Morris Brodie, Swyddog Preswyl Digidol ym Mhrifysgol Aberystwyth
Ar 22 Awst 2021, cynhaliwyd ein hail ddigwyddiad cyd-guradu byw gyda ffoaduriaid lleol. Yn ogystal â rhai ffoaduriaid a gwirfoddolwyr o AberAid, y gwnaethom eu cyfarfod yn ein digwyddiad cynharach yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth ym mis Gorffennaf, daeth gwirfoddolwyr o Croeso Teifi a theulu o fewnfudwyr o Aberteifi i ymuno â ni. Prosiect Swper Syria (Syrian Dinner Project) ac Arabic Flavour oedd yn gyfrifol am yr arlwyo yn y digwyddiad, dau fusnes a sefydlwyd gan ffoaduriaid lleol. Yn ffodus iawn, roedd y tywydd yn braf, a chafwyd amser da gan bawb oedd yn bresennol (er gwaetha’r gwylanod oedd yn ceisio dwyn y bwyd!). Trafodwyd y prosiect a rhannwyd syniadau’n ymwneud â gwrthrychau posibl i’w harddangos y flwyddyn nesaf, a chafodd pawb gyfle i fwynhau bod yng nghwmni ei gilydd. Roedd hi’n braf iawn gweld plant rhai o’r ffoaduriaid yn chwarae yn y parc gerllaw.
Derbyniais gopi o A Taste of Syria/Blas o Syria, llyfr coginio a ysgrifennwyd ac a ddyluniwyd gan Enas o Aberteifi, un o’r ffoaduriaid. Mae’n cynnwys amrywiaeth o ryseitiau, yn ogystal â chynnwys ei stori hi sy’n sôn am sut y daeth hi, ei gŵr Ahmad a thri o blant i Gymru yn 2019, a’u bywydau yn Syria. Ein gobaith yw gallu cynnwys hwn yn ein harddangosfa, a fydd yn cynnwys adran am fwyd a’i bwysigrwydd i ffoaduriaid presennol ac o’r gorffennol. Ffoadur arall a ddaeth i’r digwyddiad oedd Sakina, a oedd yn awyddus i gyflenwi deunydd wedi’i grosio ar gyfer yr arddangosfa. Bydd hynny’n gweddu’n dda gydag un o’r eitemau y gwnaed cais amdano o gasgliad yr Amgueddfeydd Rhyfel Ymerodrol, sef ffrog dol wedi’i chrosio y daeth un o blant y Kindertransport gyda hi i Brydain. Cawsom ddiweddariad hefyd am gollage ffotograffau Batool o fenywod o Syria y mae hi’n gobeithio ei greu ar gyfer yr arddangosfa.
I grynhoi felly, roedd y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol ac edrychwn ymlaen at gynnal sesiynau mwy penodol yn ymwneud â chyd-guradu a chynllunio’r arddangosfa yn y dyfodol agos.