Gwasanaethau Meddygol

Meddygon, nyrsys neu ddeintyddion oedd llawer o’r ffoaduriaid a ddihangodd o ganlyniad i oresgyniad y Natsïaid yn Ewrop ac roedd meddygon Iddewig o’r Almaen ymysg y rhai cyntaf i gyrraedd y DU. Gosododd y Natsïaid gyfyngiadau ar Iddewon o fewn y proffesiwn meddygol yn fuan iawn. Mor gynnar ag Ebrill 1933, cafodd meddygon Iddewig eu diarddel o raglen yswiriant iechyd y cyhoedd; yr haf hwnnw, cawsant eu gwahardd rhag cydweithio â’u cydweithwyr an-Iddewig. Erbyn dechrau 1934, roedd dros 2,600 o feddygon Iddewig wedi colli eu swyddi (pump y cant o gyfanswm meddygon cofrestredig y Drydedd Reich) a chymerwyd eu lle gan feddygon an-Iddewig, dan hyfforddiant fel arfer. 

Yn dilyn Deddfau Nuremberg yn 1935,  cafodd Iddewon eu gwahardd rhag cymhwyso fel meddygon. Ym mis Gorffennaf 1938 cafodd meddygon Iddewig eu hatal rhag trin cleifion “Ariaidd”; ac yn medi 1938, tynnwyd yr hawl i weithio yn gyfan gwbl oddi ar y meddygon a oedd eisoes yn gweithio. Anfonwyd cannoedd i wersylloedd crynhoi neu eu herlid gan y Gestapo a’r Schutzstaffel (SS). Penderfynodd llawer ymfudo.

Rhwng 1933 ac 1939 cyrhaeddodd tua 1,200 o feddygon o’r Almaen ac Awstria (y mwyafrif ohonynt yn Iddewon) i Brydain. Serch hynny, pan gyrhaeddai ymarferwyr meddygol, nid oedd eu diogelwch proffesiynol yn ddilys. Ymwrthododd y Gymdeithas Feddygol Brydeinig, y Cyngor Nyrsio Cyffredinol a’r Gymdeithas Ddeintyddol Brydeinig ymdrechion i gydnabod eu cymwysterau yn y DU, gan olygu fod yn rhaid i ffoaduriaid newydd a oedd yn feddygon, er enghraifft, astudio am ddwy flynedd a phasio arholiad cyn cael yr hawl i weithio. Prin iawn oedd y meddygon a gafodd gynnig swydd barhaol, a symudodd llawer ohonynt yn y pen draw i’r Unol Daleithiau.

Paul Bosse (yn sefyll ar chwith), tad y ffoadur Kate Bosse-Griffiths, yn cyfarfod â Hitler yn Wittenberg yn 1935. Roedd gwraig Paul, Käthe, yn Iddewes ac wedi i Paul wrthod ei hysgaru, cafodd ei ddiswyddo o fod yn brif lawfeddyg yn yr ysbyty lleol. Tynnwyd y ffotograff hwn wedi ffrwydrad mewn ffatri arfau gerllaw (© Heini Gruffudd)
Roedd Dr Julius Levy, a hanai yn wreiddiol o Nuremberg, yn un o’r deuddeg o fyfyrwyr Almaenig a gofrestrodd yn Ysgol Feddygaeth Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd. Gweithiodd am dair blynedd yng nghymoedd glofaol de Cymru cyn cwblhau ei radd yng Nghaeredin. Yn nes ymlaen, symudodd i Harwich, lle bu’n trin plant Kindertransport a oedd newydd gyrraedd o Ewrop. Cafodd ei garcharu ym 1940 a’i alltudio i Ganada, ond cynddeiriogwyd y bobl leol gan hyn ac yn dilyn cais ganddynt i’r Senedd daeth Julius Levy yn ôl i’r dref, lle bu’n byw weddill ei oes (llun trwy garedigrwydd Alan Mann; gwybodaeth ychwanegol gan Wasanaeth Llyfrgelloedd Rhondda Cynon Taf)

Yng Nghymru, llwyddodd rhai ffoaduriaid i ymuno â “chynllun dysgu arbennig ar gyfer ffoaduriaid sy’n fyfyrwyr” a sefydlwyd gan Ysgol Feddygaeth Cymru yng Nghaerdydd. Dechreuodd deuddeg myfyriwr o’r Almaen ar y cwrs rhwng 1933 ac 1934 ac, yn dilyn yr Anschluss a Chytundeb Munich yn 1938, daeth saith Awstriad a phymtheg o Tsiecoslofaciaid i ymuno â nhw.

Un o’r rhain oedd yr Iddew o Fienna, Alfred Feiner, a weithiodd fel meddyg teulu ym Mhontypridd rhwng 1941 ac 1977. Gweithiodd gwraig Alfred, Herta, fel cogydd a howscipar er mwyn galluogi Albert i sicrhau ei gymwysterau a chefnogi eu mab ifanc, a oedd hefyd wedi llwyddo i ffoi o’r wlad. Yn ôl y coffâd i Herta pan fu farw, bu’n rhaid iddi hi ac Alfred “wynebu cryn dipyn o amheuaeth a chasineb” ym Mhontypridd ond yn y pen draw, llwyddodd y ddau “i ennill parch ac edmygedd y boblogaeth leol”. Cyhoeddodd Alfred gerdd drwy gyfrwng y Saesneg hyd yn oed yn 1967 gyda theitl Cymraeg, “Cariad Bach”, lle dywed “I wished I was born, in this little hamlet on the steep Welsh hills…”.

Meddyg arall o ffoadur a ganfu waith yng Nghymru oedd Werner K. E. Bernfeld, yn wreiddiol o Leipzig yn yr Almaen. Yn ogystal â dod yn arbenigwr ym maes clefydau gwenerol a chael ei benodi i adran wenerol Ysbyty Dinas Caerdydd yn 1955, daeth yn lladmerydd brwd dros ddiwylliant a hanes Cymru. Dysgodd chwarae’r ffliwt, gan ennill y wobr gyntaf yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith yn olynol yn y 1960au. Dysgodd y Gymraeg hefyd, gan ymddangos ar deledu Cymraeg, a dod yn llywydd Cymdeithas Naturiolwyr Cymru. Gwnaeth waith ymchwil archeolegol yn siambrau claddu hynafol Tinkinswood a San Lythan, ac ysgrifennu pamffled am ffurf corff y dyn Neolithig. Yn dilyn ei farwolaeth yn 1974, sefydlodd Cymdeithas Naturiolwyr Cymru gronfa er cof amdano, er budd yr adran iau “a oedd mor agos at galon Dr Bernfeld”.

Roedd rheolau llawer mwy caeth yn wynebu deintyddion o ffoaduriaid mewn cymhariaeth â meddygon neu nyrsys. O fis Gorffennaf 1936 hyd at ddechrau’r rhyfel, cafodd deintyddion eu gwahardd rhag gweithio gan y Swyddfa Gartref, er bod gan y mwyafrif ohonynt well cymwysterau na deintyddion y DU hyd yn oed. Dim ond ychydig dros hanner deintyddion Prydain oedd wedi hyfforddi mewn ysgol ddeintyddol yn y 1930au mewn gwirionedd, nifer sylweddol is nag yn unrhyw le arall yn Ewrop. Cyn 1939 roedd terfyn amser caeth ar gyfer fisâu i ddeintyddion hefyd, o bedair wythnos i ddeg mis. Roedd hi’n bosibl cael eich rhoi ar Restr Dramor Cofrestr y Deintyddion, cyn belled â bod y ffoadur yn cwblhau chwe mis olaf diploma’r Drwydded Lawfeddygol Ddeintyddol a phasio’r arholiad terfynol. Ond doedd hyn hyd yn oed ddim yn gwarantu’r hawl i weithio.

Hans, Jacques a Peter Kurer, 1957 (trwy garedigrwydd Peter a Stephen Kurer)

Roedd Jacques Kurer ymysg y 40 deintydd a ffodd o Awstria a dderbyniodd yr hawl i gael mynediad i’r DU yn dilyn adolygiad gan y Swyddfa Gartref yn 1938. Llwyddodd i symud ei wraig Theodora a’i ddau fab, Hans a Peter, i Fanceinion, gyda chymorth teulu o Grynwyr, sef y teulu Goodwin. Roedd y teulu Kruer wedi cyfarfod â’r teulu Goodwin yn angladd Lily, chwaer Theodora yn 1936. Roedd Lily wedi priodi Crynwr a symud i Fanceinion, cyn cyflawni hunanladdiad. Yn sgil nawdd gan deulu arall o Grynwyr, y teulu Maddock, llwyddodd Jacques i anfon am ei fam-gu, ei rieni, chwaer Theodora a’i nith hefyd i fyw gerllaw.

Er bod Jacques wedi ennill gradd feddygol o Brifysgol Fienna yn 1925 (a chyhoeddi llyfr am ddeintyddiaeth plant), fe’i gorfodwyd i gwblhau ei LDS ym Mhrifysgol Manceinion yn 1939. Rhoddwyd hawl iddo agor deintyddfa ond yn 1941, cafodd y ddau le yr oedd y teulu’n aros ynddynt eu bomio a chawsant eu symud i Landudno. Yno, agorodd Jacques ddeintyddfa newydd ac roedd safon ei waith yn apelio’n fawr at y boblogaeth leol. Cafodd Jacques a Theodora blentyn arall, merch, a chafodd Hans a Peter eu bar mitzvah. Symudodd y teulu yn ôl i Fanceinion yn 1944 a chymhwysodd Peter a Hans fel deintyddion. Nid anghofiodd Peter fyth am y rhan a chwaraeodd y Crynwyr wrth achub ei deulu o’r Holocost: “Cafodd chwe miliwn eu difa a dihangodd naw ohonom, gyda diolch i’r Crynwyr… Cynigiodd y Crynwyr warant i filoedd o Iddewon wrth i weddill y byd eistedd yn ôl a gwneud dim.”

Daeth Josephine Bruegel i Brydain o Tsiecoslofacia ym mis Ebrill 1939. Astudiodd ym Mhrâg ond caeodd y brifysgol un tymor cyn iddi sicrhau digon o gredydau er mwyn graddio.

Cafodd swydd fel nyrs yn Llundain, cyn cael ei symud i Essex. Ar ôl i Ffrainc ddisgyn ym mis Mehefin 1940, symudodd llywodraeth alltud Tsiecoslofacia i Lundain. Roedd tua 50 o filwyr o Tsiecoslofacia yn yr un sefyllfa â Josephine, felly gwnaed trefniant rhwng Prifysgol Prâg a Phrifysgol Rhydychen a rhoddwyd cyfle i’r myfyrwyr gwblhau eu graddau meddygol. Cymhwysodd Josephine a derbyniodd “MD Tsiecoslofacia” gan Edvard Beneš, cyn arlywydd Tsiecoslofacia a’r arlywydd wedi hynny hefyd.

Erbyn diwedd 1943, gwaethygodd y bomio yn Llundain a symudwyd Josephine, a oedd newydd eni ei phlentyn cyntaf, i Gaerdydd. Aeth i wirfoddoli gyda’r Gwasanaeth Meddygol Brys a chafodd ei hanfon i Ysbyty Llwynypia yng Ngwm Rhondda. Roedd y gwaith yno’n heriol, yn rhannol am nad oedd ganddi brofiad ym maes obstetreg:

Yn ei chofiant, mae’n ymhelaethu ar y sefyllfa yn yr ysbyty wedi’r ymosodiad ar Arnhem (a wnaed yn enwog wedyn yn A Bridge Too Far):

Josephine Bruegel yn gweithio fel nyrs yn ystod y rhyfel (trwy garedigrwydd Amgueddfa Iddewig Llundain)

 

Ym mis Medi 1944 daeth yr ysbyty’n fyw ar unwaith am fod ymosodiad parasiwt wedi bod ar Arnhem yn yr Iseldiroedd. Ni chlwyfwyd y dynion ond roedden nhw wedi ymlâdd. Buon nhw’n gorwedd yn eu gwelyau am 24 awr a mwy. Wedi iddyn nhw ddeffro, roedden nhw’n hynod siomedig eu bod wedi colli’r frwydr yn Arnhem. Gallai buddugoliaeth yn Arnhem fod wedi dirwyn y rhyfel i ben cyn y Nadolig yn 1944. Arweiniodd y golled, yn ogystal â methiant yr ymgais i ddienyddio Hitler ym mis Gorffennaf 1944, at besimistiaeth gyffredinol. Am y tro cyntaf, clywais Churchill yn cael ei feirniadu. Roeddwn i wedi fy synnu’n fawr.

Josephine yn derbyn ei diploma meddygol gan Edvard Beneš ym Mhrifysgol Rhydychen ym mis Gorffennaf 1943. Dyma’r seremoni raddio gyntaf a gynhaliwyd gan lywodraeth alltud Tsiecoslofacia, a Josephine oedd y ferch gyntaf i dderbyn diploma (trwy garedigrwydd stad Josephine Bruegel)

Dychwelodd Josephine i Lundain yn ddiweddarach i fod gyda’i gŵr. Symudodd y ddau i Tsiecoslofacia wedi’r rhyfel ond golygodd agwedd wrth-gomiwnyddol ei gŵr eu bod wedi’u halltudio fwy neu lai ar ôl goresgyniad y Comiwnyddion yn 1948. Dychwelodd y ddau i Loegr a daeth Josephine yn feddyg yng ngogledd Llundain ac yn gyd-sefydlydd y Gymdeithas Sgitsoffrenia Genedlaethol.

Gwrandewch ar stori Josephine yn llawn yma (Allanol)
Darllen pellach

Joža Bruegel, Memoirs (London: Yumpu, 2002)

Alfred Feiner, Pages from a Biography (London: Outposts Publications, 1967)

Anthony Grenville, Continental Britons: Jewish Refugees from Nazi Europe (London: The Association of Jewish Refugees & The Jewish Museum, 2021)

Michael H. Kater, ‘Unresolved Questions of German Medicine and Medical History in the Past and Present’, Central European History, 25:4 (1992), pp 407-23

Helen Johnson, ‘Holocaust Memorial Day: The incredible stories of the Greater Manchester Jews who saw the worst and best of humanity’, Manchester Evening News, 26 January 2020 (https://www.manchestereveningnews.co.uk/news/greater-manchester-news/holocaust-memorial-day-incredible-stories-17624877)

‘Obituaries: Joza (“Josephine”) Bruegel’, British Medical Journal, 331 (October 2005), p. 968

Cai Parry-Jones, The Jews of Wales: A History (Cardiff: University of Wales Press, 2017)

Bill Williams, Jews and other foreigners: Manchester and the rescue of the victims of European Fascism, 1933-40 (Manchester: Manchester University Press, 2013)

John Zamet, ‘German and Austrian Refugee Dentists: The Response of the British Authorities, 1933-1945’ (PhD thesis, Oxford Brookes University, 2007)