Mae pandemig y coronafeirws, sy’n dal i fynd rhagddo, yn effeithio ar bob agwedd ar fywyd, gan ddylanwadu ar iechyd a lles pobl, diogelwch ariannol, sefydlogrwydd cymdeithasol a gwleidyddol, a gobeithion unigolion a chymunedau ar gyfer y dyfodol. Mae byw gyda’r coronafeirws wedi amlygu llawer o’n ffyrdd arferol o fyw a bod, a hefyd ein ffyrdd o fyw ar y blaned hon, gan gynnwys ein hymwneud â’r byd y tu hwnt i fyd pobl. Mae COVID-19 wedi ein hatgoffa mewn modd difrifol o drist o’r rhyng-gysylltiadau yr ydym oll yn dibynnu arnynt, ac mae bygythiadau parhaus newid yn yr hinsawdd a cholli bioamrywiaeth yn tanlinellu hyn.

Yn sgil y materion hyn, sydd oll yn ymblethu, mae arnom angen ymatebion diwylliannol, artistig a thechnolegol i’n helpu i ailddiffinio gweledigaethau newydd ynghylch yr hyn sy’n bwysig, a sut i ymwneud â realaethau a pherthnasau ein planed, yn rhai dynol a’r tu hwnt i hynny. Sut beth yw byd iach, cyfiawn a chreadigol ôl-COVID, yng nghyd-destun argyfwng amgylcheddol a chymdeithasol? A pha gamau y gellid eu cymryd tuag at gyd-fodoli mewn modd mwy cynhwysol, moesegol a chynaliadwy, o safbwynt ein cymdeithas a’n planed?