Roedd bywyd ffoaduriaid yng Nghymru yn amrywiol. Llwyddodd rhai i ymdopi’n dda ond dioddefodd eraill drawma parhaus yn sgil eu profiadau.
Cofia Evelyn Ruth Kaye, plentyn o ffoadur o Fienna, ei chyfnod mewn ysgol breswyl yn Llanfair-ym-muallt, canolbarth Cymru, gydag anwyldeb hynod: “roedd yn hollol fendigedig”. Roedd yr ysgol, a oedd yn cael ei rhedeg gan grŵp o Gatholigion Anglicanaidd, wedi’i sefydlu’n wreiddiol ar gyfer plant anabl ond cynigiwyd lle i nifer o ffoaduriaid hefyd. Ond prin y gwyddai’r plant am hynny: “dim ond wedyn y sylweddolwyd hynny, roedd nifer o ffoaduriaid yno ond doedden ni ddim yn trafod hynny am ein bod ni’n awyddus i fod yn rhan o’r papur wal.”
Wynebodd Bea Green, Iddewes a ddaeth ar y trên Kindertransport o Funich, wrth-semitiaeth yn y brifysgol yn Aberystwyth. Daeth i’r amlwg fod cyd-fyfyriwr wedi gweithio yn yr Almaen yn y gorffennol yn sgil ei edmygaeth o Sosialaeth Genedlaethol. Ymunodd yn ddiweddarach â Byddin Prydain ond cafodd ei ryddhau oherwydd ei iechyd ac mewn sgwrs â Bea, lleisiodd ei gefnogaeth i syniadaeth Hitler. Brawychwyd Bea:
“Pan sylweddolodd ei fod wedi fy nghynhyrfu i, oherwydd cyn hynny roedden ni wedi bod yn gydweithwyr ac yn ffrindiau… dywedodd, wel, ti’n gweld, ti’n iawn… yr Iddewon eraill i gyd sydd ar fai… ac rwy’n cofio hyn am y ffordd yr oedd yn siarad, doeddwn i ddim wir yn gallu dadlau’n ôl am nad oedd unrhyw beth diriaethol y gallwn i ddadlau yn ei gylch; agwedd oedd hi a oedd mor ddi-syfl, wedi’i seilio ar syniadaeth ofnadwy nad oedd unrhyw beth ar y pryd – roeddwn i’n teimlo, nad oedd unrhyw beth y gallwn i ei wneud… Felly rwy’n cofio cerdded i lawr i’r traeth… ac eistedd ar y traeth… ac eistedd ar y cerrig ac wylo i’r môr. Roeddwn i mor rhwystredig ac mor siomedig o feddwl ’mod i wedi symud i ffwrdd oddi wrth rywbeth a dyma fi nawr yn dod wyneb yn wyneb ag ef unwaith eto.”
Gwrandewch ar stori Evelyn yma (Allanol)
Gwrandewch ar stori Bea yma (Allanol)
Derbyniodd rhai ffoaduriaid gymorth gan grwpiau crefyddol megis Cymdeithas Grefyddol y Cyfeillion (Y Crynwyr). Sefydlodd y Crynwyr wersyll hyfforddi amaethyddol i ffoaduriaid yn Nhyn-y-Cae ger Aberhonddu cyn dechrau’r rhyfel. Nod y gwersyll oedd dysgu ffoaduriaid i fod yn hunangynhaliol, gan gynnwys ffermio, coedwigaeth, gwaith coed, gwneud caws a gwersi Saesneg.
Un teulu o ffoaduriaid a fu’n gweithio yn y gwersyll oedd Leopold a Friedericke Krumböck, yn wreiddiol o Fienna, a ffodd gyda’u tri phlentyn. Roedd Leopold wedi rhedeg ei gwmni coesau a breichiau artiffisial yn Awstria ond, fel Iddew, meddiannwyd y cwmni gan y Natsïaid wedi iddynt feddiannu ei famwlad. Llwyddodd i gyrraedd Llundain ond roedd ei deulu’n dal yn Awstria. Dychwelodd yno a llwyddo i’w smyglo allan drwy’r Swistir, cyn cyrraedd Cymru. Gan ddefnyddio’r sgiliau a ddysgodd yn Nhyn-y-Cae, symudodd y teulu’n ddiweddarach i ffermio yn Swydd Dorset.
Treuliodd Johann a Deborah Eisenwagen gyfnod yn y gwersyll hefyd. Dysgodd Johann (a gâi ei adnabod hefyd fel Hans) waith coed i’w gyd ffoaduriaid ac roedd ei wraig Deborah yn gogydd. Arhosodd y ddau yn Sir Frycheiniog nes iddynt farw rhai blynyddoedd yn ddiweddarach.
Gwelodd de Cymru fewnlifiad o ffoaduriaid Swdetaidd Almaenig ar ôl i Tsiecoslofacia gael ei meddiannu gan Natsïaid yr Almaen. Teithiodd Ness Edwards, a etholwyd yn AS Llafur yn 1939, i Brâg i drefnu achub dros 60 o lowyr Sudetaidd a’u teuluoedd ar ran Ffederasiwn Glowyr De Cymru (SWMF). Arhosodd pawb yng Ngwesty’r Ship ym Mhenarth am sawl mis, gan fynychu dathliadau Gŵyl Fai Caerffili. Mynegodd llywydd y glowyr Swdetaidd, Joseph Zinna, ei ddiolchgarwch yng nghynhadledd flynyddol y SWMF ym mis Ebrill 1939. Aethant ati hefyd i gynorthwyo i godi lloches cyrch awyr ym Mhenarth ar y cyd â ffoaduriaid eraill o Sbaen a lwyddodd i ddianc i Gymru ar fwrdd llong.
