Renate Collins

Ganwyd Renate Collins (g. Renate Kress) yn 1933 ym Mhrâg. Yn unig blentyn i Otto (banciwr) a Hilda (nyrs), magwyd Renate ar aelwyd Iddewig (er nad yn Uniongred). Roedd Otto’n wreiddiol o’r Almaen, felly roedd Renate yn siarad yr iaith Tsiec ac Almaeneg ar yr aelwyd. Roedd Selma, modryb Renate, yn gerflunydd a astudiodd yn stiwdio Awste Rodin ym Mharis am dair blynedd. Roedd perthynas arall iddi yn ffigwr blaenllaw wrth sefydlu Gweriniaeth Tsiecoslofacia yn 1918.

Pan orymdeithiodd yr Almaenwyr i Brâg ym mis Mawrth 1939, penderfynodd rhieni Renate ei hanfon i Gymru. Dihangodd ar y trên Kindertransport olaf i adael Tsiecoslofacia cyn dechrau’r Ail Ryfel Byd. Mae’n cofio “milwyr yr Almaen ar y platfform a phan oedd y trên yn barod i adael, dyma nhw’n dal dwylo i ffurfio llinell fel na allai’r rhieni neidio ar y trên”.

Dim ond pum mlwydd oed oedd hi pan adawodd Brâg. Ni welodd ei rhieni eto ar ôl mynd ar y trên. Cafodd ei mam a’i mam-gu eu saethu wedi i’w trên dorri i lawr ar y ffordd i wersyll difa Treblinka yng Ngwlad Pwyl a chafodd ei thad a’i Hewythr Felix eu llofruddio yn Auschwitz. Collodd Renate 64 aelod o’i theulu yn ystod yr Holocost.

Cerdyn adnabod Renate, a ddosbarthwyd gan Bwyllgor Prydeinig ar gyfer Plant ym Mhrâg
Renate Collins yn ferch ifanc yn Tsiecoslofacia

Yn y recordiad hwn a wnaed ar gyfer y prosiect ym mis Mai 2021, disgrifia Renate ei thaith i Lundain:

Aeth Renate at rieni maeth yn y Porth, de Cymru. Pan gyrhaeddodd, dim ond dau air o Saesneg oedd ganddi: “yes” a “no”. Cofia fod “llawer ohonom yn tybio pan fyddai’r rhyfel drosodd y byddem yn cael mynd ’nôl – er nad oedden ni’n credu bod ein rhieni o’r un farn”.

Daeth ei chysylltiad olaf â’i rhieni yn 1942, pan dderbyniodd delegram yn dymuno pen-blwydd hapus iddi:

 

Dymuniadau pen-blwydd hapus, rydyn ni’n meddwl amdanat o hyd. Rydyn ni’n iawn, gobeithio dy fod tithau hefyd. Llawer o gariad, cofion cynnes a diolch i dy rieni maeth.

 

Er i’w thad maeth geisio ateb, methodd â chysylltu. Dim ond yn ystod ymweliad â Phrâg yn 1996 y canfu Renate pryd yn union y bu farw ei rhieni.

Renate Collins yn ei chartref yng Nghaldicot, ger Casnewydd, 2021 (© Amy Daniel)

Yng Nghymru, dysgodd Renate Saesneg yn sydyn a setlo yn ei hysgol leol a’i chymuned (er mai hi oedd ar waelod ei dosbarth Almaeneg er ei bod hi’n gallu siarad yr iaith!). Roedd hi’n chwaraewraig hoci arbennig a hefyd yn mwynhau garddio. Maes o law cafodd ei mabwysiadu gan ei rhieni maeth, Sidney ac Arianwen Coplestone, ar ôl iddi ddod yn ddinesydd Prydeinig yn 1947. Yn ei heglwys leol, mae’n disgrifio ei hun fel “rhyfeddod saith diwrnod” – cafodd tair wyres i aelodau o’r eglwys eu henwi ar ôl Renate, am eu bod mor hoff o’i henw. Serch hynny, roedd ei thad maeth, er ei fod yn weinidog gyda’r Bedyddwyr, yn awyddus iddi barhau i “deimlo fel Iddewes am byth”.

Ar ôl gadael yr ysgol, astudiodd i fod yn gyfrifydd a dilyn cyrsiau teipio a llaw fer yn y coleg, cyn gweithio i BOAC, rhagflaenydd British Airways. Priododd ei gŵr David a symud i Gernyw. Mae ganddi ddau blentyn a phump o wyrion ac wyresau. Dychwelodd i Gymru yn 2001, cyn dychwelyd i Gernyw yn 2021.

“Rwy ond yn drist am na chafodd gweddill fy nheulu gyfle i fwynhau bywyd hefyd,” meddai.

Gwrandewch ar stori Renate yn y Llyfrgell Brydeinig (Allanol)
Darllen pellach

‘Survivor Renate Collins shares incredible story on Holocaust Memorial Day’, ITV News, 27 January 2021 (https://www.itv.com/news/wales/2021-01-27/survivor-renate-collins-shares-incredible-story-on-holocaust-memorial-day)