Pwysigrwydd bwyd gan oroeswyr Hwngaraidd yr Holocost

Ailish Donachie, Myfyriwr Hanes, Prifysgol Stirling

Rydym yn falch o gynnal y blog hwn gan y myfyriwr hanes Ailish Donachie, a ddychwelodd yn ddiweddar o daith i Budapest a drefnwyd gan Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost. Ynddo, mae hi’n trafod lle pwysig bwyd yn hanesion bywyd goroeswyr Holocost Hwngari

Mae bwyd yn rhywbeth sy’n uno pawb ohonom ni, waeth pwy ydych chi, o ble rydych chi’n dod, a beth yw eich cefndir. Mae gan bawb gysylltiad personol â bwyd yn aml trwy draddodiadau dros sawl cenhedlaeth neu trwy greu traddodiadau newydd sydd ag ystyr bersonol. Gall ein cysylltiadau â bwyd hefyd fod yn lens dda i edrych drwyddi er mwyn deall y gorffennol a gwneud cysylltiadau ystyrlon â’r presennol.

Dwyn dynoliaeth yr Iddewon trwy eu herlid ar sail eu hunaniaeth oedd bwriad yr Holocost. Fodd bynnag, hyd yn oed o dan yr amgylchiadau hyn, daeth rhai Iddewon o hyd i ffyrdd o ddal gafael ar eu diwylliant, eu hunaniaeth, a’u dynoliaeth trwy rannu ryseitiau traddodiadol. Roedd yn ffordd syml ond effeithiol o wrthsefyll yr erledigaeth. Mae llawer o’r bobl a oroesodd yr Holocost wedi rhannu eu ryseitiau gyda’u teuluoedd, sydd wedi eu rhannu wedyn gyda’r byd, gan olygu bod eu diwylliant, eu treftadaeth a’u hatgof yn eu cadw’n fyw trwy’r cariad a’r angerdd sy’n gysylltiedig â’r bwyd.

Er enghraifft, gallwn olrhain y gwrthsafiad hwn i erledigaeth y Natsïaid a throsglwyddo treftadaeth trwy brofiad Iddewon Hwngari yn ystod yr Holocost. Er bod gwahanol lefelau o gydweithio’n bodoli yn nifer o’r gwledydd o feddiannwyd, roedd llywodraeth Hwngari yn gweithio’n uniongyrchol gyda’r Almaen Natsïaidd ac yn aml yn gweithio law yn llaw i erlid ei phoblogaeth Iddewig. Chwaraeodd llywodraeth Hwngari ran sylweddol yn y troseddau a gyflawnwyd yn yr Holocost, er mai dim ond ar ôl i’r Natsïaid feddiannu’r wlad yr alltudiodd Hwngari ei phoblogaeth Iddewig ei hun. Mewn cyfweliad, trafododd un o oroeswr yr Holocost, Steven Fenves, ei brofiad o’r cyfnod fel plentyn yn Hwngari:

Yr holl beth – hyd yn oed ar ôl meddiannaeth yr Almaen, hyd at ac yn cynnwys ein llwytho i mewn i’r cerbydau trên, does gen i ddim cof o weld un Almaenwr…. Fe wnaed y cyfan gan filisia Hwngari.

Steven Fenves, goroeswr yr Holocost

Mae hyn yn amlygu rhan mor fawr oedd awdurdodau Hwngari o’r Holocost ac o erlid eu dinasyddion Iddewig eu hunain. Mae’n bwysig cofio mor enfawr oedd yr elfen o gydweithrediad yn llofruddiaeth a gormes Iddewon Hwngari. Cludwyd tua 440,000 o Hwngariaid Iddewig o Hwngari ac aeth bron pob un ohonynt i Auschwitz neu Auschwitz-Birkenau. Ochr yn ochr â’r alltudio, lladdwyd nifer fawr iawn o Iddewon cyn cael eu cludo o Hwngari, trwy lafur gorfodol a saethu torfol, yn ogystal â’r amodau gwael a’r driniaeth a wynebwyd pan orfodwyd llawer i getos ar draws Hwngari. Ar y cyfan, mae Yad Vashem yn cofnodi bod 568,000 o Hwngariaid Iddewig wedi marw yn ystod yr Holocost.

