Daeth Edith yn gomiwnydd brwd gan ffoi o Awstria yn 1933 gyda’i gŵr Alex Tudor-Hart (roedden nhw wedi priodi’n gynharach y flwyddyn honno) i ddianc rhag erledigaeth dan y gyfundrefn ffasgaidd.
Wrth i Alex weithio fel meddyg yng Nghwm Rhondda, tynnodd Edith lawer o ffotograffau o dde Cymru ac ardaloedd diwydiannol eraill ym Mhrydain. Cyhoeddwyd ei ffotograffau mewn cylchgronau megis The Listener, gan ganolbwyntio ar faterion megis dirywiad diwydiannol, ffoaduriaid Rhyfel Cartref Sbaen, polisi tai a lles plant. Teithiodd Alex i Sbaen i weithio i’r Weriniaeth ar ôl geni eu mab, Tommy; gwahanodd y ddau yn fuan ar ôl iddo ddychwelyd.
Arweiniodd ei gweithredu comiwnyddol at Edith yn dod yn recriwtydd ysbiwyr pwysig i’r Undeb Sofietaidd. Ymgymerodd â chenadaethau dros yr NKVD Sofietaidd (yr heddlu cudd) ac roedd hi’n flaenllaw wrth recriwtio aelodau i Gylch Ysbïo Caergrawnt, gan weithio fel cyfryngwraig i Anthony Blunt a Bob Stewart yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Cadwyd hi dan wyliadwriaeth MI5 ond ni chafodd ei harestio erioed am ysbïo, er iddi gael ei holi ac effeithiodd hynny ar ei hiechyd meddwl. Yn y pen draw, agorodd siop hen bethau ym Mrighton gan farw o ganser y stumog yn 1973.
Ddechrau 1935, cafwyd protestiadau eang yn ne Cymru yn erbyn toriadau’r llywodraeth i fudd-daliadau diweithdra. Roedd y glowyr yn enwedig yn casáu’r Prawf Modd, gweithdrefn asesu ymwthgar a gynlluniwyd i benderfynu os oedd gan deuluoedd hawl i gefnogaeth y wladwriaeth.
Yn y ffotograff hwn, a dynnwyd gan Edith yn Nhrealaw yn 1935, gallwch weld maint y brotest yn erbyn polisïau’r llywodraeth. ‘Judge’s Hall Contingent Out to Smash the Slave Bill’ yw’r geiriau ar y faner gyntaf – cyfeiriad at Ddeddf 1934 a sefydlodd y Prawf Modd. Yn y faner yn y cefn, cyfeirir at yr NUWM, Symudiad Cenedlaethol y Gweithwyr Di-waith, a oedd yn gweithredu yn erbyn polisi’r llywodraeth yn ymwneud â’r di-waith yn ystod y 1920au a’r 1930au.
Dywedodd Edith yn ddiweddarach, “Yn nwylo’r sawl sy’n ei ddefnyddio gyda theimlad a dychymyg, daw’r camera’n fwy o lawer na modd o ennill bywoliaeth, daw’n ffactor hanfodol wrth gofnodi a dylanwadu ar fywyd pobl ac wrth hybu dealltwriaeth ddynol.”
Gweler mwy o waith Edith yn National Galleries Scotland (Allanol)
Darllen pellach
Ian Cobain, ‘How MI5 failed to expose matriarch of Cambridge spy ring’, The Guardian, 21 August 2015 (https://www.theguardian.com/uk-news/2015/aug/21/how-mi5-failed-to-expose-matriarch-of-cambridge-spy-ring)
Stephanie Ward, Unemployment and the State in Britain: The Means Test and Protest in 1930s South Wales and North-east England (Manchester: Manchester University Press, 2013)