Bwyd

Mae bwyd wedi bod yn rhan bwysig iawn o ddiwylliant pobl erioed; fel y dywedodd yr athronydd Ffrengig Jean Anthelme Brillat-Savarin, “Dywedwch wrtha i beth rydych chi’n ei fwyta; fe ddyweda i wrthych chi beth ydych chi.” Bu’n rhaid i ffoaduriaid oedd yn dianc o Ganolbarth Ewrop addasu i fwyta bwydydd cenedlaethol hollol newydd, a allai ymddangos yn rhyfedd iawn. Arweiniodd dogni adeg y rhyfel at brinder llawer o fwydydd cyfarwydd. Serch hynny, gallai bwyd fod yn fodd o uno pobl, neu gynnig atgof grymus o’u cartrefi blaenorol.

Cafodd dogni effaith wahanol ar wahanol ardaloedd, gydag ardaloedd gwledig yn aml yn gallu ychwanegu at eu deiet gyda chynnyrch wedi’i dyfu eu hunain. Cofia Kate Bosse-Griffiths, a briododd Gymro ar ddechrau’r rhyfel, ddysgu am goginio Cymreig gan ei mam-yng-nghyfraith newydd yn Pentre. Mae’n debyg fod “digon o fwyd” o hyd, gyda “ffrwythau, bara corn cyflawn, llaeth, cig, a.y.b., grawnfwydydd yn y bore”. Llwyddodd hefyd i anfon pecynnau coffi a siocled yn ôl at ei brawd a oedd yn byw mewn rhan o’r Almaen oedd dan reolaeth y Sofietiaid yn ystod y cyfnod yn syth ar ôl y rhyfel.

Yn ôl y colofnydd Claudia Roden, “Mae pob math o fwyd yn adrodd stori. Mae bwyd Iddewig yn adrodd stori pobl fudol a gafodd eu dadwreiddio a’u bydoedd diflanedig.” Deilliai bwydydd Iddewig Prydain yr ugeinfed ganrif o Wlad Pwyl a Rwsia. Roedd hyn oherwydd bod nifer fawr o Iddewon o’r gwledydd hynny wedi dianc rhag tlodi ac erledigaeth yr Ymerodraeth Rwsiaidd yn ystod diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a llawer ohonynt yn ymgartrefu mewn ardaloedd megis dwyrain Llundain. Roedd bwydydd megis afu wedi’i falu a phenwaig hallt, peli pysgod gefilte a latkes (tatws wedi’u ffrio) yn boblogaidd.

Gefilte (pysgod wedi’u stwffio). Yn wreiddiol, roedd bob gefilte yn cynnwys pysgod (carp neu benhwyad fel arfer) wedi’i stwffio â physgod dŵr ffres. Erbyn hyn, mae’r stwffin yn cael ei weini ar ei ben ei hun, fel peli pysgod, ac ym Mhrydain caiff ei wneud yn aml o bysgod dŵr hallt. Gwaherddid tynnu esgyrn ar y Sabath, dyna pam y ceid cig mâl (trwy garedigrwydd Olaf Herfurth/Wikimedia Commons)

Roedd y pwyslais ar gigoedd a physgod yn adlewyrchu bywyd yn Nwyrain Ewrop, lle’r oedd pobl yn aml yn cael eu gwahardd rhag tyfu cnydau megis llysiau. Yn ddiddorol iawn, yr ymfudwyr Iddewig a gyflwynodd bysgod a sglodion i Brydain yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cofia Josef Herman, ffoadur o Wlad Pwyl a oedd yn byw yn Ystradgynlais ym Mhowys o 1944-1955, yn annwyl iawn sut y byddai ei fam yn arfer coginio carp (bwyd poblogaidd iawn ar y Sabath) yn Warsaw:

 