Ac eto, y tu hwnt i niferoedd ac ystadegau’r 440,000 o Iddewon hynny o Hwngari a gafodd eu halltudio, mae bywydau unigol – pobl unigol, gyda theuluoedd, ffrindiau, a phob un â’i brofiad unigryw ei hun o’r Holocost. 440,000 o draddodiadau a ryseitiau teuluol wedi eu colli i erlyniad y Natsïaid. Am y rheswm hwn, wrth gofio’r Holocost a’i ddioddefwyr mae’n bwysig ein bod hefyd yn cofio’r bobl unigol a’u profiad unigol. Un ffordd o wneud hynny yw edrych ar brofiadau personol drwy dystiolaeth ac eitemau personol y goroeswyr. Mae ryseitiau ymhlith yr eitemau mwyaf personol ac yn aml gallant adrodd straeon traddodiadau teulu cyfan.

‘Mrs Zinger’s recipe for Mocha Cake’, Casgliad Amgueddfa Goffa’r Holocost UDA (https://encyclopedia.ushmm.org/content/en/document/mrs-zingers-recipe-for-mocha-cake)

Casglodd goroeswr yr Holocost Ilona Kellner (a elwir yn Ica) tua 600 o ryseitiau gan gyd-garcharorion yn ystod ei hamser yn gweithio mewn gwersyll llafur Natsïaidd ar ôl cael ei halltudio yno o Auschwitz. Casglodd Ica’r ryseitiau ar ddarnau o bapur a smyglodd o finiau sbwriel gyda phensil bach y daeth o hyd iddo a llwyddo i’w sleifio i’r bynciau. Cuddiodd Ica y ryseitiau oddi wrth y gardiaid Natsïaidd trwy eu cario mewn cwdyn bach yn ei siaced a hyd yn oed eu cario gyda hi ar orymdaith angau, ychydig ddyddiau cyn iddi gael ei rhyddhau. Ysgrifennodd merch Ica, Eva Moreimi, yn y cofiant Hidden Memories:

Gyda’r nos roedden nhw swatio gyda’i gilydd yn y barics a siarad am fwyd… Roedd siarad am eu bwyd a chofio hoff brydau teuluol yn rhoi gobaith a rheswm iddynt fyw.

Eva Moreimi, merch Ilona Kellner goroeswr yr Holocost

Ar ôl i Ica oroesi’r Holocost, cadwodd y ryseitiau hyn a gasglodd yn agos at ei chalon a byddai’n aml yn edrych trwyddynt i’w defnyddio fel ysbrydoliaeth wrth goginio. 

Nyth Gwenyn Meirch Hwngaraidd (Llun gan Armando Rafael trwy garedigrwydd Cymdeithas Bwyd Iddewig https://www.jewishfoodsociety.org/recipes/hungarian-wasp-nest)

Un o’r ryseitiau a gasglodd Ica yw’r Nyth Gwenyn Meirch Hwngaraidd, a elwir hefyd yn Darázsfésze. Mae’r byns yma yn debyg iawn i fyns sinamon, ond fe’u llenwir â chnau Ffrengig. Caiff y toes burum ei rolio, ei sleisio a’i bobi.  Mae Eva, merch Ica, yn nodi y gellir defnyddio fanila yn lle’r cnau. Mae hi’n cofio ei mam yn gwneud y byns yma bob blwyddyn ar gyfer Shavuot, sy’n draddodiad y mae hi wedi parhau ag ef ei hun.  Amlyga hyn mor ganolog yw bwyd i gadw traddodiadau, atgofion a straeon yn fyw. Trwy bobi’r Nyth Gwenyn Meirch Hwngaraidd a rhannu’r rysáit mae traddodiad llawer o bobl Iddewig yn cael ei barhau trwy fwyd. Mae’n hanes am oroesi a herfeiddiwch.

Csusztatott Palacsinta (Cacen Haenau Hwngaraidd gyda Chnau Pecan a Fanila) (Llun gan Dave Katz trwy garedigrwydd Cymdeithas Bwyd Iddewig https://www.jewishfoodsociety.org/recipes/csusztatott-palacsinta-hungarian-layer-cake-with-pecans)

Rysáit arall a rannwyd yw’r Csusztatott Palacsinta (cacen haen Hwngaraidd gyda chnau pecan a fanila). Rhannwyd y rysáit gan Hein Zeidner Kapsi, gwraig ŵyr Martha Roth a rannodd rysáit y teulu ar ôl datblygu diddordeb mawr yn ryseitiau Martha. Yn wreiddiol o Slofacia, llwyddodd Martha i fyw trwy’r Holocost ar ôl dianc i Hwngari cyn cael ei charcharu. Symudodd Martha i Israel ar ôl y rhyfel a daeth yn bobydd a chogydd medrus. Mae ei theulu’n dal i ddefnyddio eu ryseitiau a’u rhannu â’i gilydd. Roedd Martha yn gyfrinachol iawn ynghylch ei ryseitiau oedd yn golygu ei bod yn anodd i Hein berffeithio’r rysáit ar ôl ail-wneud y gacen sawl gwaith. Ochr yn ochr â’i ryseitiau, roedd yn anodd iawn dod o hyd i fwy o wybodaeth am Martha a’i bywyd ar wahân i’r hyn sydd wedi’i rannu gan ei theulu. Fodd bynnag, mae’r effaith fwyaf a gafodd ar ei theulu yn glir. Mae’r ymdrech i ail-greu’r rysáit perffaith yn amlygu’r cysylltiad rhwng bwyd, atgofion am Martha a’r traddodiadau a gadwyd yn fyw gan ei theulu. Atgyfnertha mor bwysig y gall bwyd fod er mwyn cynnal etifeddiaeth yn ogystal â’r cof am fywydau pobl a’u traddodiadau. Trwy’r bwyd a rennir, gellid parhau â’r bywyd oedd gan lawer ohonynt cyn yr Holocost trwy genedlaethau’r dyfodol.

Teulu Fenyves yn eu gwinllan yn Subotica, Iwgoslafia ar y pryd, c. 1935-38, Casgliad Amgueddfa Goffa Holocost yr Unol Daleithiau, trwy garedigrwydd Steven J. Fenves (https://collections.ushmm.org/search/catalog/pa1151877)

Llwyddodd llyfr coginio teulu Klári Fenyves hefyd i oroesi’r Holocost a chadw atgofion am ei theulu yn fyw. Creodd lyfr coginio llawn ryseitiau teuluol a hoff brydau bwyd y teulu ond bu’n rhaid iddi adael y llyfr ar ôl pan orfodwyd hwy i adael eu cartref. Llwyddodd cogydd y teulu i achub y llyfr coginio yn ogystal â rhywfaint o waith celf Klári a gafodd ei ddychwelyd i’r teulu ar ôl y rhyfel.

Meddai mab Klári, Steven Fenyves (a adwaenir yn ddiweddarach fel Fenves)  am ei brofiad o’r Holocost mewn cyfweliad:

Un o’r atgofion gwaethaf sydd gen i yw cychwyn ar y daith honno, ac roedd pobl yno mewn rhesi, i fyny’r grisiau, i fyny at ddrws y fflat, yn aros i ysbeilio beth bynnag roeddem ni’n ei adael ar ôl, yn rhegi a gweiddi arnom, yn poeri arnom wrth i ni adael…Fel fwlturiaid. Ond roedd ein cogydd yn eu plith. Aeth i mewn, gafaelodd yn y llyfr coginio, a gafaelodd mewn ffolder o – mewn ffeil, a gwthiodd yr holl waith celf y gallai ei wthio i mewn iddi.

Steven Fenves, goroeswr yr Holocost

Ym mis Mawrth 1944, gorfodwyd Klári â’i dau blentyn, Steven ac Estera, i geto cyn cael eu cludo i wersyll tramwy ac yn y pen draw i Auschwitz. Cafodd ei gŵr, Lajos, ei alltudio i Auschwitz yn syth. Goroesodd Steven, Estera a Lajos, ond llofruddiwyd Klári yn Auschwitz-Birkenau. Roedd Steven a’i chwaer yn benderfynol o gadw etifeddiaeth eu mam a’u cariad at fwyd eu teulu yn fyw a chyflwynasant lyfr Klári o ryseitiau’r teulu a guradwyd yn ofalus i Amgueddfa Holocost yr Unol Daleithiau. Byddai Steven hefyd yn aml yn siarad am ei fywyd a’r ryseitiau yn llyfr coginio ei fam. Mewn ffrwd fyw yn 2020 gyda’r cogydd Alon Shaya, adroddodd hanes Steven a mwynhaodd greu cacen hufen cnau Ffrengig yr oedd Steven wedi’i dewis fel un o’i hoff ryseitiau o’i blentyndod.

Cacen hufen cnau Ffrengig wedi’i gwneud o rysáit teulu Fenyves (Delwedd gan Emily Shaya, o Medium https://medium.com/memory-action/when-a-family-was-deported-their-cook-saved-treasured-recipes-34709abba724)

Trwy gydol yr erledigaeth faith y mae’r Iddewon wedi ei hwynebu, maent wedi dyfalbarhau heb ildio. Mae eu diwylliant, eu hanes, eu traddodiadau a’u crefydd wedi goroesi yn groes i bob disgwyl wrth i wydnwch y gymuned Iddewig a goroeswyr yr Holocost ddisgleirio drwy’r cyfan. Fe’i gwelir yn glir trwy’r ryseitiau oedd mor agos at eu calonnau. Trwy rannu ryseitiau gyda theuluoedd a’r byd, mae goroeswyr yr Holocost wedi canfod ffordd o beidio â gadael i’r ystadegau ragori ar eu profiad. Gall ymddangos weithiau mai dyna ffocws mwyaf yn hanes yr Holocost a chaiff unigoliaeth profiad pob dioddefwr ei gymylu. Mae’r straeon, yr hanesion teuluol a’r cysylltiadau sy’n ffurfio yn sgil casglu, rhannu, coginio a phobi’r ryseitiau Iddewig a oroesodd yr ymgais i’w dinistrio yn golygu bod rhywfaint o ddynoliaeth wedi ei rhoi’n ôl i’r hanes hwnnw. Mae bwyd yn beth personol iawn i bobl a chymunedau, mae’n ffordd o roi wynebau yn ôl i’r niferoedd sydd wedi golygu bod yr unigolion a’u profiadau unigryw yn aml yn cael eu hanghofio.

Ffynonellau:

‘The Woman Who Hid 600 Recipes From SS Officers’, Y Gymdeithas Fwyd Iddewig (https://www.jewishfoodsociety.org/stories/the-woman-who-hid-600-recipes-from-ss-officers)

Amgueddfa Goffa’r Holocost yr Unol Daleithiau, ‘When a Family Was Deported, Their Cook Saved Treasured Recipes: Make the Walnut Cream Cake’, Medium (https://medium.com/memory-action/when-a-family-was-deported-their-ryseitiau-coginio-arbed-trysor-34709abba724)

Amgueddfa Goffa’r Holocost yr Unol Daleithiau, ‘Steven Fenves Describes His Family’s Persecution during the Holocaust in Yugoslavia’ (youtube.com)

Amgueddfa Goffa’r Holocost yr Unol Daleithiau, Cyfweliad â Steven Fenves, 25 Mawrth 2005 (https://collections.ushmm.org/oh_findingaids/RG-50.030.0494_trs_en.pdf)

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *