Cyn gynted ag y daeth Adolf Hitler a’r Sosialwyr Cenedlaethol i rym yn yr Almaen ym mis Ionawr 1933, dechreuwyd erlid eu gwrthwynebwyr gwleidyddol a thrigolion Iddewig. Ceisiodd llawer ddianc rhag yr erledigaeth drwy ffoi o’r wlad. Roedd hyn yn anodd serch hynny, am nad oedd llawer o wledydd y byd yn barod i roi mynediad iddynt. Gweithredodd yr Unol Daleithiau, gwlad a ystyrid yn hafan i geiswyr lloches o dramor ers blynyddoedd lawer, gyfres o gyfreithiau mewnfudo caeth yn y 1920au a oedd yn gwahaniaethu yn erbyn Iddewon yn ogystal â phobl o Ddwyrain a De Ewrop. Roedd rheolau caeth yn ymwneud â chaniatáu fisâu yn y DU. Roedd Deddf Estroniaid 1920 yn gofyn i estroniaid ddangos eu bod yn gallu cynnal eu hunain cyn cael hawl mynediad, a oedd yn golygu bod ffoaduriaid tlotach yn cael eu gwrthod. Gan amlaf, dim ond ffoaduriaid a fyddai’n debygol o allu sicrhau mewnfudiad parhaol i rywle arall oedd yn cael caniatâd fisa. Erbyn diwedd 1937, dim ond 5,500 o’r 154,000 o ffoaduriaid a oedd wedi ffoi o’r Almaen Natsïaidd a dderbyniodd loches yn y DU.
Ar ôl i’r Almaen feddiannu Awstria ym mis Mawrth 1938 a meddiannu Tsiecoslofacia ym mis Mawrth 1939, roedd angen lloches ar ragor o bobl. Amcangyfrifodd Syr Herbert Emerson, Uwch Gomisiynydd Ffoaduriaid Cynghrair y Cenhedloedd o 1933 tan fis Medi 1939, fod 400,000 o bobl wedi ffoi rhag y Drydedd Reich, gan gynnwys 225,000 o Iddewon o’r Almaen; 134,000 o Iddewon o Awstria a Bohemia-Morafia; a 40,000 nad oeddent yn Iddewon. Setlodd chwarter y ffoaduriaid hyn mewn ardaloedd a feddiannwyd gan y Natsïaid yn ddiweddarach. Er gwaethaf y rheolau caeth (ar ôl yr Anschluss, cyflwynodd Prydain system fisâu newydd ar gyfer Awstriaid ac Almaenwyr mewn ymgais i gyfyngu ar ragor o fewnfudwyr), roedd tua 78,000 o ffoaduriaid o Ganolbarth Ewrop yn byw yn y DU yn 1939 a 12,000 ychwanegol wedi dod i’r DU cyn ail-ymfudo. Roedd tua 90% o’r ffoaduriaid hyn yn Iddewon. Daeth rhai ffoaduriaid i Gymru, er na wyddom faint yn union.
O fis Rhagfyr 1938 tan fis Medi 1939, caniataodd llywodraeth y DU i blant ddod i’r DU heb fisa, ond gorfodwyd eu teuluoedd i aros ar y cyfandir. Yn ddiweddarach, cyfeiriwyd at yr ymdrechion achub yma fel y Kindertransport (cludiant plant). Cyn dechrau’r Ail Ryfel Byd, rhoddodd Prydain loches i tua 10,000 o blant a’r mwyafrif ohonynt o gefndir Iddewig. Yn ogystal â hyn, sefydlodd cronfa’r Central British Fund for German Jewry (sydd bellach yn gweithredu dan y teitl World Jewish Relief) wersyll i ffoaduriaid tlotach yn Sandwich yng Nghaint ar ddechrau 1939; arhosodd tua 4,000 o ffoaduriaid yng ‘Ngwersyll Kitchener’, cyn ei gau flwyddyn yn ddiweddarach.
Cyn gynted ag y dechreuodd y rhyfel, roedd ymfudo rhag y Drydedd Reich yn fwy anodd o lawer. Cyfyngwyd ymadael (dan reolau treth y Reich Flight Tax a ddaeth i rym cyn dechrau’r rhyfel, meddiannwyd pob eiddo posibl oddi wrth y ffoaduriaid Iddewig) a chafwyd cymhlethdodau yn sgil anhrefn cyffredinol sefyllfa’r rhyfel. Roedd llywodraeth Prydain yn ansicr iawn ynghylch derbyn ‘estroniaid y gelyn’, waeth beth oedd eu hagwedd tuag at Sosialaeth Genedlaethol (gydag eithriadau prin, roedd fisâu a roddwyd i ddinasyddion o wledydd y gelyn cyn y rhyfel yn annilys o 3 Medi 1939 ymlaen). Rhwystrodd y Natsïaid yr Iddewon rhag ymfudo yn llwyr ym mis Hydref 1941 ac ni ddangosodd Prydain unrhyw ddiddordeb mewn derbyn ffoaduriaid oni bai eu bod yn uniongyrchol fanteisiol i ymdrechion y rhyfel. Golygai hyn mai dim ond cynnydd o 10,000 a welwyd ym mhoblogaeth ffoaduriaid i Brydain rhwng 1939 ac 1945.
Darllen pellach
Gerhard Hirschfeld (ed.), Exile in Great Britain: Refugees from Hitler’s Germany (Leamington Spa: Berg, 1984)
Colin Holmes, John Bull’s Island: Immigration and British Society, 1871-1971 (Basingstoke: Macmillan, 1988)
Louise London, Whitehall and the Jews, 1933-1948: British Immigration Policy, Jewish Refugees and the Holocaust (Cambridge, Cambridge University Press, 2000)
Harriet Sherwood, ‘The forgotten haven: Kent camp that saved 4,000 Jews’, The Guardian, 24 August 2019 (https://www.theguardian.com/world/2019/aug/24/kitchener-camp-sandwich-kent-german-jews-haven)
Claudena Skran, Refugees in Inter-War Europe: The Emergence of a Regime (Oxford: Oxford University Press, 2011)