Addysg

Adnoddau Holocost Cymru

Yn sgil grant gan Gymdeithas y Ffoaduriaid Iddewig (AJR), mae’r prosiect hefyd yn cydweithio â Jewish History Association of South Wales/Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru (JHASW/CHIDC) er mwyn datblygu adnoddau dwyieithog, lleol, perthnasol yn ymwneud ag addysg yr Holocost i’w defnyddio mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru. Bydd y rhain ar gael drwy Hwb o semester 2024/5 ymlaen. Drwy hybu deunydd addysgol dwyieithog am yr Holocost a hanes ffoaduriaid yng Nghymru, byddwn yn cefnogi athrawon i ddatblygu gwybodaeth am yr Holocost ymysg pobl ifanc, cynyddu’r nifer o bobl sy’n ymwneud â threftadaeth Iddewig a brwydro yn erbyn gwrth-semitiaeth a hiliaeth.

Isod gallwch gael mynediad i adnoddau Cymraeg a Saesneg a grëwyd fel rhan o’r prosiect. Mae’r pedair gwers gyntaf yn canolbwyntio ar y Kindertransport, ac mae’r pumed yn edrych ar Aero Zipp Fasteners yn Ystâd Fasnachu Trefforest.

Bydd adnoddau eraill yn edrych ar: Kristallnacht; artistiaid Iddewig yng Nghymru; busnesau Iddewig yn Ystâd Fasnachu Trefforest; Caethiwed; ffoaduriaid Iddewig fel gweision domestig; meddygon, deintyddion a nyrsys ffoaduriaid Iddewig yng Nghymru; ffoaduriaid Iddewig yn y Fyddin Brydeinig yn ystod yr Ail Ryfel Byd; Bywyd crefyddol ffoaduriaid Iddewig; yr iaith Gymraeg; Rhyddhad; Hunaniaeth; a Chofio’r Holocost.

Adnoddau pellach

Mae Canolfan Addysg yr Holocost yng Ngholeg Prifysgol Llundain wedi llunio crynodebau ar sail gwaith ymchwil ar gyfer dosbarthiadau athrawon i gynyddu eu heffeithiolrwydd wrth ddysgu am yr Holocost.

Mae gan Ymddiriedolaeth Diwrnod Coffa’r Holocost nifer o adnoddau dwyieithog Cymraeg/Saesneg er mwyn gallu dysgu mwy am yr Holocost a hil-laddiadau eraill.