Gweithdy Hwb Dyfodol Gwledig gyda Biosffer Dyfi a Tir Canol
15 Rhagfyr 2023
Cynhaliodd yr Hyb Dyfodol Gwledig weithdy yn y Ganolfan Ddeialog “Tir Canol” ym Mhrifysgol Aberystwyth (PA), gan arddangos ymchwil PA perthnasol a darganfod mwy am y prosiectau cyfredol sydd ar y gweill ym Miosffer Dyfi. Rhannwyd pwysigrwydd cydweithio ar brosiectau ymchwil a rhannu gwybodaeth gan bob partner, yn ogystal รข phwysigrwydd cyd-ddylunio a chydweithio tuag at strategaeth ymchwil gyffredin. “Dychmygu’r dyfodol ry’n ni eisiau ei greu”.