Bywyd Crefyddol

O safbwynt llawer o ffoaduriaid Iddewig, roedd crefydd yn chwarae rhan bwysig wrth addasu i wlad newydd. Byddai’r gymuned Iddewig leol yn aml yn gofalu am blant Iddewig. Ym mis Ionawr 1939, ymwelodd y Parchedig Joseph Weintrobe, gweinidog Cynulliad Hebreaidd Abertawe ac aelod o Bwyllgor Ffoaduriaid Iddewig Abertawe, â gwersyll derbyn Dovecourt yn Essex. Dewisodd ddeuddeg bachgen Iddewig i symud i Abertawe a gofalwyd amdanynt gan aelodau o’r cynulliad.

Abertawe oedd cartref synagog Goat Street hefyd, a adeiladwyd yn 1859 ar gyfer cynulleidfa Iddewig Uniongred. Mynychai Ellen Davies, un o blant Almaenig y Kindertransport, wasanaethau yno ar ôl cael ei maethu gan bâr lleol:

“Fel teulu Iddewig da, bydden ni’n mynd i’r synagog fore dydd Sadwrn … yn gweddïo … roeddwn i’n teimlo’n gartrefol iawn o glywed y gweddïau Hebraeg. Roedd yn fy atgoffa i o Hoof [yn Hesse, yr Almaen] lle’r oedd mynd i’r synagog yn gymaint rhan o ’mywyd.”

Yn ddiweddarach, ymunodd Ellen â’r Clwb Ieuenctid Iddewig, gan eu cynrychioli ar Gyngor Ieuenctid Abertawe a chreu ffrindiau gydol oes yn y broses.

Tu mewn i synagog Goat Street, 1909 (ailgynhyrchwyd drwy ganiatâd caredig y Swansea Hebrew Congregation)
Goat Street ar ôl y Blits ar Abertawe yn 1941. Roedd y synagog ar y dde (trwy garedigrwydd Casgliad y Werin Cymru)

Roedd ffoaduriaid eraill yn mynychu synagog Goat Street hefyd. Dathlodd Erwin Kestenbaum, yn wreiddiol o Tsiecoslofacia, ei bar mitzvah yno yn 1939. Yn drasig iawn, dinistriwyd y synagog yn ystod y Blits ar Abertawe ym mis Chwefror 1941; tair noson o arswyd a welodd o leiaf 227 o bobl yn cael eu lladd. Cwblhawyd synagog newydd ar Stryd Ffynone yn 1955.

Serch hynny, nid oedd cael eu hanfon i fyw mewn cymuned Iddewig yn rhoi gwarant o fywyd yn dilyn y rheolau crefyddol. Dechreuodd y Gronfa Brydeinig Ganolog ar gyfer Iddewon Almaenig (CBF) bryderu pan ofynnwyd i ddau fachgen a oedd yn derbyn gofal gan y gymuned Iddewig ym Mhontypridd weithio ar y Sabath ac yn ystod gwyliau crefyddol – yn hollol groes i’w magwraeth Uniongred.

Mewn rhai achosion, roedd hi’n haws anfon plentyn o ffoadur (yn enwedig pobl ifanc yn eu harddegau) i hosteli yn hytrach na chartrefi unigol. Sefydlodd Caerdydd ei hostel ei hun ar gyfer ffoaduriaid yn Heol y Gadeirlan ym mis Mai 1939, a sefydlodd Casnewydd un arall yn 1940 ar heol Casgwent. Cau wnaeth y ddwy yn eu tro, yn 1943 ac 1942, oherwydd diffyg staff a chyllid.

Roedd crefydd yn rhan bwysig o fywyd yng Nghastell Gwrych hefyd. Byddai plant yn astudio Hebraeg, y Torah a Phalestinograffeg er mwyn eu paratoi ar gyfer bywyd ‘Eretz Yisrael’ (tir Israel). Nododd un athro mai eu bwriad oedd “rhoi naws ‘Cartref’ Iddewig i’r holl Hashscharah ac yn fwy na dim, i ddyfnhau’r ymdeimlad crefyddol, fel y gallai fod yn rym gwirioneddol a gweithredol”.

Cofia Arieh Handler, a helpodd i drefnu’r hachshara yno yn ogystal ag eraill ledled y wlad, ddarbwyllo’r CBF y dylid gosod plant Iddewig mewn cymunedau Iddewig: “Bu’n rhaid i fi bledio â nhw, dywedais wrthyn nhw nad oedd hi’n ddigon da eu danfon nhw i bob math o fannau an-Iddewig, byddan nhw ar goll.”

Cofia Herman Rothman, ffoadur yng Nghastell Gwrych, fod “bob aelod yn gallu darllen… Hebraeg yn rhugl a byddem yn cynnal gwasanaethau, gwasanaethau hyfryd iawn… a byddai gyda ni grwpiau trafod hefyd [lle byddem] yn trafod Seioniaeth, yn sôn am grefydd, a byddem yn siarad am lawer o bynciau diddorol”.

Priodas Arieh Handler yng Nghastell Gwrych, 1941. Herman Rothman drefnodd y gerddorfa a chwaraeodd yn y seremoni (© Aviv Handler)

Weithiau, caed ychydig densiwn rhwng cymunedau Iddewig sefydledig a’r newydd-ddyfodiaid o ffoaduriaid. Roedd mwyafrif ffoaduriaid y 1930au yn dod o draddodiad Diwygiad Canolbarth Ewrop, a oedd i’r gwrthwyneb i’r mewnfudwyr Uniongred o Ddwyrain Ewrop yn ystod diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cofia Gaby Koppel ei mam, ffoadur a hanai’n wreiddiol o Hwngari, yn cyfeirio at “Iddewon Saesnig”, gan ddweud “nad oedden nhw fel ni”.