Wel byddai hi’n prynu carp mawr, yn ei dorri’n dafelli ac yn gyntaf oll berwi… pannas, moron, winwns, a stemio’r cyfan am gyfnod hir nes troi’r cyfan yn stwnsh bron, gan ychwanegu ychydig bach o ddŵr o hyd, a siwgr, halen, pupur. Ac yna, wedi i’r cyfan stemio am gyfnod maith, dyna pryd y byddai’n ychwanegu’r carp. Ac rwy’n dal i goginio fel hyn ar gyfer fy ngwraig, pan fyddaf i’n coginio, pan fyddaf i’n cael cyfle i goginio carp dyma sut y byddaf i’n gwneud, wyddoch chi. Roedd e wir yn flasus iawn. Ond roedd yr arogl yn hollol anhygoel… ac mae’r saws mor fendigedig, wyddoch chi. Felly, ond mae hyn oll yn perthyn i ’mhlentyndod, ac mae’n dal yn fyw yn fy nghof hyd heddiw.

 

Dylanwadwyd yn drwm ar fwydydd Iddewig Canolbarth Ewrop, lle’r oedd llawer o ffoaduriaid yn hanu yn ystod y 1930au, gan yr Ymerodraeth Awstraidd-Hwngaraidd, gyda bwydydd melys megis soufganioth (toesenni jam) neu strwdel afal. Cafwyd hyd i lawer o’r ryseitiau yma mewn llyfrau coginio Iddewig megis The Jewish Chronicle Cookery Book (1934) gan Florence Greenberg neu lyfr May Henry ac Edith Cohen, The Economical Jewish Cookbook: A Modern Orthodox Recipe Book for Young Housekeepers (6ed argraffiad, 1937). Pan symudodd teulu Evelyn Ruth Kaye i Brydain o Awstria, prynodd ei mam-gu lyfr coginio dan y teitl Wie koche ich in England (1938), neu Sut i Goginio ar gyfer y Saeson, a oedd yn cynnwys ryseitiau yn ogystal â geirfa ddefnyddiol yn ymwneud â bwyd, offer a dulliau coginio, gwrthrychau domestig a mesuriadau.

Gwrandewch ar stori Josef yma (Allanol)
Gwrandewch ar stori Evelyn yma (Allanol)
Paula Guttmann i Edith Payne, 18 Mehefin 1940 (trwy garedigrwydd Llyfrgell Holocost Wiener)

Ganwyd Edith Payne (née Guttmann) yn Trnava, Tsiecoslofacia yn 1921. Cafodd ei magu ym Mratislava cyn symud i Caen, Ffrainc i astudio yn 1937. Pan dorrodd y rhyfel, ffodd i Brydain, gan setlo’n wreiddiol ym Mirmingham. Priododd ddyn lleol, Paul, yn 1940 a gweithio fel athrawes yn Llandudno pan aeth Paul i’r fyddin.

Yn y llythyr hwn at Edith oddi wrth ei mam Paula (yn wreiddiol o Fienna), ceir rysáit Awstriaidd draddodiadol ar gyfer pwdin sbigoglys. Mae Paula’n rhybuddio Edith i’w goginio dim ond pan fydd ganddi “ddigon o amynedd”:

5 dc (decagram, neu 10 gram) o fenyn

  • 7 dc o flawd
  • 1/4 litr o laeth
  • 6 llwy fwrdd o sbigoglys wedi’u hidlo (c. 1/2 kg)
  • 4 melyn wy
  • 4 gwyn wy wedi’u curo
  • caws Parmesan
  • halen & phupur

Gwnewch béchamel gan ddefnyddio menyn, blawd a llaeth. Irwch ddysgl â menyn ac ychwanegwch weddill y cynhwysion (ar wahân i’r parmesan). Gosodwch y ddysgl dros sosban o ddŵr berw a mudferwch am 45 munud. Ysgeintiwch â pharmesan.

Yn anffodus, ysgrifennodd Edith yn ôl yn ddiweddarach yn dweud ei bod hi wedi rhoi’r gorau i baratoi bwyd arbennig o Awstria, am nad oedd Paul yn eu bwyta mwyach.

Er i Edith lwyddo i ddianc o Ewrop pan oedd dan reolaeth y Natsïaid, ni fu ei rhieni mor ffodus. Â’r ddau’n Iddewon, cawsant eu harestion, eu cludo i Auschwitz a’u llofruddio’n fuan ar ôl cyrraedd.

