Gwahoddir myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth a Chanolfan y Dechnoleg Amgen i gyflwyno cynigion am gyfraniadau ysgolheigaidd, creadigol neu rai sy’n pontio’r beirniadol a’r creadigol ar gyfer arddangosfa amlsafle: i’w chynnal mewn lleoliadau yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen a Phrifysgol Aberystwyth yn y cyfnod hyd at ac yn cynnwys COP26 (1-12 Tachwedd 2021); ac mewn gofod ar-lein a fydd yn cael ei guradu gan y ddau sefydliad o fis Mehefin 2021 ymlaen.

Rydym yn chwilio am gyfraniadau a fydd yn mynd i’r afael â thema gyffredinol yr arddangosfa, fel y’i hamlinellwyd uchod, o unrhyw un o’r safbwyntiau canlynol, neu gyfuniad ohonynt:

  • Iechyd, lles, cenedlaethau’r dyfodol, gwaith, symudedd, a’r cartref
  • Cyfiawnder cymdeithasol, mynediad cyfartal i wasanaethau/lleoedd, cyflogaeth, cyfranogiad, a thegwch
  • Diwylliant, treftadaeth, hunaniaeth, cyfathrebu, creu a gwneud
  • Bioamrywiaeth, cadwraeth natur, adfywio, defnydd tir, bwyd
  • Sero net, allyriadau, systemau ynni, dyfodol carbon isel, dylunio cynaliadwy

Gall y cyfraniadau ddefnyddio unrhyw fath o gyfrwng, neu gyfuniad o gyfryngau, gan gynnwys, ymhlith eraill: ysgrifenedig, llafar, fideo, gweledol, perfformiad (e.e. dawns, celfyddyd perfformio – byw, wedi’i ffrydio’n fyw neu ei recordio, os yw’r amgylchiadau’n caniatáu hynny), arteffactau a gosodiadau, gwe-gyfryngau a realiti estynedig neu rithiol.