Bywyd Ffoaduriaid ar ôl y Rhyfel

Ar ôl y rhyfel, symudodd llawer o ffoaduriaid o Gymru. Pwysleisiai polisi’r llywodraeth ailymfudo yn hytrach nag ymsefydlu. Ni chafodd nifer helaeth o feddygon Iddewig a gyrhaeddodd yn ystod y 1930au, er enghraifft, gynnig swyddi parhaol, a symudodd y mwyafrif i’r Unol Daleithiau. Roedd y sefyllfa’n debyg yn achos academyddion Iddewig ar ffo a allai ddim ond sicrhau swyddi dros dro. Gadawodd Werner Friedrich Bruck, athro Almaenig-Iddewig ym maes economeg a oedd yn gweithio yng Ngholeg Prifysgol De Cymru a Sir Fynwy rhwng 1934 ac 1938, i fynd i Efrog Newydd yn 1940. Yno cafodd swydd fel athro ym maes rheolaeth wleidyddol yn y New School for Social Research.

Roedd y ddau frawd Geoffrey a Lewis Elton (Gottfried a Ludwig Ehrenberg yn wreiddiol) yn dod o Tübingen yn yr Almaen. Cawsant eu symud i Gymru yn 1939, yn eu harddegau, a’u haddysgu yn Rydal Penrhos, ysgol breswyl Fethodistaidd ym Mae Colwyn. Ar ôl y rhyfel (gwasanaethodd Geoffrey yn yr Eidal), symudodd y ddau i Loegr gan ddod yn arbenigwyr ym maes hanes a ffiseg, a’r ddau’n mynd i ddysgu yng Nghaergrawnt yn ddiweddarach. Bellach mae Rydal Penrhos yn cynnig ysgoloriaeth i ddisgyblion o Ddwyrain Ewrop dan y teitl Ysgoloriaeth Ehrenberg-Elton, er cof am y cyn-ddisgyblion enwog.

Un oedolyn o ffoadur a arhosodd yng Nghymru oedd Erich Holler, academydd a anwyd yng Ngwlad Tsiec a ddaeth yn athro’r Almaeneg yng Ngholeg Prifysgol Abertawe yn 1950. Un arall oedd yr Awstriad Alfred Feiner a weithiodd fel meddyg ym Mhontypridd rhwng 1941 ac 1977.

Arhosodd llawer o ffoaduriaid iau yng Nghymru hefyd. Er i Gastell Gwrych gau fel hachshara yn 1941, arhosodd rhai o’r plant yn yr ardal am flynyddoedd lawer. Yn ôl arolwg a gynhaliwyd gan Gymdeithas y Ffoaduriaid Iddewig yn 2007, arhosodd 12 o’r 22 o blant a holwyd yn y DU ar ôl y rhyfel, gyda phump ohonynt yn ymfudo i Balesteina a phedwar i rywle arall. Ymgartrefodd Renate Collins, un o blant y Kindertransport o Tsiecoslofacia, yng Nghymru a magu teulu, a bellach mae ganddi ddau o blant a phump o wyrion gyda’i gŵr David.

Mae Ysgoloriaeth Ehrenberg-Elton, Rydal Penrhos yn anrhydeddu dau ffoadur a addysgwyd yn yr ysgol (trwy garedigrwydd Independent Education Today)

Cyrhaeddodd ffoaduriaid eraill i Gymru yn ystod y cyfnod wedi’r rhyfel. Ar ôl cau Castell Gwrych, aeth rhai o’r plant i fyw mewn hostel yn Llanelwy, Sir Ddinbych. Yn dilyn y rhyfel, bu’r hachshara yma’n llety i’r rhai oedd wedi goresgyn yr Holocost (‘Y Bechgyn’ fel y cyfeiriwyd atynt) a ddaeth i Brydain fel rhan o gynllun a lansiwyd gan y dyngarwr Iddewig Leonard Montefiore. Un o’r ‘Bechgyn Windermere’ a ddaeth drosodd ym mis 1945 oedd Adolf Wasserzeicher a anwyd yng Ngwlad Pwyl. Newidiodd ei enw i Alec Walters, gan briodi a byw yng Nghymru weddill ei oes.

