Morris Brodie, Swyddog Preswyl Digidol ym Mhrifysgol Aberystwyth
Yn gynharach yr wythnos hon, fel rhan o Raglen Partneriaeth yr Ail Ryfel Byd a’r Holocost (SWWHPP), cynhaliwyd ein digwyddiad cyd-guradu cyntaf gyda ffoaduriaid lleol a gwirfoddolwyr. Ar gyfer ein prosiect ‘Ffoaduriaid yng Nghymru a ddihangodd rhag Sosialaeth Genedlaethol – Dysgu oddi wrth y Gorffennol i lywio’r Dyfodol’ rydym yn cyd-greu ffilm ac arddangosfa a gaiff eu dangos yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn hydref 2022.
Mae cyd-guradu yn dod yn fwyfwy poblogaidd wrth i amgueddfeydd weithio ar greu cynnwys. Yn syml iawn, ystyr cyd-guradu yw gwahodd pobl gyffredin i gydweithio gydag amgueddfeydd/sefydliadau diwylliannol wrth gynhyrchu cynnwys, boed hynny’n ddehongli gwrthrychau, arddangosfeydd, neu waith celf. Gall hyn ddigwydd gydag unigolion, ysgolion, grwpiau cymunedol neu fudiadau eraill. Gall fod yn unrhyw beth, o gyflenwi hen ffotograffau teuluol a recordio cyfweliadau hanes llafar i gynllunio cypyrddau arddangos neu hyd yn oed arddangosfa gyfan.
O safbwynt yr amgueddfa, gall cyd-guradu helpu i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd, hybu ymdeimlad o rannu perchnogaeth a chadarnhau rôl sefydliad fel cyfrwng i newid pethau. I’r cyfranwyr, mae cyd-guradu yn golygu eu bod yn cyfrannu at yr amgueddfa, gan symud y tu hwnt i’w rôl fel defnyddwyr goddefol i ddatblygu sgiliau newydd, magu hyder a chael ychydig o hwyl yn y broses. Mae cyd-guradu’n rhoi lle i ymgysylltu â’r gymuned ond bwriedir iddo fod yn llawer mwy: dylai fod yn broses dwy ffordd, nid dim ond yr amgueddfa yn dweud wrth gyfranogwyr beth ddylid ei gynnwys. Yn ôl SHARE Museums East, mae cyd-guradu’n “datblygu’r syniad o ‘amgueddfa ddemocrataidd’, lle mae’r amgueddfa yn cael ei llunio fel gofod ar gyfer dadl (y ‘fforwm’ yn hytrach na’r ‘deml’)”.
Nod ein prosiect ni yw codi ymwybyddiaeth ynghylch ffoaduriaid a’r heriau sy’n eu hwynebu yng Nghymru heddiw, yn ogystal â’r heriau a fodolai yn y gorffennol. Yn y cyfarfod a gynhaliwyd gennym yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, croesawyd nifer o ffoaduriaid presennol, academyddion a gwirfoddolwyr er mwyn trafod eu syniadau ynghylch cynnwys ein ffilm a’n harddangosfa.
Dechreuodd y cyfarfod gydag Andrea Hammel yn rhoi sgwrs fer ar hanes Sosialaeth Genedlaethol yng Nghymru, gyda chymorth Hala a gyfieithodd i’r Arabeg. Roedd gan y cyfranogwyr ddiddordeb clywed cefndir y prosiect a rhai o’r dilyniannau rhwng yr hanesyddol a’r cyfoes. Roedd y mwyafrif a oedd yn bresennol yn dod o Syria, wedi ffoi i Aberystwyth a’r cyffiniau rhag gwrthdaro presennol y wlad a sefydlu cymuned leol lewyrchus. Tri busnes lleol a sefydlwyd gan ffoaduriaid oedd yn gyfrifol am yr arlwyo: Prosiect Cinio Syria, Arabic Flavor a Fatima’s Kitchen ac roedd y cyfan yn flasus iawn (byddwn yn bendant yn troi at eu gwasanaeth eto!).
Yna rhannwyd pawb yn grwpiau llai i drafod syniadau a chael ein rhyfeddu gan amrywiaeth ac ansawdd gweledigaeth pobl ar gyfer yr arddangosfa a’r ffilm. Awgrymodd llawer o bobl y dylid archwilio ‘profiadau’ drwy ddiwylliant, gan gynnwys bwyd a cherddoriaeth. Cynigiodd eraill greu barddoniaeth, gweithiau celf a darparu ffotograffau. Roedd llawer o’r ffoaduriaid yn awyddus i ymladd yn erbyn y stigma negyddol sy’n eu hamgylchynu weithiau drwy arddangos eu cyfraniad cadarnhaol i’r economi a’r diwylliant lleol. Roeddem yn falch iawn o gael ymateb mor frwd gan ein cyd-guraduron posibl. Yn sicr, mae gyda ni sylfaen wych i adeiladu arni ar gyfer ein prosiect ac edrychwn ymlaen yn fawr at fwrw iddi!
Os nad oedd modd i chi fod yn bresennol yn y cyfarfod ond fe hoffech gyfrannu at y prosiect, mae croeso i chi anfon e-bost atom ar a.hammel@aber.ac.uk neu mob28@aber.ac.uk
Gallwch ddilyn y Syrian Dinner Prosiect ar Instagram https://www.instagram.com/syrian.dinner/ Facebook https://www.facebook.com/Syriandinner a Twitter https://twitter.com/Latifa45851953 E-bost: syriandinner.uk@gmail.com Ffôn: 07488 554 220
Gallwch ddilyn Arabic Flavour ar Instagram https://www.instagram.com/arabic.flavour/ Facebook https://www.facebook.com/Arabicflavour.uk a’u gwefan https://arabicflavour.co.uk/ E-bost: arabicflavour.uk@gmail.com Ffôn: 07480 320 688
Gallwch archebu o Fatima’s Kitchen drwy anfon neges neu ffonio 07988 842 230