Mae gan gartref newydd I’m a Celebrity mewn castell yng ngogledd Cymru hanes sy’n rhy dywyll a chymhleth i fod yn adloniant

Andrea Hammel, Darllenydd Almaeneg ym Mhrifysgol Aberystwyth

Yn ystod y misoedd nesaf, mae sôn bod tîm I’m a Celebrity nid yn unig eisiau defnyddio Castell Gwrych fel lleoliad i’w rhaglen deledu boblogaidd ond hefyd dymunant gynnwys hanes y Castell yn eu sioe. Er bod y Castell wedi gweld cryn dipyn o sbort a sbri, ar adegau eraill ochr dywyll oedd yn dominyddu hanes bywyd yng Nghastell Gwrych ger Abergele.

Rhwng 1939 ac 1941 er enghraifft, cafodd hyd at 200 o ffoaduriaid Iddewig ifanc lety yn y castell, gan geisio ymdopi â’r adeiladau adfeiliedig, y tywydd garw ac yn bennaf ac yn bwysicaf oll, eu bywydau newydd fel ffoaduriaid.

Caiff stori Kindertransport 1938/39 ei phortreadu fel stori dda yn aml iawn. Mae’n wir fod dros 10,000 o ffoaduriaid ifanc wedi dianc rhag Natsïaid Canolbarth Ewrop i ddiogelwch cymharol y DU drwy’r cynllun ond dioddefwyd trawma, caledi a thorcalon ar hyd y daith hefyd. Oherwydd eu bod yn dod o gefndiroedd Iddewig, bu’n rhaid iddynt wynebu arswyd Natsïaidd gan ffarwelio â’u hamgylchedd cyfarwydd heb gefnogaeth eu rhieni.

Doedd y mwyafrif o blant y Kindertransport ddim yn blant amddifad ond fe’u gwahanwyd oddi wrth eu teuluoedd. Roedd llywodraeth Prydain wedi penderfynu mai dim ond plant yn hytrach nag oedolion fyddai’n cael mynediad, heb orfod dilyn y broses i gael fisa a phapurau caniatâd cymhleth a chaeth arferol. Byddai llywodraeth Prydain yn mynnu gwarant o £50 hefyd, er mwyn sicrhau na fyddai’r wladwriaeth Brydeinig yn gorfod cefnogi’r ffoaduriaid ifanc yn ariannol ac ni chynigiwyd fawr o help swyddogol.

Byddai’r mwyafrif o fechgyn a merched ar y cynllun yn derbyn llety ar eu pennau eu hunain gyda rhieni maeth ledled y DU ond gorfodwyd rhai i fyw mewn cartrefi plant a gwersylloedd hyfforddi cymunol megis Canolfan Hyfforddi Amaethyddol Castell Gwrych. Yn amlwg, roedd canfod lleoliadau ar gyfer cynifer o blant yn her i’r gwirfoddolwyr a drefnai’r Kindertransport ac yn aml byddai’n rhaid iddynt dderbyn pa bynnag gynnig oedd ar gael, hyd yn oed os nad oedd yn ddelfrydol.

Adfail oedd Castell Gwrych pan gynigiwyd y lle i’r brodyr Handler yn 1939 ond roedd yn well na gwersyll agored, lle’r oedd rhai o blant y Kindertransport wedi bod yn aros yng Nghaint.

Cefnogaeth

Cyrhaeddodd y plant cyntaf ddechrau mis Medi 1939, bron i 81 mlynedd union yn ôl felly. Cawsant ddefnyddio’r Castell yn rhad ac am ddim am nad oedd y teulu Dundonald na llywodraeth Prydain eisiau ei ddefnyddio.

