Dylai’r cynnig roi amlinelliad bras, cychwynnol o’ch syniadau, boed fel unigolyn neu ar y cyd, o fewn 150 i 250 o eiriau. Neu gallwch gyflwyno ffeil sain neu fideo 3 munud o hyd (uchafswm) yn esbonio’r cyfraniad yr ydych yn ei gynnig. Neu’r trydydd dewis ar gyfer cynigion yw rhoi sampl bach o ddeunyddiau gweledol, yn ogystal â sylwebaeth fer nad yw’n hwy na 100 gair, y gellid ymhelaethu arnynt mewn cyfraniad llawn.

Dylai’r cynnig gynnwys:

  • Thema’r cyfraniad a gynigir.
  • Y dull o gyfathrebu/cyfrwng a ddefnyddir i’w gyflwyno.
  • Y cwestiynau y mae’n ymdrin â hwy o ran bywyd a’r ddaear yn ystod a’r tu hwnt i COVID-19.
  • Datganiad technegol byr, lle bo’n berthnasol, ynghylch: (a) pa gyfryngau y bydd eu hangen i arddangos y gwaith; (b) a fydd yn cael ei arddangos ar-lein ynteu mewn gofod arddangos yn bennaf; ac (c) gofynion gofod ar gyfer unrhyw arddangosfa a fydd yn cynnwys y deunydd.

Byddwn yn cadw’r gwahoddiad am gynigion ar agor hyd 31 Gorffennaf 2021, a disgwylir i’r arddangosfa ar-lein gael ei lansio ddiwedd Ebrill, gan dyfu dros amser wrth i ddeunydd gael ei ychwanegu.

Croesawn gynigion am gyfraniadau gan fyfyrwyr ar bob lefel – israddedig neu uwchraddedig.

Gellir cyfrannu tuag at yr arddangosfa trwy gyfrwng y Gymraeg, y Saesneg neu’r ddwy iaith.

Mae Y Bywyd a Fynnwn yn brosiect sy’n gynhwysol o ran rhywedd. Rydym ni’n croesawu cynigion sy’n ystyried ac/neu’n adlewyrchu amrywiaeth profiad pobl yn ystod ac wedi COVID-19.