Roedd y Renate Collins ifanc yn poeni am fwyd yng Nghymru cyn cychwyn ar ei thaith ar y Kindertransport. Yn y recordiad hwn, cofia obeithio na fyddai rhai o fwydydd cyffredin Tsiecoslofacia i’w gweld ar y fwydlen yn y Porth!

Bara du Almaenig (trwy garedigrwydd Vlad Nordwing)

Y tro cyntaf i Ellen Davis gael pryd o fwyd yn ei chartref newydd yn Abertawe, roedd dogn y bwyd a’i ymddangosiad rhyfedd ar y bwrdd yn ormod iddi. Roedd hi’n gyfarwydd â phrydau bwyd llai o lawer yn y cartref i blant amddifad yn yr Almaen, a gwnaeth gweld cymaint o fwyd anghyfarwydd iddi deimlo’n sâl: “Pan es i i chwilio am rywbeth, unrhyw beth fyddai’n edrych yn gyfarwydd, gwelais fara ond roedd hyd yn oed hwnnw’n anghywir. Yn yr Almaen, roedd y bara’n ddu, ond ar y bwrdd hwn roedd yn wyn.” Anfonwyd hi i’w stafell fel cosb am wrthod bwyta, “ond dyna’r rhyddhad y bûm i’n aros amdano.”

Yn achos llawer o ffoaduriaid Iddewig, un gofid o safbwynt bwyd oedd cadw’r arfer kosher. Yn ôl y deddfau deietegol Iddewig (kashrut) mae gofyn i’r ffyddlon fwyta cig o “anifeiliaid sy’n cnoi cil ac â charnau dellt”, megis defaid, geifr neu wartheg yn unig, ac roedd angen i unrhyw anifail gael ei ladd mewn dull addas (schechita) gan laddwr proffesiynol (schochet). Roedd deddfau hefyd yn gwahardd pysgod cregyn, a rhai’n ymwneud â dyddiau crefyddol a gwyliau, megis y Pasg.

Canfu ffoaduriaid Iddewig sawl ffordd o lynu at y rheolau yma. Mewn rhai ardaloedd, megis de Cymru, caed cigyddion Iddewig penodol a oedd yn gallu gwerthu cig kosher. Yn y 1930au, roedd y teulu Krotosky’n berchen ar siop gigydd kosher yng Nghaerdydd a Merthyr Tudful ac roedd siopau tebyg dan berchnogaeth Iddewon yng Nghaerdydd ac Abertawe. Roedd digon o alw hyd yn oed i agor bwyty kosher gan y Sefydliad Iddewig a’r Clwb Cymdeithasol ar Stryd Fawr, Caerdydd. Ar adegau eraill, byddai cig yn cael ei ladd gan aelod o’r Gynulleidfa Hebreaidd ac yna’i werthu i gigyddion an-Iddewig, yn aml ar ddyddiau gwahanol neu o gownter arbennig. Yn achos y cymunedau hynny oedd heb fynediad i gigyddion kosher, yr ateb oedd prynu cig o ganolfannau eraill, megis Manceinion a Lerpwl.

Serch hynny, doedd hi ddim yn bosibl o hyd i gynnal deiet kosher. Ganwyd Reni Chapman yn Düsseldorf a daeth i Gymru yn 1945 wedi byw yn Latfia, Baghdad a Phalesteina cyn hynny. Pan symudodd i Benrhyn Gwyr i fyw gyda’i gŵr o Gymro, diflannodd y bwyd Iddewig yn syml iawn yn sgil y dogni. Doedd Ellen Davis ddim yn ymwybodol fod y sglodion o’r siop bysgod a sglodion yn Abertawe roedd hi’n eu bwyta wedi eu coginio mewn braster mochyn (ac felly ddim yn kosher). Yn achos y ffoaduriaid hynny oedd wedi cael eu caethiwo, roedd eu deiet nhw’n seiliedig yn bennaf ar lysiau a physgod tun. Aeth Manfred Gans (a ymunodd â’r X Troop yn ddiweddarach), yn “wanllyd iawn oherwydd diffyg bwyd [kosher]” yng ngwersyll Prees Heath ar gyrion Amwythig, er bod gwell cyflenwadau ar gael mewn gwersylloedd eraill.

Yng Nghastell Gwrych, sicrhaodd Arieh Handler ei bod hi’n bosibl i’r holl blant fwyta bwydydd kosher: “yn ein llefydd ni, cadwyd y Shabbat 100%, a kashrut… ond hefyd cafodd popeth a oedd yn gysylltiedig â chrefydd ei gadw’n iawn”. Doedd dim angen i blant gyfarwyddo â bwydydd Prydeinig, ond serch hynny, bu “rhywfaint o ddiffyg traul”. Roedd llysiau, cig a saim yn brin hefyd, gan olygu fod golwg “braidd yn welw” ar rai o’r plant. Gadawodd Herman Rothman y castell i ymuno â’r fyddin, gan archebu parseli oddi wrth grŵp yn Llundain er mwyn ceisio cynnal deiet crefyddol. Digon anghyson oedd y rhain, serch hynny, a chafodd ei orfodi i fwyta cig nad oedd yn kosher, ar ôl rhoi cynnig ar ddeiet llysieuol i ddechrau, a oedd yn amhosibl yn ystod ei gyfnod gwasanaeth. Blasodd Colin Anson, aelod arall o’r X Troop, fara tywyll a selsig ‘Heliwr’ am y tro cyntaf ers ei blentyndod mewn adeilad a adawyd yn wag gan swyddogion Almaenig wrth wasanaethu yn Sarandë (Albania) yn 1944.

Roedd cig kosher yn brin yn y fyddin ond llwyddodd un cwmni a leolwyd yng Nghaerdydd i gyflenwi cig kosher mewn tun i luoedd Iddewig. Roedd Julius Skrek yn wreiddiol o Hwngari ond fe ymgartrefodd yng Nghymru ar ôl sefydlu ffatri yn ardal Treganna ychydig wedi dechrau’r rhyfel yn 1939. Yn ôl y Parchedig Leslie Hardman, caplan Iddewig o Gymro ym myddin Prydain, roedd “lympiau mawr” yn y cig tun ac “roedden nhw’n edrych yn hyll” ond roedd y bwyd tun kosher yn bwysig iawn. Lleolwyd y ffatri drws nesaf i ysgol a chyfeiriai’r plant at y maes chwarae (lle’r oedd arogl unigryw y ffatri prosesu cig i’w glywed) fel “Skrek’s Yard”. Datblygodd Skrek yn fuan iawn i fod yn un o gynhyrchwyr mwyaf blaenllaw nwyddau tun kosher, gyda ffatri arall yn Llundain. Roedd Julius yn weithgar iawn gyda Chynulleidfa Hebreaidd Caerdydd Unedig, gan gyfrannu darn o dir rhydd-ddaliad i’r gymuned yn 1951 ac roedd hefyd yn aelod o Fwrdd Dirprwyon Iddewon Prydain. Bu farw ym Mayfair, Llundain yn 1984.

Torth Corned Beef, gan J. Skrek & Co., Caerdydd
Darllen pellach

Ellen Davis, Kerry’s Children: A Jewish Childhood in Nazi Germany and Growing up in South Wales (Bridgend: Seren, 2004)

Leah Garrett, X Troop: The Secret Jewish Commandos of World War II (London: HMH Books, 2021)

Heini Gruffudd, A Haven from Hitler (Talybont: Y Lolfa, 2014)

Gerhard Hirschfeld (ed.), Exile in Great Britain: Refugees from Hitler’s Germany (Leamington Spa: Berg, 1984)

‘Health and Hygiene’, Gwrych Castle Year Book 1939/40 (Wiener Holocaust Library, OSP3600)

Martin Johnes, Wales since 1939 (Manchester: Manchester University Press, 2012)

Panikos Panayi, ‘The Anglicisation of East European Jewish Food in Britain’, Immigrants & Minorities, 30:2/3 (July/November 2021), pp 292-317

Cai Parry-Jones, The Jews of Wales: A History (Cardiff: University of Wales Press, 2017)

Claudia Roden, The Book of Jewish Food: An Odyssey from Samarkand and Vilna to the Present Day (London: Penguin, 1999)