Bywydau Ansefydlog

Rhyfel a Dadleoli yng Nghymru

Mae’r fflwyddyn 2025 yn nodi 80 mlynedd ers diwedd yr Ail Ryfel Byd. Ledled y wlad, ‘rydym yn cofio ymladdwyr a chymunedau. Un o agweddau llai adnabyddus y rhyfel yw dadleoliad – cafodd dros 60 miliwn o bobl eu dadleoli yn Ewrop yn unig, gan gynnwys llawer i Gymru.

Rydym yn cynnal arddangosfa newydd sy’n cynnwys gwaith celf, arteffactau a hanesion ymfudo’r rhai a gafodd eu dadleoli i Gymru yn ystod hanner cyntaf yr 20fed ganrif: ffoaduriaid, carcharorion rhyfel, a faciwîs o fannau eraill ym Mhrydain. Mae hefyd yn cynnwys darnau gan y rhai sydd wedi cyrraedd Cymru yn fwy diweddar yn sgil gwrthdaro a rhyfel, gan gynnwys o’r Wcráin a Syria.

Agorodd yr arddangosfa ar 14 Mehefin yn Oriel 2 yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, lle bydd i’w gweld tan 26 Hydref. O 7 Tachwedd tan 22 Ionawr bydd yn symud i Oriel y Senedd yng Nghaerdydd.