Bywyd cyn gadael

Cyn ymadael â’u gwledydd eu hunain, roedd gwahanol ffoaduriaid yn byw bywydau amrywiol iawn, felly mae’n amhosib disgrifio “profiad ffoadur” unigol. Ffoaduriaid o’r Almaen, Awstria a Tsiecoslofacia yw’r mwyafrif y cyfeirir atynt yn y prosiect hwn a’r rhan fwyaf ohonynt o dras Iddewig. Serch hynny, ceir amrywiaeth o ran dosbarthiad daearyddol, oed, gwleidyddiaeth ac ymlyniad crefyddol.

Tua 525,000 oedd poblogaeth Iddewig yr Almaen yn 1933, neu tua 0.75% o’r boblogaeth gyfan. Roedd y mwyafrif ohonynt wedi’u cymhathu’n gryf, yn siarad yr iaith ac yn ystyried eu hunain yn Almaenwyr; brwydrodd 100,000 o ddynion Iddewig gyda Byddin yr Almaen yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd y mwyafrif o’r Iddewon Almaenig yn byw mewn dinasoedd, er bod poblogaethau llai ledled y wlad. Roedd y mwyafrif o Iddewon Awstria yn byw yn y brifddinas, Fienna, gyda phoblogaeth Iddewig o 10% a’r mwyafrif ohonynt yn cefnogi Plaid y Democratiaid Sosialaidd (yr unig blaid an-Iddewig a dderbyniai Iddewon yn aelodau) ond caed nifer o bleidiau bychain Iddewig hefyd. Roedd dros 350,000 o Iddewon yn byw yn Tsiecoslofacia erbyn 1933, y mwyafrif ohonynt mewn dinasoedd ac wedi’u cymhathu’n dda. Yr Altneuschul ym Mhrâg yw’r synagog weithredol hynaf yn Ewrop o hyd.

Canolbarth Ewrop yn y cyfnod rhwng y Rhyfeloedd (trwy garedigrwydd Llyfrgell Cyngres yr UD)

Roedd llawer o bobl a fyddai’n ffoaduriaid yn y dyfodol yn dod o gefndiroedd dosbarth canol. Roedd Kate Bosse-Griffiths o Wittenberg, yr Almaen yn ferch i Iddewes (a oedd wedi troi at Lutheriaeth) a’i thad yn Gristion. Tref o ryw 20,000 o drigolion oedd Wittenberg a Paul, tad Kate, yn brif lawfeddyg yr ysbyty lleol. Roedd ei mam, Käthe, yn perthyn i deulu Iddewig cymharol gyfoethog (roedd tad-cu Kate ar ochr ei mam yn gyfreithiwr ac yn meddu ar y teitl ‘Cynghorydd a Notari Brenhinol i Frenin Prwsia’).

Roedd gan y teulu forwyn, Hedwig, gardd fawr ar ochr arall y stryd, ac fe dderbyniodd y plant addysg ddiwylliedig. Roedd Kate yn chwarae’r ffidil a dysgodd y Clasuron yn yr ysgol ramadeg leol; Dolly, ei chwaer hynaf, oedd y ferch gyntaf i fynychu’r ysgol, ar ôl i Paul fynnu lle iddi. Aeth Kate ymlaen yn ddiweddarach i astudio yn y brifysgol, gan ennill gradd mewn cerflunwaith Eifftaidd a sicrhau swydd yn Amgueddfa Eifftoleg Berlin. Pan gafodd ei diswyddo ar sail ei chefndir Iddewig a’i rhwystro hefyd rhag cael ei chyflogi o fewn y sector cyhoeddus yn y dyfodol, ffodd Kate i Brydain yn 1937.

Mam Kate gyda’i chwaer Dolly (chwith) a Kate (dde), 1913 (© Heini Gruffudd)
Kate yn chwarae’r ffidil yn bymtheg oed yn Wittenberg, 1925 (© Heini Gruffudd)

Treuliodd Julius Weil ei blentyndod yn Cologne yn yr Almaen. Yn aelod o deulu Iddewig crefyddol, mynychodd ysgolion Iddewig a chynhaliwyd ei bar mitzvah yn Synagog Glockengasse. Ei seremoni ef oedd yr olaf i gael ei chynnal yno cyn i’r adeilad gael ei ddinistrio yn sgil cyrch y Kristallnacht ym mis Tachwedd 1938.

Yn ystod y cyrch, cafodd dros 267 synagog eu dinistrio, bu farw cannoedd o Iddewon drwy lofruddiaeth neu hunanladdiad, a gorfodwyd dros 7,000 o fusnesau Iddewig i gau. Wedi hynny, arestiwyd tua 30,000 o Iddewon a’u hanfon i wersylloedd crynhoi, gyda’r Natsïaid yn eu dal yn gyfrifol am y difrod i’w cartrefi, eu busnesau a’u haddoldai eu hunain.

Achosodd y digwyddiad ddicter ledled y byd a hynny a ysgogodd lawer o Iddewon i ffoi rhag y Reich Almaenig. Daeth Julius i Loegr gyda’i ysgol ac, ar ôl y rhyfel, symud i Ferthyr Tudful a dod yn aelod gweithgar o’r gymuned Iddewig leol.

Gwyliwch y fideo gyfan o hanes Julius yma (Allanol)

Nid Iddewon oedd yr holl ffoaduriaid; ffodd rhai am resymau gwleidyddol. Ganwyd Anton Hundsdorfer ym Mafaria yn 1902. Cafodd ei fagu yn Bohdašice (a ddaeth yn rhan o Tsiecoslofacia) ond symudodd i Funich yn 1918 er mwyn dianc rhag ei lystad. Yno, bu’n dyst i’r Weriniaeth Fafaraidd Sofietaidd fyrhoedlog a chael ei ysbrydoli gan ei delfrydau. Ymunodd â Phlaid Gomiwnyddol yr Almaen (KPD) a dod yn gefnogwr ymroddedig.

Arferai Anton ddosbarthu taflenni gwrth-Natsïaidd ledled Bafaria ar ei feic modur ac roedd yn agos at aelodau blaenllaw eraill y KPD, gan gynnwys Hans Beimler (a laddwyd yn ddiweddarach wrth frwydro dros Sbaen Weriniaethol yn Rhyfel Cartref Sbaen). Gwnaeth hyn Anton yn elyn i’r gyfundrefn ar ôl 1933 ac felly ffodd yn sydyn dros y ffin. Goroesodd drwy guddio a chysgu mewn cytiau moch er mwyn osgoi cael ei ddarganfod ond hefyd fe aeth i’r Almaen i ddosbarthu llenyddiaeth gwrth-Natsïaidd. Ar un achlysur o’r fath, daeth ar draws patrôl o fyddin yr Almaen a chafodd ei saethu wrth ffoi yn ei ôl dros y ffin i Tsiecoslofacia. O ganlyniad, rhoddodd y gorau i geisio cyflawni rhagor o ymgyrchoedd o’r fath.

Anton ar y beic modur a ddefnyddiodd i ddosbarthu propaganda’r KPD (© Ernie Hunter)
Anton (yn edrych i’w chwith) ar orymdaith ym Munich. Roedd y KPD wedi eu gwahardd ar y pryd, felly esguswyd mai arddangosfa jiujitsu oedd yn digwydd (© Ernie Hunter)

Ar ôl cuddio am chwe blynedd, llwyddodd i gyrraedd Prydain yn 1939 fel gweithiwr amaethyddol. Er ei fod yn saer coed crefftus, dywedodd wrth y swyddogion mewnfudo mai ffermwr moch ydoedd, gan mai gweithwyr amaethyddol oedd yr unig rai a allai sicrhau mynediad. Gweithiodd ar ffermydd yng Nghaerwrangon a Chilgwri cyn cael ei gaethiwo. Ar ôl cael ei ryddhau, sicrhaodd swydd gyda’r Gwasanaeth Coedwigaeth yn Llangollen, cyn cyfarfod â’i ddarpar wraig, Fanny Höchstetter. Priododd y ddau ac aros yng Nghymru weddill cyfnod y rhyfel.

Gellir cael gwybodaeth bellach gan y Northern Holocaust Education Group a sefydlwyd gan fab Anton, Ernie Hunter (Allanol)
Evelyn yn ferch ifanc (trwy garedigrwydd Amgueddfa Iddewig Llundain)

Ganwyd Evelyn Ruth Kaye yn Fienna yn 1930. Yn y recordiad hwn, disgrifia ei phlentyndod cynnar yn y ddinas:

Gobaith ei mam oedd bod Evelyn wedi etifeddu rhai o ddoniau artistig ei theulu ar ochr ei thad, a oedd yn berchen ar theatr fechan. Ymddangosodd Evelyn mewn cynhyrchiad ysgol feithrin yn y theatr hyd yn oed. Yn anffodus, roedd ei hewythr (a oedd ond ychydig yn hŷn nag Evelyn) wedi dysgu ambell “air drwg” iddi yn lle’r pennill yr oedd hi i fod i’w adrodd. Pan ddaeth hi’n amser iddi ddweud ei llinell, dim ond y fersiwn “goch” allai hi ei chofio: “felly tynnodd tad-cu’r llenni i lawr braidd yn sydyn!”

Er ei bod yn perthyn i deulu Iddewig, nid oedd plentyndod Evelyn yn hynod grefyddol. Doedd y teulu ddim yn cadw kosher a dim ond unwaith roedd hi wedi bod y tu fewn i synagog. Serch hynny, cafodd ei thad ei arestio ar ôl cyrch Kristallnacht a chafodd ei mam ei gorfodi i lanhau’r stryd â brwsh dannedd, a ffodd Evelyn i Brydain ar y Kindertransport yn 1939. Aeth i hostel yn Llundain gyntaf, cyn cael ei symud i Gymru a mynychu’r ysgol yn Llanfair-ym-muallt, Powys.

Gwrandewch ar stori Evelyn yn llawn yma (Allanol)

Newidiodd bywyd am byth i bob Iddew Almaenig pan ddaeth y Natsïaid i rym. Ar ôl yr Anschluss yn 1938, roedd Iddewon Awstria yn wynebu gwrth-semitiaeth gynyddol. Bachgen ysgol o bentref Kleinmünchen ger Linz oedd Hans Albrecht. Mewn cyfweliad a recordiwyd gan yr Amgueddfa Ryfel Ymerodrol yn 2006, mae’n cofio sut y dechreuodd pobl ei drin yn wahanol ar ôl i’r Natsïaid feddiannu ei famwlad:

 
Ac wrth gyfarfod â chwaer arall ar y ffordd unwaith, dyma fi’n ei chyfarch a dywedodd [hi] “Cer o ’ma, y mochyn o Iddew”. Ac rwy’n cofio mynd i dorri fy ngwallt unwaith, a … dywedodd tad-yng-nghyfraith yr un oedd yn gwneud fy ngwallt “Alla i eistedd ar gadair arall os gweli di’n dda? Dydw i ddim eisiau eistedd ar sedd Iddew”.

 

Roedd hyn yn hynod o boenus i’r Hans ifanc, a oedd hefyd yn wynebu anawsterau dysgu. Byddai’n rhaid i rywun fynd yn gwmni iddo ar y ffordd i’r ysgol rhag i gefnogwyr y Natsïaid ymosod arno. Penderfynodd ei deulu ei anfon i Brydain ar y Kindertransport a threuliodd gyfnod yn Llandudno cyn symud i Brighton.

Gwrandewch ar stori Hans yn llawn yma (Allanol)
Hans Albrecht yn ddiweddarach (trwy garedigrwydd Sefydliad Hans Albrecht)

Mae Dorothy Fleming hefyd yn cofio’r modd y newidiodd ei bywyd ar ôl yr Anschluss. Cyn gynted ag y daeth y Natsïaid i rym, gwnaeth ei hathrawes gyhoeddiad:

 

Rwy’n cofio’r athrawes yn dweud wrth y plant fod gyda ni gyfundrefn newydd bellach; byddwch chi’n sylwi fod pethau’n wahanol ac fe hoffwn i i chi addo, os clywch chi eich rhieni neu unrhyw un o’u ffrindiau, neu eich brodyr a’ch chwiorydd, yn dweud rhywbeth cas am y gyfundrefn newydd sydd gennym, eich bod yn dod i ddweud wrthyf i. Felly, yr hyn roedd hi’n ei wneud oedd annog plant i achwyn am eu rhieni, fel petai, a sylweddolais, yn ddeg oed, fod hynny’n annerbyniol ac yn chwedeg saith oed, rwy’n dal i ystyried hynny’n annerbyniol!

 

Yn fuan wedyn, cafodd Dorothy (fel bob plentyn Iddewig) ei gwahardd rhag mynychu’r ysgol. Cymerodd y Natsïaid reolaeth dros fusnes optegydd ei thad ac fe ffodd Dorothy a’i theulu i Brydain.

Gwrandewch ar stori Dorothy yma (Allanol)

Ganwyd Josephine Bruegel yn Bohemia, Tsiecoslofacia. Cafodd ei magu ar aelwyd Almaeneg ei hiaith, gan ddechrau dysgu’r iaith Tsiec yn yr ysgol ramadeg. Pan ddechreuodd Josephine astudio meddygaeth ym Mhrifysgol Prâg, dechreuodd ymhél â gwleidyddiaeth, gan ymwneud â’r Seioniaid a’r Democratiaid Cymdeithasol. Cafodd ei harestio unwaith, wrth ymweld â ffrindiau yn Fienna, am daflu baner Natsïaidd i’r llawr. Fe’i rhyddhawyd am ei bod yn ddinesydd Tsiecoslofacaidd.

Wedi i’r Almaen feddiannu Sudetland yn dilyn Cytundeb Munich yn 1938, cafodd Josephine gyfle i fynd i Loegr. Ychydig cyn iddi adael, cafodd ei gorfodi i losgi sawl bocs yn llawn dogfennau gwrth-Natsïaidd y bu’n eu cadw yn ei seler ar ran ymgyrchwyr y Blaid Ddemocrataidd Gymdeithasol a oedd erbyn hynny wedi’i gwahardd:

Cyrhaeddodd Loegr, gorffen ei hastudiaethau a’i symud wedyn i Gaerdydd.

Gwrandewch ar stori Josephine yn llawn yma (Allanol)
Josephine Bruegel (yn eistedd, y bellaf ar y dde) yn yr ysgol yn Tsiecoslofacia (trwy garedigrwydd teulu Josephine Bruegel)
Darllen pellach

Joža Bruegel, Memoirs (London: Yumpu, 2002)

Centre for Holocaust Education, ‘Who were the six million? Exploring Jewish life before the Holocaust’ (https://holocausteducation.org.uk/who-were-the-six-million/)

Anthony Grenville, Continental Britons: Jewish Refugees from Nazi Europe (London: The Association of Jewish Refugees & The Jewish Museum, 2021)

Heini Gruffudd, A Haven from Hitler (Talybont: Y Lolfa, 2014)

Northern Holocaust Education Group (https://northernholocausteducationgroup.org.uk/)