Plant y Kindertransport

Yn 1938, gwnaeth llywodraeth Prydain eithriad i reolau mewnfudo caeth arferol y wlad. Cyrhaeddodd tua 10,000 o ffoaduriaid a oedd yn blant, heb eu rhieni, i Brydain rhwng mis Rhagfyr 1938 a mis Medi 1939 ar yr hyn a elwid wedi hynny yn Kindertransport (cludiant plant). Trefnwyd y rhain yn bennaf gan sefydliadau Iddewig megis y Gronfa Brydeinig Ganolog ar gyfer Iddewon Almaenig ac Youth Aliyah ond trefnwyd nifer gan grwpiau ar wahân i’r Iddewon hefyd, megis Cymdeithas Grefyddol y Cyfeillion (Y Crynwyr). Arweiniwyd rhai o’r ymgyrchoedd achub enwocaf gan Nicholas Winton, banciwr o Brydain a achubodd 669 o blant drwy drefnu cludiant o Brâg, Tsiecoslofacia.

Roedd Harry Weinberger, a anwyd ym Merlin, yn bymtheg oed pan ffodd o Brâg. Teithiodd ar y trên gyda’i chwaer a chofia ofn dybryd y plant ar y trên. “Ym mhob tref y teithiwyd drwyddynt, roedd pobl mewn lifrai i’w gweld ym mhob man, roedd cyrn siarad yn cael eu defnyddio i chwarae cerddoriaeth filitaraidd ac roedd y plant… bob un yn ofidus am eu bod wedi gadael eu rhieni, wedi gadael eu teuluoedd a ddim yn gwybod beth fyddai’n digwydd ar y ffin… swyddogion ffiniau’r Almaenwyr mewn lifrai yn ein herio a gwirio os oedd gan unrhyw un ohonom arian.” Doedd ganddyn nhw ddim hawl i gario mwy na 10 marc gyda nhw; mae hynny’n cyfateb i £1 heddiw. Cyrhaeddodd Harry i Lundain ac yn ddiweddarach aeth i fyw gyda’i ewythr i dde Cymru.

Gwrandewch ar stori Harry (Allanol)
Plant y Kindertransport yn cyrraedd Llundain, mis Chwefror 1939 (trwy garedigrwydd Das Bundesarchiv CC-BY-SA 3.0)

Dim ond plant heb rieni oedd yn cael caniatâd mynediad gan lywodraeth Prydain ar y cynllun hwn, er gwaetha’r ffaith fod y mwyafrif ohonynt wedi bod yn byw gyda’u rhieni ac aelodau eraill o’r teulu cyn iddynt ffoi. Hefyd, roedd ar y mwyafrif o blant angen gwarant ar ffurf blaendal o £50 gan noddwr (unigolion, y gymuned Iddewig, grwpiau eglwysig, sefydliadau cydweithredol gweithwyr), er mwyn talu am eu cadw nes cyrraedd eu deunaw mlwydd oed. Roedd y llywodraeth yn benderfynol o osgoi gwario arian cyhoeddus ar y cynllun.

Trafodir y rhesymau dros y cyfyngiadau a osodwyd gan lywodraeth y DU yn helaeth: dylanwadwyd ar benderfyniad y llywodraeth yn rhannol gan ofn ynghylch yr effaith negyddol ar farchnad lafur y DU, yn ogystal â phryder am ddiogelwch ac o bosib wrth-semitiaeth gudd y gymdeithas Brydeinig (honnodd George Orwell yn 1945 fod “mwy o wrth-semitiaeth ym [Mhrydain] nag yr ydym yn barod i’w gydnabod, ac mae’r rhyfel wedi pwysleisio hynny”).

Daeth llawer o blant y Kindertransport i Gymru. Arhosodd rhai, megis Elga Kitchener, chwe blwydd oed, gyda pherthnasau (roedd modryb Elga yn byw yn Abercynon). Cafodd eraill, megis Renate Collins, eu maethu gan deuluoedd Cymreig. Weithiau, nid oedd y croeso i ffoaduriaid yn gynnes: cafodd Hannelore Napier ei bwlio am fod yn Almaenes yn ystod ei mis yng Nghaerdydd, cyn symud i West Riding, Swydd Efrog, Lloegr i fyw gyda theulu Methodistaidd.

Cafodd plant eraill eu symud i Gymru o ardaloedd megis Llundain, neu Ysgol Gwladwriaeth Tsiecoslofacia yn Llanwrtyd, a leolid yn yr Abernant Lake Hotel rhwng 1943 ac 1945. Rhwng 1939 ac 1941 cafodd tua 200 o blant Iddewig ar ffo lety yng Nghastell Gwrych yn Abergele, yn ogystal â Chastell Llandochau ym Morgannwg. Aeth nifer fechan o ffoaduriaid i Ysgol Aryeh House yng Nghastell Bronwydd hefyd, sef ysgol Iddewig a symudwyd yno o Brighton.

Kindertransport Statue
Cerflun Kindertransport yng ngorsaf Liverpool Street, Llundain (trwy garedigrwydd Wjh31/Wikimedia Commons)

Roedd Dorothy Fleming yn ddeg oed pan ddaeth hi ar y Kindertransport o’i chartref yn Fienna. Treuliodd ran helaeth o gyfnod y rhyfel yng Nghaerdydd, er iddi gael ei maethu’n wreiddiol gan bâr o Leeds. Yn y recordiad hwn o’r flwyddyn 1997, mae’n cofio sut y dewiswyd ei chwaer a hithau i ddod i Brydain:

 
Mae’r lluniau oedd ganddi pan ddewisodd hi fi gen i, a dywedodd Mrs Ross [aelod o bwyllgor y ffoaduriaid] am y llun hwnnw, “dyma chi, dyma lun i chi – y ferch yma yw’r union beth rydych chi ei heisiau. Mae hi’n siarad Saesneg, mae hi’n ddeg oed, ac mae ganddi lawer o ddiddordebau. Felly dywedodd Tilly [mam faeth Dorothy] “iawn, fe awn ni â hi” ac wrth iddi adael, edrychodd ’nôl a gweld llun o blentyn hardd iawn arall ac meddai “pwy yw’r plentyn hardd yma?” a dywedodd Mrs Ross, “dyna ryfedd i chi ddewis y llun yna, dyna chwaer yr un rydych chi wedi’i dewis”. A chwarae teg i Tilly, dywedodd, “wel, mae’n ddigon drwg fod y plant yma’n gorfod gadael eu rhieni ond mae gwahanu chwiorydd yn ofnadwy. Wn i ddim sut y gwnawn ni ymdopi ond mae’n well i ni gymryd y ddwy.”

 

Roedd gan ewythr Dorothy ffatri ar Ystâd Fasnachu Trefforest ac aeth hi i aros gydag ef a’i modryb yng Nghaerdydd. Roedd ei thad, Erich Oppenheimer, wedi’i gaethiwo ond cafodd yntau ei ryddhau er mwyn gweithio yn Nhrefforest, lle’r arhosodd y teulu weddill y rhyfel. Aeth Dorothy’n ddisgybl i Ysgol Hywel cyn mynd i Gaerfaddon a chymhwyso fel athrawes.

Gwrandewch ar stori Dorothy yn llawn yma (Allanol)

Plentyn oedd Lia Lesser hithau pan fu’n rhaid iddi ffoi o Brâg, Tsiecoslofacia yn haf 1939. Roedd ei theulu eisoes wedi symud deirgwaith yn y chwe mis blaenorol oherwydd gwrth-semitiaeth gynyddol yn y wlad, cyn i’w rhieni benderfynu ei hanfon i Lundain. Cafodd ei maethu gan fenyw Gristnogol o Borth Llechog, Ynys Môn a oedd yn gallu sgwrsio gyda Lia mewn Almaeneg. Mae Lia yn cofio cyrraedd gogledd Cymru:

Aethon ni i Borth Llechog, sy’n bentref bach bach. Dim ond swyddfa bost oedd yno; dim byd mwy na hynny… A dwi’n cofio, pan es i i mewn i’r bynglo ei hun, beth oedd yno ar fwrdd y gegin ond cath yn eistedd. Ac ro’n i’n gwybod yn syth, ro’n i’n gwybod ’mod i’n mynd i fod yn iawn achos ro’n i wrth fy modd efo cathod. Roedd gen i gath fach yn Tsiecoslofacia ac felly roeddwn i’n meddwl, “Mae pethau’n mynd i fod yn iawn.”