Roedd Irka Reichmann yn blentyn yng Ngeto Warsaw yn ystod y rhyfel. Pan gipiwyd ei rhieni a’i chwaer gan y Natsïaid, cuddiodd mewn cwpwrdd rhag iddi hithau gael ei dal. Lladdwyd ei rhieni, er i’w chwaer lwyddo i aros yn fyw. Heb unrhyw un yn weddill i ofalu amdani, bu’n byw yn y carthffosydd ac yn bwyta sbarion. Ym mis Mawrth 1946, cafodd ei hachub gan y Rabbi Solomon Schonfeld a drefnodd iddi ddod i Brydain. Cafodd ei maethu gan deulu a mynychodd Ysgol Howell’s yng ngogledd Caerdydd. Er na allai siarad Saesneg, llwyddodd i addasu maes o law. Wrth gyfathrebu â’i hewythr yn 1948, dywedodd mai coginio oedd ei hoff wers ond ni allai flasu’r bwyd am nad oedd yn kosher. Priododd yn ddiweddarach a symud i Lundain.

Ffodd William Dieneman o’r Almaen yn 1939 a chafodd ei addysgu ym Mryste a Rhydychen. Gweithiodd fel llyfrgellydd mewn sawl gwlad cyn symud i Aberystwyth yn 1970 i weithio yn Llyfrgell Prifysgol Aberystwyth. Gweithiodd yno nes ymddeol yn 1995. Bu farw yn 2018.

Ganwyd Eva Clarke wrth glwydi gwersyll crynhoi Mauthausen ym mis Ebrill 1945. Roedd ei mam wedi llwyddo i gadw’i beichiogrwydd yn gyfrinach rhag y swyddogion yn Auschwitz, lle bu’n garcharor cyn hynny. Pan gafodd Auschwitz ei gau ddechrau mis Ebrill 1945, cludwyd y carcharorion i Mauthausen a chafodd Eva ei geni yn y cert ychydig y tu allan i’r gwersyll. Meddyg Iddewig, gynaecolegydd ym Mhrifysgol Belgrade a oedd hefyd yn garcharor, dorrodd y llinyn bogail. Dim ond 3 phwys (1.5kg) roedd hi’n ei bwyso. Cofia’n ddiweddarach:

 

mae dau reswm pam y goroesodd [hi a’i mam] ac mae’r rheswm cyntaf yn hynod ddirdynnol. Ar y 28ain o Ebrill 1945, roedd y nwy ar gyfer siambrau nwy yr Almaenwyr wedi dod i ben. Mae fy mhen-blwydd ar y 29ain, felly mae’n ddigon posibl pe bai fy mam wedi cyrraedd ar y 26ain neu’r 27ain, na fyddwn i’n siarad gyda chi nawr. Yr ail reswm pam y llwyddon ni i oroesi oedd i Fyddin America lwyddo i oresgyn y gwersyll a’n rhyddhau ni i gyd bedwar neu bum diwrnod wedi i mi gael fy ngeni.

 

Ar ôl rhyddhau carcharorion Mauthausen, symudodd ei mam a’i llystad i Gaerdydd, lle magwyd Eva. Bu farw ei thad biolegol; cafodd ei ladd wythnos cyn i’r Sofietiaid oresgyn Auschwitz.

Mynychodd Eva Ysgol Gynradd Rhydypennau ac ysgol Our Lady’s Convent School ac mae’n cofio’i diwrnod cyntaf:

“Rwy’n cofio cael fy arwain o gwmpas yr ysgol yn Llandaf gan y brifathrawes. Rwy’n cofio meddwl ei bod hi’n hen iawn – mae’n rhaid ei bod hi tua 40 – ac roedd hi’n fawr – roedd hi’n grwn. Ac rwy’n cofio methu deall gair roedd hi’n ei ddweud. Dywedodd fy mam ’mod i wedi dysgu’n gyflym iawn.”

