Gweithdy’r Ganolfan Dyfodol Gwledig


Daeth academyddion ac ymchwilwyr Prifysgol Aberystwyth, sydd a diddordeb mewn materion ymchwil gwledig, ynghyd yn nigwyddiad rhwydweithio rhyngddisgyblaethol cyntaf y Ganolfan Dyfodol Gwledig ar 17/11/21.

Colourful notes pinned on a wooden wall

Ymhlith y themau a’r heriau gwledig allweddol a ddaeth i’r amlwg yn y digwyddiad roedd iechyd gwledig (iechyd pobl ac anifeilaid, a’r cysylltiadau rhynddynt); trafnidiaeth a chysylltedd (effaith seilwaith trafnidiaeth wledig a chysylltedd digidol); yr economi wledig a manteision ac anfanteision twristiaeth; yr amgylchedd (gan gynnwys defnydd tir, colli bioamrywiaeth); a sgiliau (gwybod beth yw’r anghenion a gwella sgilliau mewn ardaloedd gwledig).

Bydd manylion cronfeydd arian sefydlu i ddatblygu rhagor ar y syniadau hyn yn cael eu rhannu’n fuan iawn.

Cows in a field

O’r ymatebion a gasglwyd yn y gweithdy (ac roedd llawer o rai eraill a diddordeb na allent fod yn bresennol ar y dydd), mae’n amlwg bod yma, ym Mhrifysgol Aberystwyth, gyfoeth o wybodaeth am faterion ymchwil gwledig. Mae hefyd yn bosib meithrin cysylltiadau a chyrff y tu hwnt i’r Brifysgol y gellid eu dwyn ynghyd i helpu i ddatblygu cysylltiadau ehangach rhwng y Brifysgol a chymunedau, rhanddeiliaid a llywodraethau lleol a rhyngwladol.

Edrychwn ymlaen at gynnal digwyddiadau rhyngddisgyblaethol yn y dyfodol gyda staff y Brifysgol a’r gymuned ehangach.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *