Dychmygu’r dyfodol Gwledig @ Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru


Cynhaliodd Hwb y Dyfodol Gwledig ddigwyddiad llwyddiannus ar ddiwrnod poeth iawn yn Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru ym mis Gorffennaf 2022. Cyflwynodd yr Athro Alison Kingston Smith yr Hyb i’r sioe, gan groesawu amrywiaeth eang o westeion yn cynnwys aelodau o exec RWAS, cymdeithas y Cerddwyr, cynrychiolwyr o Goedwig Genedlaethol Cymru i enwi dim ond ychydig.

Cadeiriwyd y digwyddiad gan Dr Rachel Rahman gyda siaradwyr gwadd yn cynnwys Mr Jack Evershed, Iechyd a Gofal Gwledig Cymru; Dr Nick Fenwick, Undeb Amaethwyr Cymru; Mr Jerry Langford, Coed Cadw a Dr Sarah Hetherington, Cyfoeth Naturiol Cymru yn siarad am faterion gwledig cyfoes, a chyfleoedd mewn lleoliadau gwledig yn y dyfodol.. Roedd gwesteion y panel yn cwmpasu ystod eang o faterion gwledig sy’n gorgyffwrdd. gan gynnwys rhai o anghenion croes tirweddau gwledig, yn ogystal รข’r potensial enfawr i goetiroedd ac amgylcheddau naturiol helpu gydag iechyd a lles.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *