Rhwng 1939 ac 1941 roedd Castell Gwrych yn Abergele, Conwy yn gartref i tua 200 o ffoaduriaid Iddewig rhwng 12 a 17 oed a oedd wedi ffoi o rannau o Ewrop dan reolaeth y Natsïaid. Trefnwyd y castell i fod yn hachshara (canolfan hyfforddi amaethyddol) a sefydlwyd yn wreiddiol yn yr Almaen gan sefydliadau Seionaidd megis Youth Aliyah a Bachad er mwyn paratoi ieuenctid ar gyfer gwaith amaethyddol ym Mhalesteina. Yn sgil erledigaeth yn yr Almaen, adleoliwyd tua 20 hachsharot i Brydain rhwng 1939 ac 1945, a Chastell Gwrych oedd y mwyaf ohonynt. Noddwyd tua 500 o blant i ddod i Brydain gan Youth Aliyah fel rhan o’r Kindertransport ond gofynnodd ffoaduriaid eraill am gael eu hanfon i’r hachsharot ar ôl cyrraedd. Yn ddiweddarach roedd y niferoedd yn cynnwys 43 o bobl ifanc a oedd yn arfer bod mewn hachshara arall yng Nghastell Llandochau ym Morgannwg ond a gafodd eu symud ar ôl i’r llywodraeth feddiannu’r fan honno.
Cynigiwyd y castell yn rhad ac am ddim gan y perchennog, yr Arglwydd Dundonald, am ei fod mewn cyflwr gwael iawn. Roedd y cyfleusterau yno’n hynod brin, gyda dim ond ychydig ystafelloedd yn addas ar gyfer eu defnyddio a bu’n rhaid i’r preswylwyr balu toiledau allan ymhen rhai wythnosau. Defnyddiwyd stôf hynafol ar gyfer coginio, er ei bod yn gollwng mwg yn barhaus, gan achosi gwenwyn carbon deuocsid ymhlith rhai o’r preswylwyr. Nid oedd y pwmp dŵr, a ddefnyddiai ddŵr o gyflenwad Abergele, yn ddigon pwerus ar gyfer 200 o bobl, gan olygu bod yn rhaid i’r plant redeg i lawr i’r gegin i gario bwcedeidiau o ddŵr yn ôl i fyny i’w hystafelloedd ymolchi. Yn y pen draw, gwellodd yr amodau a sefydlodd y plant a’r staff dimau gwaith i daclo’r heriau cynnal a chadw.
Roedd y plant yng Nghastell Gwrych yn rhannu eu hamser rhwng gwneud gwaith amaethyddol ac astudio, yn ogystal â gweithio i fusnesau ac ar ffermydd lleol. Roedd amser i hamddena hefyd, gan gynnwys chwarae pêl-droed, tennis bwrdd a mwynhau partïon.
Pan oedd yn blentyn, roedd Herman Rothman yn ffoadur yng Nghastell Gwrych. Yn y cyfweliad hwn a recordiwyd ar gyfer yr Amgueddfa Ryfel Ymerodrol yn 2008, mae’n disgrifio bywyd yn yr hachshara:
Cofia Arieh Handler, prif drefnydd yr hachshara, fod y plant “yn gwneud ffrindiau’n hawdd gyda’r bobl leol, y siopwyr, crefftwyr ac yn enwedig ffermwyr yr ardal gyfagos. Doedd gan lawer ddim syniad beth oedden ni’n ei wneud yn Abergele, pwy oedden ni, o ble roedden ni’n dod na pham ein bod ni’n byw yng Nghastell Gwrych.”
Yn 1941, daeth yr hachshara i ben yn sgil gostyngiad yn y galw am waith yn yr ardaloedd cyfagos a chafodd llawer o’r staff a’r plant hŷn yn eu harddegau hwyr eu caethiwo fel gelynion estron. Trosglwyddwyd y bobl ifanc oedd yn weddill i ganolfannau llai yn Rhuthun, Llanelwy a Rossett. Yn ôl arolwg gan Gymdeithas y Ffoaduriaid Iddewig yn 2007, arhosodd 12 o’r 22 plentyn a holwyd yn y DU ar ôl y rhyfel, gyda phump yn ymfudo i Balesteina a phedwar i fannau eraill.
Darllen pellach
Gwrych Castle Year Book 1939/40 (Wiener Holocaust Library, OSP3600)
Deborah Katz, ‘Little-Known Holocaust History: Fleeing Germany, Then Living In A British Castle’, Jewish Press, 30 May 2019 (https://www.jewishpress.com/sections/features/fleeing-germany-then-living-in-a-british-castle/2019/05/30/)
Cai Parry-Jones, The Jews of Wales: A History (Cardiff: University of Wales Press, 2017)