Symudodd i Lundain yn ddiweddarach a phriodi Cymro. Ymgartrefodd y ddau yng Nghaergrawnt ac aeth Eva i weithio fel gweinyddwraig yng Ngholeg Rhanbarthol Caergrawnt. Enillodd ddoethuriaeth anrhydeddus yn ddiweddarach am ei gwaith ym maes addysg yr Holocost ac mae’n siarad yn aml mewn digwyddiadau coffa wedi’u trefnu gan Ymddiriedolaeth Addysg yr Holocost.

Darllenwch fwy am stori Eva yma (Allanol)
Tystysgrif Geni Eva Clarke, cyhoeddwyd yn 1948 gan gadarnhau iddi gael ei geni ym Mauthausen dair blynedd cyn hynny (© Amgueddfeydd Rhyfel Ymerodrol)
Synagog Newydd Caerdydd (Synagog Cardiff Reform bellach). Symudodd y gymuned i mewn i gyn gapel y Bedyddwyr ar Deras Moira yn 1952 (trwy garedigrwydd Sionk/Wikimedia Commons)

Er gwaetha’r ffaith fod llawer o ffoaduriaid wedi bod ym Mhrydain ers dros ddegawd, bu’r broses o roi dinasyddiaeth iddynt yn un araf iawn. Bu’n rhaid i’r rhai a fu’n gwasanaethu yn y lluoedd arfog orfod aros tan ddiwedd y rhyfel hyd yn oed, a bu’n rhaid i eraill aros hyd yn oed yn hwy. Daeth Dorothy Fleming yn ddinesydd Prydeinig yn 1947, ar ôl i’w thad, Erich Oppenheimer, ddod yn ddinesydd; oherwydd yr oedi bu’n rhaid iddi gael benthyciad gan elusen Iddewig i’w helpu yn ystod ei chyfnod yn y coleg. Aeth ymlaen wedyn i fod yn athrawes.

Yng Nghaerdydd, ffoaduriaid oedd asgwrn cefn cynulleidfa’r New Reform, a sefydlwyd yn 1948. Un o’r sylfaenwyr oedd tad Des Golten, a redai ffatri ar Ystâd Fasnachu Trefforest. Cynyddodd aelodaeth Synagog Newydd Caerdydd (a enwyd yn ddiweddarach yn Cardiff Reform Synagogue) o 220 i 319 rhwng 1949 ac 1970, a ffoaduriaid oedd tua thraean yr aelodau gwreiddiol.

Daeth Karel Lek, ffoadur o Wlad Belg a symudodd i Fangor yng ngogledd Cymru (ac i Fiwmares yn Ynys Môn yn ddiweddarach), yn artist ar ôl y rhyfel. Dangosodd ei waith mewn nifer o orielau ym Mhrydain ac Ewrop, gan gynnwys yr Academi Frenhinol. Cafodd Karel ei dderbyn i Academi Frenhinol Cambrian yn 1955 a derbyniodd yr MBE yn 2003. Dywedodd yn ddiweddarach: “Daeth anffawd y rhyfel diwethaf â fi, yn fachgen un ar ddeg oed, o Antwerp i ogledd Cymru ac yno y bûm am dros 70 mlynedd. Weithiau rwy’n meddwl, tybed a yw hyn yn ddigon i mi allu fy ngalw fy hun yn Gymro!” Bu farw yn 2020.

Darllenwch ragor am stori Karel yma (Allanol)
Darllen pellach

’45 Aid Society (https://45aid.org/) – mae’r sefydliad hwn yn coffáu ‘Y Bechgyn’ a ddaeth i Brydain ar ôl y rhyfel

‘Ben Elton speaks on how family was welcomed at Rydal Penrhos after fleeing Nazi Germany’, Boarding Schools’ Association, 6 September 2016 (https://www.boarding.org.uk/media/news/article/3748/ben-elton-speaks-on-how-family-was-welcomed-at-rydal-penrhos-after-fleeing-nazi-germany)

Nick Dermody,Holocaust survivor Eva Clarke returns to Mauthausen birthplace’, BBC News, 5 May 2013 (https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-22383638)

Louise London, Whitehall and the Jews, 1933-1948: British Immigration Policy, Jewish Refugees and the Holocaust (Cambridge, Cambridge University Press, 2000)

Cai Parry-Jones, The Jews of Wales: A History (Cardiff: University of Wales Press, 2017)