Arhosodd criw arall o Swdetiaid yng Nglan-y-môr ar Ynys y Barri. Cafodd tua 100 o ffoaduriaid, a rhyw ddeg y cant ohonynt yn Iddewon, lety yno dan ofal Cymdeithas Gristnogol y Gwŷr Ifanc (YMCA) leol. Roeddent wedi cael eu herlid fel sosialwyr ar ôl goresgyniad y Natsïaid. Trefnodd y trigolion lleol nifer o ddigwyddiadau i godi arian ar gyfer y ffoaduriaid a chawsant gyfle i fynychu’r Eisteddfod hefyd, a dysgu am hanes Cymru a Dewi Sant. Ymfudodd y mwyafrif o ffoaduriaid Swdetaidd o Benarth a’r Barri i Ganada ac Awstralia cyn dechrau’r Ail Ryfel Byd.
Sefydlodd nifer o ffoaduriaid gartrefi parhaol yng Nghymru, gan gynnwys y rhai o Ystâd Fasnachu Trefforest ger Pontypridd. Cafodd ffoaduriaid Iddewig eu croesawu gan y gymuned Iddewig leol, gan ymhyfrydu yn eu hunaniaeth Gymreig newydd. Roedd Werner K. E. Bernfeld, meddyg o Leipzig yn yr Almaen a ffodd i Brydain yn ystod y 1930au, yn awyddus iawn i “osod gwreiddiau newydd a dod yn rhan o’i wlad fabwysiedig”, gan ddysgu Cymraeg a chystadlu mewn eisteddfodau. Daeth yn wenerolwr yn Ysbyty Dinas Caerdydd yn 1955. Dim ond am gyfnod byr yr arhosodd eraill, megis Edith Tudor-Hart, gan symud i rannau eraill o’r DU.
Yn ystod y rhyfel, byddai ffoaduriaid yn cael eu symud yn aml o rannau eraill o Brydain i Gymru, a ystyriwyd yn hafan ddiogel rhag bomio’r Almaenwyr. Ffodd Kurt Hahn o’r Almaen ym mis Gorffennaf 1933 ar ôl cael ei garcharu am bum diwrnod am ymwrthod â’r gyfundrefn Natsïaidd. Sefydlodd y Gordonstoun School ym Moray yn yr Alban yn 1934. Denodd yr ysgol fyfyrwyr disglair yn fuan iawn (gan gynnwys y darpar Ddug Caeredin) ond fe’u gorfodwyd i symud o’r safle ym mis Mehefin 1940 wedi i’r gerddi gael eu troi’n wersyll milwrol. Symudodd Hahn yr ysgol i Landinam, Powys ac yno yr arhosodd drwy gydol y rhyfel. Symudwyd Ysgol Wladol Tsiecoslofacia i Lanwrtyd o Loegr hefyd ac arhosodd yno o 1943 tan 1945.
Gallai addasu i’w hamgylchfyd newydd fod yn sioc i ffoaduriaid. Cyrhaeddodd Ellen Davis y DU heb allu siarad dim ond Almaeneg, iaith anghyfarwydd i’w theulu maeth newydd. Pan gasglwyd hi gan ei thad maeth er mwyn mynd â hi i Abertawe, treuliwyd chwe awr ar y trên heb i’r un o’r ddau yngan gair. “Doeddwn i ddim yn gwybod a oeddwn i’n teimlo mwy o drueni drosof i fy hun neu dros y dyn hwn, a oedd yn gwneud ei orau i ’nghysuro i.” Bu’n rhaid iddi ymdopi wedyn â mam faeth ddiserch a oedd yn mynnu ei rheoli, dinistrio’r cartref yn ystod y Blits yn Abertawe, a marwolaeth sydyn ei thad maeth cyn diwedd y rhyfel.
Cafodd rhai ffoaduriaid anhawster ymdopi â’u profiadau dirdynnol. Roedd Robert Borger a ffodd ar y Kindertransport wedi’i effeithio’n ddrwg iawn ar ôl bod yn dyst i erledigaeth a chamdriniaeth y boblogaeth Iddewig yn Fienna. Daeth i Brydain ar ôl i’w rieni osod hysbyseb ym mhapur newydd y Manchester Guardian yn gofyn am “rywun caredig” i gynnig lloches. Dioddefodd Robert o orbryder llethol wrth gyrraedd Caernarfon am y tro cyntaf a pharhaodd y problemau hynny drwy gydol ei fywyd. Cyflawnodd hunanladdiad yn 1983.
Darllen pellach
Julian Borger, “I seek a kind person’: the Guardian ad that saved my Jewish father from the Nazis’, The Guardian, 6 May 2021 (https://www.theguardian.com/media/2021/may/06/guardian-200-ad-that-saved-jewish-father-from-nazis)
‘Brecknock Museum unearths article about refugee camp near Brecon’, Brecon & Radnor Express, 13 April 2018
Ellen Davis, Kerry’s Children: A Jewish Childhood in Nazi Germany and Growing Up in South Wales (Bridgend: Seren, 2004)
Cai Parry-Jones, The Jews of Wales: A History (Cardiff: University of Wales Press, 2017)
Nick Veevers and Pete Allison, Kurt Hahn: Inspirational, Visionary, Outdoor and Experiential Educator (Sense: Rotterdam, 2011)