Addysg

Adnoddau Holocost Cymru

Yn sgil grant gan Gymdeithas y Ffoaduriaid Iddewig (AJR), mae’r prosiect hefyd yn cydweithio â Jewish History Association of South Wales/Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru (JHASW/CHIDC) er mwyn datblygu 20 adnoddau dwyieithog, lleol, perthnasol yn ymwneud ag addysg yr Holocost i’w defnyddio mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru. Bydd y rhain ar gael drwy Hwb o semester 2024/5 ymlaen. Drwy hybu deunydd addysgol dwyieithog am yr Holocost a hanes ffoaduriaid yng Nghymru, byddwn yn cefnogi athrawon i ddatblygu gwybodaeth am yr Holocost ymysg pobl ifanc, cynyddu’r nifer o bobl sy’n ymwneud â threftadaeth Iddewig a brwydro yn erbyn gwrth-semitiaeth a hiliaeth.

Isod gallwch gael mynediad i’r adnoddau Cymraeg a Saesneg a grëwyd fel rhan o’r prosiect. Mae’r pedair gwers gyntaf yn canolbwyntio ar y Kindertransport, ac mae’r pumed yn edrych ar Aero Zipp Fasteners yn Ystâd Fasnachu Trefforest.

Mae adnoddau eraill yn edrych ar: Kristallnacht; artistiaid Iddewig yng Nghymru; busnesau Iddewig yn Ystâd Fasnachu Trefforest; Caethiwed; ffoaduriaid Iddewig fel gweision domestig; meddygon, deintyddion a nyrsys ffoaduriaid Iddewig yng Nghymru; ffoaduriaid Iddewig yn y Fyddin Brydeinig yn ystod yr Ail Ryfel Byd; Bywyd crefyddol ffoaduriaid Iddewig; yr iaith Gymraeg; Rhyddhad; Hunaniaeth; a Chofio’r Holocost.

Rydym wedi datblygu pecyn adnoddau i athrawon i fynd ochr yn ochr â’r adnoddau, y gallwch ei lawrlwytho yma: Pecyn Adnoddau Athrawon

Rydym hefyd wedi cynhyrchu podlediad, ‘Yr Holocost a Chymru’, sy’n addas ar gyfer dysgwyr o Gam Cynnydd 4 a thu hwnt. Mae’r podlediad yn cynnwys cyflwyniad a phedair pennod 20 munud o hyd sy’n archwilio straeon gan ddefnyddio cyfweliadau hanes llafar a gynhaliwyd gan CMOP, JHASW ac Amgueddfeydd Rhyfel Ymerodrol. Maent ar gael ar Spotify ac yn PCW.

Penodau

Cyflwyniad
1. Bywyd yn Ewrop cyn y Rhyfel
2. Gadael Cartref
3. Bywyd yng Nghymru yn ystod y Rhyfel
4. Rhyddid a Cholled
Arnold Weil, brawd Julius, y mae ei stori yn ymddangos yn y podlediad. Tynnwyd y llun hwn yn Cologne ym 1936 (trwy garedigrwydd JHASW)
Adnoddau pellach

Mae Canolfan Addysg yr Holocost yng Ngholeg Prifysgol Llundain wedi llunio crynodebau ar sail gwaith ymchwil ar gyfer dosbarthiadau athrawon i gynyddu eu heffeithiolrwydd wrth ddysgu am yr Holocost.

Mae gan Ymddiriedolaeth Diwrnod Coffa’r Holocost nifer o adnoddau dwyieithog Cymraeg/Saesneg er mwyn gallu dysgu mwy am yr Holocost a hil-laddiadau eraill.