Mae’r Ganolfan Dyfodol Gwledig, sydd a’i chartref ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn dod ag arbenigeddau amrywiol sy’n rhychwantu’r gwyddorau naturiol, y gwyddorau cymdeithasol a’r Dyniaethau ynghyd er mwyn mynd i’r afael a’r heriau a fydd yn wynebu ardaloedd gwledig yng Nghymru, Gwledydd Prydain ac yn fyd-eang yn y dyfodol. Nod y Ganolfan yw gosod agendau newydd ar gyfer ymchwil gwledig, a chyfrannu at les cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol cymunedau a thirweddau gwledig.

Bydd y Ganolfan yn canolbwyntio ar 5 thema allweddol sy’n ymwneud a bywyd gwledig, sef: Cymuned, Cysylltedd, yr Amgylchedd, Iechyd a Lles a Mentrau Gwledig.