r ysgol leol yng Nghaerdydd. Roedd ei chwaer yn hŷn a bu’n rhaid iddi ddysgu Cymraeg cyn y gallai ddysgu Saesneg, gan nad oedd neb arall yn y teulu yn siarad Saesneg. Dysgodd Billi’n gyflym sut i esgusodi ei hun o’i kindergarten, gan ddefnyddio’r cyfle hwnnw i grwydro tuag adref! Dysgodd ei thad Saesneg maes o law hefyd a gofynnwyd iddo rywdro o ble roedd e’n dod. Pan atebodd “Cymru” – yr ymateb oedd “Doeddwn i ddim yn credu eu bod nhw’n siarad fel yna.”
Gwrandewch ar stori Harry (Allanol)
Yn y cyfweliad hwn a recordiwyd gan Gymdeithas Hanes Iddewig De Cymru yn 2018, mae George yn trafod Trefforest (ar gael yn Casgliad y Werin Cymru):
Dyn busnes o Awstria oedd Paul Schoenmann a oedd yn berchen ar ffatri papur sigaréts yn Fienna. Wedi’r Anschluss yn 1938, cafodd y ffatri ei chipio a diddymwyd ei basport. Llwyddodd i ffoi gyda’i deulu ym mis Ebrill 1939, er mai dim ond cyfwerth â £5 oedd hawl ganddo i fynd gydag ef. Sefydlodd y General Paper and Box Manufacturing Co Ltd gyda phedwar cyfarwyddwr arall yn Nhrefforest gan gynhyrchu papurau sigarét Rizla. Cofia George, mab Paul, fod “Gwneud y papurau a’r bocsys bach yn waith llafurus iawn – môr o ferched yn pacio llyfrynnau â llaw – ac yn y pen draw roedd y cwmni’n cyflogi tua 300 o bobl oedd yn rhywbeth i’w groesawu yn y Cymoedd dirwasgedig.”
Llwyddodd Paul hyd yn oed i helpu ei frawd-yng-nghyfraith, Erich Oppenheimer, i gael ei ryddhau o gaethiwed drwy ei argymell ar gyfer swydd gyda chwmni nwyddau optegol yn Nhrefforest. Roedd dwy ferch Erich wedi cyrraedd ar y Kindertransport ac roedd ei wraig ac yntau hefyd wedi llwyddo i ddianc i Brydain, cyn iddo gael ei arestio a’i ddwyn i Ynys Manaw. Symudodd Erich, ei wraig a’i ferched i Gaerdydd ac ymunodd yn ddiweddarach â’r Gwarchodlu Cartref.
Prynodd cwmni Rizla ffatri Schoenmann yn 1948 a chafodd Paul ei ryddhau bedair blynedd yn ddiweddarach, ond aeth ati i ffurfio cwmni newydd yn creu dodrefn cegin ac ystafelloedd gwely.
Tad Gaby Koppe, Henry (Heinrich Pinkus yn wreiddiol) oedd prif beiriannydd Aero Zipp ar ôl y rhyfel a bu’n byw wrth ymyl nifer o ddiwydianwyr o ffoaduriaid yng Nghaerdydd fel plentyn yn y 1950au a’r 1960au. Cofia’r traddodiad o weld nifer ohonynt yn cyfarfod yn swyddfa ei thad am goffi ar ddydd Sul, wedi i’w brawd a hithau ddychwelyd o cheder:
“y syniad oedd, rhyw fath o sgwrs fusnes, mewn gwirionedd. Byddai’r dynion i gyd yn eistedd yn y stafell orau, a byddech chi… chi’n gwybod, yn dod allan â’r tsieina gorau ac yn gwneud coffi du cryf, ac roedd yr awyrgylch… wir yn ddwys gyda rhyw fath o fwg sigâr, roedd popeth yn drwm iawn yno, hyd yn oed ar ryw fath o ddydd o haf, efallai y byddai’r llenni ar gau gyda nhw a bydden nhw’n sgwrsio, dwi ddim yn gwybod… rhyw fân siarad”
Sefydlwyd tua 1,000 o gwmnïau gan ffoaduriaid ym Mhrydain o’r 1930au tan ddiwedd y 1940au. Roedd y busnesau yma’n cyflogi 250,000 o bobl, yn sylweddol uwch na’r nifer o ffoaduriaid a ddaeth i’r wlad. Yn ôl y Jewish Chronicle yn 1963, roedd y mwyafrif o fusnesau a sefydlwyd gan ffoaduriaid yn Nhrefforest cyn y rhyfel yn dal yn yr ardal ddegawdau’n ddiweddarach.
Darllenwch flog Tiffany Beebe ar ddiwydianwyr sy’n ffoaduriaid yn Nhrefforest
Darllen pellach
Gerhard Hirschfeld (ed.), Exile in Great Britain: Refugees from Hitler’s Germany (Leamington Spa: Berg, 1984)
Colin Holmes, John Bull’s Island: Immigration and British Society, 1871-1971 (Basingstoke: Macmillan, 1988)
Cai Parry-Jones, The Jews of Wales: A History (Cardiff: University of Wales Press, 2017)
George Schoenmann, ‘End of an era for Rizla factory’, Wales Online, 2 January 2006 (https://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/end-era-rizla-factory-2356398)