Cofia George Schoenmann, mab i berchennog ffatri ar Ystâd Fasnachu Trefforest, nad oedd y boblogaeth Iddewig a oedd yn byw yng Nghaerdydd “yn gefnogol iawn… byddai fy rhieni’n rhoi’r argraff o hyd bod y rhai oedd wedi cyrraedd yn gynharach… eu bod fel petaen nhw’n casáu’r ffaith fod y ffoaduriaid yn dod, yn dod o Awstria a Tsiecoslofacia.”

Roedd y gymuned Eingl-Iddewig yn hynod bwysig o safbwynt yr ymdrechion codi arian wrth geisio cael Iddewon allan o Gyfandir Ewrop ond wedi iddynt gyrraedd, cafwyd ymdeimlad yn aml o geisio lleihau unrhyw embaras y gallai’r newydd-ddyfodiaid ei achosi. Mewn taflen a gyhoeddwyd gan y Pwyllgor Cymorth Iddewig Almaenig, cynghorwyd ffoaduriaid i:

 

“Ymwrthod rhag siarad Almaeneg ar y stryd mewn mannau cyhoeddus megis bwytai. Siarad Saesneg bratiog yn hytrach nag Almaeneg rhugl – a pheidio â siarad mewn llais uchel.
Peidiwch ag amlygu eich hunan drwy siarad yn uchel, na thrwy eich gwisg. Mae’r Sais yn casáu rhwysg, amlygrwydd gwisg ac arfer, a gwisg ac arfer anghonfensiynol. Rhydd y Sais bwys mawr ar wyleidd-dra, tan-siarad yn hytrach na gor-ddweud, a thawelwch gwisg ac arfer.
Yn fwy na dim, mae angen i chi sylweddoli fod y Gymuned Iddewig yn dibynnu arnoch chi – ar bob un ohonoch chi – i gynnal y safonau Iddewig uchaf yn y wlad hon, i gynnal parch, a helpu i wasanaethu eraill.”

 

Am amryw resymau, nid oedd y gymuned Iddewig sefydledig yn awyddus i dynnu sylw at ddyfodiad Iddewon o rannau o Ewrop oedd dan reolaeth y Natsïaid.

“Gwn fod cynnig llety i ddau blentyn tair oed tanfreintiedig Almaeneg eu hiaith wedi bod yn dasg ddifrifol. Roedden ni wedi dioddef o ddiffyg maeth ac yn dioddef o’r llechau… yn raddol, diflannu wnaeth yr atgofion am Rosa [mam Susi], y cartref i blant amddifad a’r ffrindiau a adawyd ar ôl.”
Susi Bechhofer
Un o blant y Kindertransport

Ni chafodd pob ffoadur Iddewig eu rhoi gyda theuluoedd neu gymunedau Iddewig. Maethwyd llawer gan Gristnogion. Roedd hyn yn ofid i arweinwyr Iddewig yng Nghymru a oedd yn ofni y byddai’r plant hynny’n colli eu hunaniaeth. Ni wnaeth rhai teuluoedd unrhyw ymdrech i droi eu plant maeth ond cafodd eraill eu troi’n Gristnogion pybyr.

Cafodd Susi Bechhofer a’i hefeilles Lotte eu maethu gan weinidog gyda’r Bedyddwyr yng Nghaerdydd a’i wraig, a newidiodd eu henwau i Grace ac Eunice, gan hyd yn oed ddweud wrth y merched mai nhw oedd eu rhieni biolegol. Yn y bôn, dilëwyd treftadaeth Iddewig y merched a chafodd Susi ei cham-drin yn rhywiol gan y gweinidog hefyd. Nid tan 1954 y dysgodd Susi’r gwir am gefndir ei theulu, pan oedd hi’n sefyll arholiad yn yr ysgol a oedd yn gofyn iddi nodi ei henw gwreiddiol. Canfu’n ddiweddarach i’w thad wasanaethu fel milwr ym myddin yr Almaen ac i’w mam gael ei llofruddio yn Auschwitz.

Darllen pellach

Jennifer Craig-Norton, The Kindertransport: Contesting memory (Bloomington, IN: Indiana University Press, 2019)

Ellen Davis, Kerry’s Children: A Jewish Childhood in Nazi Germany and Growing up in South Wales (Bridgend: Seren, 2004)

Jenni Frazer, ‘Susi Bechhofer: Finding her own history’, Jewish Chronicle, 21 August 2017 (https://www.thejc.com/susi-bechhofer-1.443118)

German Jewish Aid Committee, While you are in England: Helpful Information and Guidance for Every Refugee, c. 1939 (Scottish Jewish Archives Centre, DMSC 9.30) (https://sjac-collection.is.ed.ac.uk/jlss/record/111324)

Martin Johnes, Wales since 1939 (Manchester: Manchester University Press, 2012)

Jeremy Josephs and Susi Bechhöfer, Rosa’s Child: One Woman’s Search for Her Past (Bloomsbury, 1996)

Cai Parry-Jones, The Jews of Wales: A History (Cardiff: University of Wales Press, 2017)

Erwin Seligmann, ‘Our Cultural Work’, Gwrych Castle Year Book 1939/40 (Wiener Holocaust Library, OSP3600)