Aeth i’r ysgol leol, lle darganfu mai hi oedd yr unig ffoadur ar yr ynys ond yn ddiweddarach, aeth i Ysgol Tsiecoslofacaidd yn Swydd Amwythig ac yna Llanwrtyd. Dychwelodd i Ynys Môn wedi hynny a chwblhau ei haddysg ar ôl i’r Ysgol Tsiecoslofacaidd gau. Fel llawer o blant y Kindertransport, doedd gweddill teulu Lia ddim mor ffodus. Bu farw ei mam yn Theresienstadt, Tsiecoslofacia ac fe newynodd ei thad i farwolaeth yn Auschwitz.

Gwrandewch ar stori Lia yma (Allanol)

Gadawodd Heinz Lichtwitz ddinas Berlin yn chwe blwydd oed yn nechrau 1939, gan gyrraedd Abertawe ym mis Chwefror. Arhosodd gyda phâr Iddewig o’r enw Morris a Winifred Foner, a oedd yn gyfarwydd ag Iddeweg ond nid Almaeneg. Anfonodd tad Heinz, Max, gardiau post ato’n gyson o’r Almaen, er mwyn codi ei hwyliau. Fodd bynnag, dysgodd Heinz (a elwid erbyn hynny’n Henry Foner) Saesneg yn gyflym iawn a phan ffoniodd ei dad ef i ddymuno pen-blwydd hapus iddo ym mis Mehefin, sylweddolodd Henry ei fod wedi anghofio’r rhan fwyaf o’i Almaeneg. Roedd Max yn gyfreithiwr ym Merlin a helpodd Iddewon eraill i ddianc o’r wlad ond ni lwyddodd i achub ei fywyd ei hun. Cafodd ei anfon i Auschwitz ym mis Rhagfyr 1942 a’i lofruddio ymhen yr wythnos. Yn ddiweddarach, derbyniodd Henry lythyr yr oedd Max wedi ei anfon at frawd Henry cyn iddo farw:

 

“Rwy’n credu bod fy Heini wedi dod o hyd i gartref da ac y bydd y Foners yn edrych ar ei ôl ef cystal ag y gallai unrhyw riant. Cofiwch gyfleu iddyn nhw, un diwrnod pan fydd hi’n bosib, fy niolchgarwch dwysaf am ei gwneud hi’n bosib i fy mhlentyn ddianc rhag y dynged a fydd yn fy ngoddiweddyd i’n fuan… Rhyw ddydd, dywedwch wrtho mai dim ond cariad angerddol a phryder am ei ddyfodol a achosodd i mi adael iddo fynd ond ar y llaw arall, rwy’n ei golli’n ofnadwy o ddydd i ddydd ac y byddai fy mywyd yn colli pob ystyr pe na bai gen i’r gobaith lleiaf o’i weld eto rhyw ddydd.”

 

Ymhen blynyddoedd, gwnaeth Henry lyfr o gardiau post a anfonwyd ato gan ei dad, sef Postcards to a Little Boy: A Kindertransport Story.

Darllen pellach

Judith Tydor Baumel-Schwartz, Never Look Back: The Jewish Refugee Children in Great Britain, 1938-1945 (Ashland, OH: Purdue University Press, 2012)

Ciara Cohen-Ennis, ‘The story of the six-year-old brought to Abercynon to escape Nazi Germany’, ITV News, 27 January 2020 (https://www.itv.com/news/wales/2020-01-27/the-story-of-the-six-year-old-brought-to-abercynon-to-escape-nazi-germany)

Jennifer Craig-Norton, The Kindertransport: Contesting memory (Bloomington, IN: Indiana University Press, 2019)

Vera K. Fast, Children’s Exodus: A history of the Kindertransport (London: I. B. Tauris, 2011)

Daniel Feldman, ‘Address Unknown: German Children’s Literature about Refugees’, Children’s Literature Association Quarterly, 45:2 (Summer 2020), pp 124-44

Andrea Hammel (ed.), The Kindertransport to Britain 1938/39: New Perspectives (Amsterdam: Rodopi, 2012)

Mark Jonathan Harris and Deborah Oppenheimer, Into the Arms of Strangers: Stories of the Kindertransport (New York: MJF Books, 2000)

Louise London, Whitehall and the Jews, 1933-1948: British Immigration Policy, Jewish Refugees and the Holocaust (Cambridge, Cambridge University Press, 2000)

Donald Macintyre, ‘Goodbye to Berlin: Postcards from Nazi Germany tell story of the Kindertransport’, The Independent, 27 June 2013 (https://www.independent.co.uk/news/world/world-history/goodbye-berlin-postcards-nazi-germany-tell-story-kindertransport-8665473.html)