Rhwng 1943 ac 1945, sefydlodd llywodraeth alltud Tsiecoslofacia ysgol uwchradd ar gyfer ffoaduriaid yn yr Abernant Lake Hotel yn Llanwrtyd. Lleolwyd yr ysgol cyn hynny yn Swydd Surrey a Swydd Amwythig, cyn cael ei symud i Gymru. Roedd tua 140 o ddisgyblion yn derbyn eu haddysg yn Ysgol Wladol Tsiecoslofacia, y mwyafrif ohonynt o gefndir Iddewig ond eraill o gefndiroedd Catholig, Protestannaidd, heb ymrwymiad crefyddol.
Roedd y gwersi yn yr ysgol drwy gyfrwng yr iaith Tsiec ac roedd llywodraeth alltud Tsiecoslofacia’n gyfrifol am yr holl gostau (gan gynnwys cyflog yr athrawon a llety’r plant). Yn ôl Marilyn Yalom, cyn-ddisgybl, “Roedd hi’n amlwg fod angen i ni siarad yr iaith Tsiec a theimlo fel Tsieciaid, gan mai nod yr ysgol oedd ein paratoi ac ailsefydlu’r weriniaeth a ddifethwyd gan y Natsïaid.”
Roedd Ruth Hálová yn ddisgybl arall yn yr ysgol ac fe gofia ei hamser yno fel cyfnod “yn llawn cyfeillgarwch”:
“Roedden ni’n grŵp amrywiol: roedd y mwyafrif o’r disgyblion wedi eu cludo yno ar y trenau fel plant, a’u bywydau, fel fy mywyd i, wedi cael eu hachub gan Nicholas Winton. Roedd rhai ohonom yn blant i filwyr ac awyrenwyr hefyd a oedd yn gwasanaethu yn lluoedd arfog Prydain, neu’n blant gweision sifil ac uwch swyddogion llywodraeth alltud Tsiecoslofacia. Wedi dwy flynedd fendigedig, graddiais oddi yno. Mis Mai 1945 oedd hynny, diwedd y rhyfel.”
Darllenwch stori Ruth yma (Allanol)
Yn y cyngerdd a gynhaliwyd yn yr ysgol, canodd y plant ‘Hen Wlad Fy Nhadau’, er mawr foddhad i’r gymuned leol. Daeth Vera Gissing ar y Kindertransport o Brâg i Brydain ym mis Mai 1939. Roedd hi’n fyfyrwraig yn yr ysgol ac mae’n cofio, yn y cyngerdd, nad oedd “yr un llygad sych yn y gynulleidfa”. Ysgrifennodd lyfr yn ddiweddarach am ei phrofiadau o dan y teitl Pearls of Childhood.
Cofia’r cyn-fyfyriwr Frank Schwelb hefyd “yn annwyl iawn am garedigrwydd y Cymry a’i croesawodd ef” a’i gyd ddisgyblion “mor gynnes yn ystod cyfnod mor anodd”. Ers hynny mae tref Llanwrtyd wedi gefeillio â thref Tsiecaidd Český Krumlov, gan gryfhau’r cyswllt rhwng y ddwy gymuned.
Gwrandewch ar stori Vera yma (Allanol)
Darllen pellach
Vera Gissing, Pearls of Childhood (London: Robson, 1988)
Cai Parry-Jones, The Jews of Wales: A History (Cardiff: University of Wales Press, 2017)
Jane Marchese Robinson, Seeking Sanctuary: A History of Refugees in Britain (Barnsley: Pen & Sword, 2020)
Marilyn Yalom, Innocent Witnesses: Childhood Memories of World War II (Stanford, CA: Redwood Press, 2021)