Ond roedd rheswm am hynny. Dim ond ambell ystafell yn y castell oedd yn ddiddos; roedd difrod dŵr i’r muriau a phrin a gwael iawn oedd y cyfleusterau ymolchi a thai bach. Golygai hyn fod trigolion newydd y castell wedi gorfod tyllu toiledau newydd yn y caeau ar ôl y bythefnos gyntaf. Dim ond ambell oedolyn oedd yn byw yno, a’r rheiny fel arfer yn ifanc iawn eu hunain, er mwyn helpu ac arwain y bechgyn a’r merched wrth goginio ar eu pennau eu hunain gyda dim ond ychydig o gynhwysion i wneud prydau bwyd megis ‘tatws llaeth’. Ar y dechrau, doedd dim digon o welyau, platiau, cyllyll na ffyrc ganddynt i bawb.

Cafodd 200 o drigolion newydd mewn cymuned fach fel un Abergele gryn sylw. Daeth y gymuned leol at ei gilydd a chyfrannu nwyddau tŷ a dillad er mwyn hwyluso bywyd y ffoaduriaid ifanc. Rai misoedd yn ddiweddarach, aeth rhai o drigolion y Castell i helpu ffermwyr lleol, neu i dderbyn hyfforddiant gan fusnesau lleol. Sylweddolodd rhai y byddai dysgu Cymraeg ochr yn ochr â’r Saesneg yn fanteisiol iawn.

Mae’r hanesydd lleol Andrew Hesketh wedi ymchwilio’n fanwl i fywyd bob dydd y ffoaduriaid ifanc yma. Wrth gwrs, darparwyd addysg elfennol ar gyfer y rhai iau a hyfforddiant amaethyddol ar gyfer y rhai hŷn, yn ogystal ag arweiniad crefyddol gorfodol. Ond roedd cyfle i ymgymryd â gweithgareddau hamdden hefyd: ffurfiodd y criw ifanc dîm pêl-droed gan chwarae (ac ennill) yn erbyn timau lleol. Byddent yn chwarae tennis bwrdd, yn cynhyrchu eu cylchlythyr eu hunain ac yn trefnu partïon a hyd yn oed gystadleuaeth gwisg ffansi ar gyfer Purim.

Disgrifiodd rhai o’r cyn-drigolion y profiad o fod yn sâl ac effaith negyddol cael cyn lleied o sylw oedolion; mynegodd eraill ddiolchgarwch am y cyfle i ddianc o Ganolbarth Ewrop a’r profiadau a gawsant yng Nghymru.

Heriau

Digon cyntefig oedd bywyd yng Nghastell Gwrych drwy gydol ei gyfnod fel gwersyll hyfforddi ac ni chafodd rhai problemau fyth eu datrys, megis cynhesu’r adeiladau, cael y dŵr i lifo a sicrhau cyflenwad trydan dibynadwy. Yn 1941 cafodd y Ganolfan Hyfforddiant Amaethyddol ei dirwyn i ben ar ôl i lawer o’r bobl ifanc dros 18 oed gael eu caethiwo am fod yn ‘elynion estron’ ond hefyd oherwydd costau uchel cynnal y lle.

Mae’n amlwg fod angen gwaith ymchwil pellach i hanes y bobl a ffodd i Gymru rhag y Natsïaid. Yn ddiweddar, mae Prifysgol Aberystwyth wedi datblygu i fod yn hwb ranbarthol i Raglen Partneriaeth yr Ail Ryfel Byd a’r Holocost (SWWHPP) dan arweiniad yr Amgueddfeydd Rhyfel Ymerodrol (IWM) ac mae ymdrechion ar y gweill i edrych yn fanylach ar yr hanes hwn.

Crëwyd cymuned o fewn y gwersyll yng Nghastell Gwrych i’r ieuenctid oedd yno ond roedd bywyd yn heriol hefyd. Caiff profiadau cynnar y ffoaduriaid eu cysylltu am byth â’r lleoliad hwn.

Diau y bydd y defnydd o’r lleoliad ar gyfer rhaglen deledu yn cyfrannu at wybodaeth hanesyddol ehangach, sy’n rhywbeth i’w groesawu, ond mae’n hanes rhy gymhleth a difrifol i gael ei droi’n adloniant pur.

D.S. Ymddangosodd y postiad hwn gyntaf ar Nation.Cymru ar 30 Awst 2020

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *