Cyflwyniad a Holi ac Ateb | Presentation and Q&A
09 Nov
12:00
Until
09 Nov, 12:45
45m
Cychwyn arni gyda LinkedIn Learning
Ar-lein | Online
A ydych chi wedi clywed am LinkedIn Learning? O oes gennych ddiddordeb mewn dysgu sut i’w ddefnyddio i’ch helpu i ddatblygu amrywiaeth o sgiliau, gan gynnwys eich sgiliau digidol?
Mae LinkedIn Learning, sydd ar gael am ddim i fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth, yn llwyfan dysgu ar-lein. Mae’n cynnwys llyfrgell ddigidol helaeth o gyrsiau a fideos byr dan arweiniad arbenigwyr, a fydd yn eich cefnogi i ddatblygu eich sgiliau proffesiynol, i ddysgu meddalwedd newydd, neu i archwilio meysydd eraill.
Yn ystod y sesiwn hon, byddwn ni’n dangos i chi sut i:
- Lywio’r llwyfan a chwilio am gynnwys perthnasol
- Arddangos tystysgrifau ar gyfer cyrsiau yr ydych wedi cwblhau ar eich proffil LinkedIn personol
- Grwpio cynnwys sydd yn seiliedig ar bwnc penodol, neu yr ydych eisiau gwylio rhywbryd arall, fel casgliadau personol