Ganwyd William Dieneman (g. Wolfgang Dienemann) yn 1929 yn Cottbus, yr Almaen. Dechreuodd yn y Jüdische Volksschule (Ysgol Iddewig) yn Schöneberg, Berlin yn 1936. Llosgwyd yr ysgol i’r llawr yn ystod cyrch Kristallnacht ac arestiwyd ei dad a’i anfon i wersyll crynhoi Sachsenhausen. Cofiodd William yn ddiweddarach: “Roedd yr holl newid o fod yn ddinasyddion cyffredin i fod yn alltudion yn rhyfedd iawn; roedd ein cymdogion ym Merlin, y teulu Von Klodt, yn Natsïaid. Pan arestiwyd fy nhad, galwodd Von Klodt â thusw o flodau i ddangos ei gydymdeimlad.”
Ffodd William o Ferlin gyda’i chwaer fel rhan o’r Kindertransport, gan gyrraedd Southampton ym mis Ionawr 1939. Yn wahanol i’r mwyafrif o blant a oedd yn ffoaduriaid, llwyddodd ei rieni hefyd i ddianc i Brydain cyn dechrau’r rhyfel, er i’w dad gael ei ddal fel gelyn estron yn 1940.
Rhoddwyd William gyda theulu maeth ar y dechrau, cyn iddo gael ei dderbyn i Ysgol Breswyl Baratoadol Avondale ym Mryste. Defnyddiwyd yr ysgol fel lloches cyrch awyr a chafodd ei symud i Rydychen. Cofia fod “Cymuned fawr o ffoaduriaid yn Rhydychen; roedd gyda nhw Reformgemeinde [Eglwys Ddiwygiadol]. Rwy’n cofio’r Rabi Rosenberg. Cefais fy bar mitzvah yno ond dyna’r tro olaf i mi gael ymdeimlad o berthyn go iawn i’r byd Iddewig weddill fy mywyd.”
Cafodd swydd wedyn yn Llyfrgell Eglwys Crist, Rhydychen a phenderfynu mynd i astudio Ffrangeg ac Almaeneg yn y coleg, cyn graddio yn 1951. Cymhwysodd fel llyfrgellydd a gweithio yn Sefydliad Coedwigaeth y Gymanwlad cyn symud i Nigeria i weithio ym Mhrifysgol Ibadan. Gweithiodd hefyd yn yr Unol Daleithiau ac yng Ngholeg y Drindod, Dulyn, lle cyfarfu â’i wraig Marisa, a phriododd y ddau yn 1964.
Yn 1970, symudodd y teulu (a oedd yn cynnwys merch hefyd erbyn hynny) i Aberystwyth er mwyn i William allu derbyn swydd Llyfrgellydd, Llyfrgell Prifysgol Aberystwyth. Parhaodd yn y swydd honno nes iddo ymddeol yn 1995. Bu farw yn Aberystwyth yn 2018, yn 89 mlwydd oed.